Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cyllid ar gyfer myfyrwyr rhan-amser

Os ydych chi'n fyfyriwr addysg uwch rhan-amser, gellir cael cymorth ariannol tuag at eich ffioedd a chostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs. Mae faint a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol a'r math o gwrs yr ydych yn ei wneud.

Faint fydd astudio rhan-amser yn y brifysgol yn ei gostio?

Eich prifysgol neu'ch coleg fydd yn penderfynu faint yw'r ffioedd dysgu ar gyfer cyrsiau rhan-amser: nid oes lleiafswm nac uchafswm.

Os ydych chi'n astudio rhan-amser, tybir y byddwch yn talu am eich costau byw drwy waith a chynilion. Ond os ydych chi ar incwm isel, mae'n bosib y gallwch gael cymorth ariannol a fwriedir i helpu i dalu am eich ffioedd dysgu a chostau sy'n gysylltiedig â'ch cwrs (megis llyfrau a chostau teithio).

Defnyddiwch y dolenni isod i gael gwybod mwy am ffioedd dysgu a chostau cyrsiau - a chyngor am gyllidebu.

Cymorth i fyfyrwyr rhan-amser: Grant Ffioedd a Grant Cwrs

byddwch yn gymwys i gael uchafswm y cymorth os ydych chi'n cael budd-daliadau penodol

Dyma'r prif ffynonellau cymorth ar gyfer myfyrwyr rhan-amser:

  • Grant Ffioedd (i helpu â ffioedd dysgu) - a gaiff ei dalu'n syth i'ch prifysgol neu'ch coleg.
  • Grant Cwrs (i helpu gyda chostau astudio megis llyfrau, deunyddiau a chostau teithio) - a gaiff ei dalu'n syth i chi

Mae'r hyn sydd ar gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol a'r math o gwrs yr ydych yn ei ddilyn. Ni fydd yn rhaid i chi ad-dalu unrhyw gymorth a gewch drwy'r Grant Ffioedd na'r Grant Cwrs.

Grant Ffioedd a Grant Cwrs: os ydych chi'n cael budd-daliadau

Os ydych chi'n cael budd-daliadau penodol, byddwch yn gymwys yn awtomatig i gael y Grant Ffioedd uchaf a'r Grant Cwrs sydd ar gael ar gyfer dwyster eich cwrs.

Grant Ffioedd a Grant Cwrs: os oes gennych bartner neu blant

Gallwch fod yn gymwys i gael lefel benodol o gymorth ariannol er bod incwm eich cartref yn uwch na'r uchafswm arferol os oes gennych bartner sy'n byw gyda chi, neu blant sy'n ddibynnol arnoch - ond mae'n bosib y bydd incwm eich partner yn cyfrif tuag at incwm eich cartref.

Grant Ffioedd a Grant Cwrs: cyfrifo faint y gallwch chi ei gael

Bydd yr uchafswm y Grant Ffioedd y gallwch ei gael yn dibynnu ar 'ddwyster' eich cwrs - pa mor hir y bydd yn ei gymryd i'w gwblhau o'i gymharu â chyrsiau amser llawn cyfatebol.

Ar gyfer y cyrsiau mwyaf dwys, bydd uchafswm o £1,400 ar gael ar gyfer 2007/2008 drwy'r Grant Ffioedd a'r Grant Cwrs wedi'u cyfuno. Ar gyfer 2008/2009, £1,435 yw'r ffigur.

Os ydych chi'n cael budd-daliadau penodol, byddwch yn cael y Grant Ffioedd uchaf a'r Grant Cwrs uchaf sydd ar gael ar gyfer dwyster eich cwrs.

Fel arall, gall cyfrifo'n union faint y mae gennych hawl i'w gael fod yn eithaf cymhleth. Ond fel canllawn cyffredinol, dyma fydd angen i chi ei wneud:

  • edrych i weld a ydych chi a'ch cwrs yn gymwys i gael y grantiau
  • cael gwybod pa mor ddwys yw eich cwrs - dyma sy'n gosod uchafswm y Grant Ffioedd y gallwch ei gael
  • edrych i weld a yw unrhyw fudd-daliadau a gewch yn eich gwneud yn gymwys i gael y Grant Ffioedd uchaf a'r Grant Cwrs uchaf - neu fel arall bydd y swm a gewch yn seiliedig ar incwm eich cartref
  • os oes gennych chi bartner, holwch a fydd eu hincwm hwythau'n cael ei ystyried
  • cyfrifwch eich incwm, a'i addasu ar gyfer unrhyw blant neu ddibynyddion eraill

Dilynwch y ddolen i 'Grant Ffioedd a Grant Cwrs: a ydych chi'n gymwys?' i weld a ydych chi'n gymwys, ac i weld y Grant Ffioedd uchaf y gallwch ei gael ar sail dwyster eich cwrs.

Yna edrychwch ar 'Asesiad incwm ar gyfer myfyrwyr rhan-amser'. Bydd yr adran hon yn dweud wrthych:

  • sut y bydd eich incwm yn cael ei addasu os oes gennych bartner, priod neu blant dibynnol
  • fant y gallwch ei gael, ar sail eich incwm

Sut mae gwneud cais am y Grant Ffioedd a'r Grant Cwrs

Bydd angen i chi wneud cais ar wahân am bob blwyddyn academaidd, gan ddefnyddio'r ffurflen gais am gyllid i fyfyrwyr rhan-amser (PTG1). Gallwch lwytho copi drwy ddilyn y ddolen isod neu ofyn i'ch awdurdod lleol anfon un atoch chi.

Llenwch y ffurflen a mynd â hi gyda chi i'ch coleg neu'ch prifysgol pan fyddwch yn dechrau ar eich cwrs.

Bydd y swyddfa weinyddu yn llenwi gweddill y ffurflen (ar ôl i chi fod yno am bythefnos os ydych chi'n fyfyriwr newydd) gan gadarnhau'r canlynol:

  • eich bod yn fyfyriwr yno
  • pa mor ddwys yw'ch cwrs
  • beth yw'r ffioedd dysgu

Fel arfer, bydd angen i chi wedyn anfon y ffurflen i'ch awdurdod lleol - ond mewn rhai achosion, bydd Student Finance Direct yn ymdrin â'r cais.

Bydd y ddolen isod yn rhoi manylion cyswllt eich awdurdod lleol chi, neu'n dweud wrthych a oes angen ichi anfon eich ffurflen i'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.

Os ydych yn fyfyriwr yn y Brifysgol Agored

Mae'r un rheolau yn berthnasol i'r grant ffioedd a'r grant cwrs, ond mae'r Brifysgol Agored yn ymdrin â'i cheisiadau ei hun. Cysylltwch yn uniongyrchol â'r Brifysgol Agored yn i gael ffurflen gais ar wahân.

Grantiau gan elusennau ac ymddiriedolaethau addysg

Ceir nifer o ymddiriedolaethau ac elusennau sy'n rhoi cymorth ariannol i fyfyrwyr addysg uwch. Mae'n bosib y gallwch gael dyfarniad gan un o'r rhain ar ben cyllid myfyrwyr a ddarperir gan y Llywodraeth.

Cael cyngor gan y Gwasanaeth Ymgynghorol Grantiau Addysgol (EGAS)

Gall y Gwasanaeth Ymgynghorol Grantiau Addysgol (EGAS) eich helpu i wybod beth sydd ar gael. Mae EGAS yn rhoi canllawiau arbenigol i fyfyrwyr ar gael arian ar gyfer addysg a hyfforddiant - yn arbennig i'r rheini sy'n dod o gefndir difreintiedig.

Cael gwybod mwy

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth hefyd yn y rhan fwyaf o lyfrgelloedd cyhoeddus. Dyma rai cyhoeddiadau defnyddiol:

  • y Cyfeiriadur Grantiau Addysgol
  • Charities Digest
  • Grants Register
  • Directory of Grant Making Trusts

Bydd cynghorydd myfyrwyr yn eich coleg neu'ch prifysgol yn gallu dweud mwy wrthych hefyd.

Cynllun Cymorth Ychwanegol ar gyfer Ffioedd a Chronfeydd Mynediad at Ddysgu

Y Cynllun Cymorth Ychwanegol ar gyfer Ffioedd

Mae'n bosib bod eich prifysgol neu'ch coleg yn rhedeg y Cynllun Cymorth Ychwanegol ar gyfer Ffioedd. Gallai'r cynllun hwn ddarparu cymorth ychwanegol dan yr amgylchiadau canlynol:

  • os ydych chi ar incwm isel
  • os bydd eich cwrs yn cymryd mwy na dwywaith yn hirach i'w gwblhau na'r cwrs amser llawn cyfatebol.
  • os ydych chi'n cael y Grant Ffioedd, ond nid yw'n talu am eich ffioedd dysgu'n llawn - ac ni allech wneud cais am le ar gwrs, neu barhau i ddilyn cwrs, heb gymorth ychwanegol

Y Gronfa Mynediad at Ddysgu

Os ydych chi'n wynebu anawsterau ariannol, mae'n bosib bod cymorth ar gael drwy'r Gronfa Mynediad at Ddysgu

Caiff y cynlluniau hyn eu rhedeg ganbrifysgolion a cholegau yn Lloegr. Ni fydd prifysgolion na cholegau'r Alban, Cymru na Gogledd Iwerddon yn cymryd rhan yn y cynlluniau, ond mae'n bosib eu bod yn cynnig cymorth tebyg.

Gallwch weld beth sydd ar gael gan swyddfa cymorth myfyrwyr eich prifysgol neu'ch coleg

Myfyrwyr anabl - cymorth ychwanegol

Os oes gennych anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu anhawster dysgu penodol, gallwch wneud cais am gymorth ychwanegol drwy'r Lwfansau Myfyrwyr Anabl. Ni fydd y swm y gallwch ei gael yn dibynnu ar incwm eich cartref.

Hawlio budd-daliadau

Fel myfyriwr rhan-amser, mae'n bosib i chi hawlio budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag incwm. Ni fydd unrhyw Grant Ffioedd neu Grant Cwrs a gewch yn cael ei ystyried yn incwm wrth gyfrifo'ch hawl i gael budd-daliadau.

I gael mwy o wybodaeth, gweler 'Budd-daliadau i fyfyrwyr sydd ar incwm isel'

Benthyciadau Datblygu Gyrfa

Os nad yw'ch amgylchiadau'n caniatâu i chi dderbyn cymorth ariannol gan y Llywodraeth, mae'n bosib y gallwch gael Benthyciad Datblygu

Cyrsiau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon rhan-amser

Mae'r cymorth ariannol sydd ar gael yn wahanol i fyfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon rhan-amser. Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy.

Llwytho'r canllawiau i'r drefn cymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr rhan-amser

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU