Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cymorth ychwanegol i fyfyrwyr â phlant

Os ydych chi'n fyfyriwr addysg uwch amser llawn gyda phlant dibynnol, gallech gael cymorth ariannol ychwanegol. Gall y Grant Gofal Plant helpu â chostau gofal plant, a gall y Lwfans Dysgu i Rieni helpu â chostau sy'n gysylltiedig â'ch cwrs. Mae mathau eraill o gymorth yn cynnwys Credyd Treth Plant a'r Gronfa Mynediad at Ddysgu.

Cymorth ariannol ar gyfer rhieni mewn addysg uwch

Gallai myfyrwyr amser llawn a chanddynt blant fod yn gymwys am gymorth ariannol ychwanegol ar ben y pecyn cyllid myfyrwyr sylfaenol. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, gallech gael y canlynol:

  • y Grant Gofal Plant (i helpu â chostau gofal plant)
  • y Lwfans Dysgu i Rieni (i helpu i gyfrannu at gostau cwrs)
  • cymorth drwy'r Gronfa Mynediad at Ddysgu (os ydych chi'n wynebu anawsterau ariannol)
  • Credyd Treth Plant

Dim ond canllaw cyffredinol i'r cymorth ariannol sydd ar gael os oes gennych blant yw'r wybodaeth a geir ar y dudalen hon. I gael mwy o fanylion ynghylch y cymorth ychwanegol y gallwch ei gael, llwythwch gopi o'r llyfryn 'Grant Gofal Plant a mathau eraill o gymorth ar gyfer rhieni sy'n fyfyrwyr amser llawn'.

Grant Gofal Plant: cymorth gyda chostau gofal plant

Bwriad y Grant Gofal Plant yw helpu myfyrwyr amser llawn gyda chostau gofal plant yn ystod y tymor ac yn ystod y gwyliau. Nid oes rhaid i chi ad-dalu unrhyw arian a gewch.

Mae'r tabl isod yn dangos yr uchafswm sydd ar gael, ond bydd faint gewch chi mewn gwirionedd yn dibynnu ar y canlynol:

  • eich incwm chi ac incwm eich dibynyddion (er enghraifft, eich gŵr, eich gwraig neu'ch partner)
  • gwir gost eich gofal plant

Yr uchafswm sydd ar gael:

Cyfraddau ar gyfer  Un plentyn Dau neu fwy o blant

2008/2009 or 2007/2008

Hyd at £148.75 yr wythnos
(85% o wir gostau sydd hyd at £175 yr wythnos)
Hyd at £255 yr wythnos
(85% o wir gostau sydd hyd at £300 yr wythnos)

Pwy gaiff wneud cais am Grant Gofal Plant?

Cewch wneud cais:

  • os ydych yn fyfyriwr amser llawn
  • os oes gennych blant dan 15 oed sy'n ddibynnol arnoch - ac maent yn derbyn gofal plant sy'n gymwys ar gyfer y grant
  • os oes gennych blant dan 17 oed gydag anghenion arbennig sy'n ddibynnol arnoch - ac maent yn derbyn gofal plant sy'n gymwys ar gyfer y grant

Os ydych chi, eich gŵr, eich gwraig neu eich partner, yn cael elfen gofal plant Credyd Treth Gwaith, ni fydd yn bosib i chi hawlio'r Grant Gofal Plant hefyd.

Mathau o ofal plant sy'n gymwys

Nid yw pob math o ofal plant yn gymwys ar gyfer y Grant Gofal Plant. Bydd yr amodau y bydd angen i'ch darparwr gofal plant eu bodloni yn amrywio gan ddibynnu ar lle yn y DU y byddwch yn astudio. Dilynwch y ddolen berthnasol isod i gael gwybod a ydynt yn gymwys ai peidio.

Gallech hefyd fod yn gymwys i gael y Grant Gofal Plant:

  • os ydych yn fyfyriwr o Loegr sy'n astudio dramor fel rhan o gwrs yr ydych yn ei ddilyn yn y DU, ac
  • os ydych yn gallu defnyddio gofal plant a ddarperir dan un o gynlluniau achredu'r Weinyddiaeth Amddiffyn tra'ch bod dramor

Lwfans Dysgu i Rieni

Gall y Lwfans Dysgu i Rieni helpu i dalu am gostau sy'n gysylltiedig â'r cwrs megis llyfrau, deunyddiau a chostau teithio. Mae ar gael yn ychwanegol i unrhyw gyllid myfyrwyr sylfaenol a gewch, ac nid oes rhaid ei dalu'n ôl.

Faint sydd ar gael drwy'r Lwfans Dysgu i Rieni?

Bydd faint o Lwfans Dysgu i Rieni a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref. Ar gyfer 2008/2009, £1,470 y flwyddyn yw’r uchafswm. Ar gyfer 2007/2008, £1,435 y flwyddyn yw'r uchafswm.

Pwy gaiff wneud cais?

Mae'r Lwfans Dysgu i Rieni ar gael os ydych yn fyfyriwr amser llawn gyda phlant dibynnol. Cewch wneud cais os ydych yn cael y Grant Gofal Plant ai peidio.

Grant Gofal Plant a Lwfans Dysgu i Rieni: sut i wneud cais

Gallwch wneud cais am y Grant Gofal Plant neu'r Lwfans Dysgu i Rieni cyn neu yn ystod eich cwrs.

Ar y brif ffurflen gais am gyllid myfyrwyr, cwblhewch yr adran sy'n gofyn i chi wneud cais am gymorth ychwanegol i fyfyrwyr sydd â phlant.

Y Gronfa Mynediad at Ddysgu

Gall y Gronfa Mynediad at Ddysgu ddarparu cymorth i fyfyrwyr sydd ar incwm is sy'n canfod eu bod yn wynebu anawsterau ariannol.

Y prifysgolion a'r colegau fydd yn penderfynu sut i rannu'r taliadau, ond bydd myfyrwyr a chanddynt blant - ac yn enwedig unig rieni - yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth ar gyfer y gronfa.

Credyd Treth Plant a budd-daliadau eraill

Efallai y gallwch hefyd hawlio Credyd Treth Plant gan Gyllid a Thollau EM. Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol a'ch incwm.

Ni fydd yr arian a gewch drwy'r Grant Gofal Plant neu'r Lwfans Dysgu i Rieni yn cael ei ystyried yn incwm wrth gyfrifo'ch hawl i gredydau treth neu fudd-daliadau eraill.

Beth i’w wneud os bydd eich amgylchiadau’n newid

Os bydd eich amgylchiadau'n newid – er enghraifft, os bydd eich incwm yn cynyddu neu'n gostwng - mae'n bwysig rhoi gwybod i'r canlynol:

  • eich awdurdod lleol os ydych chi'n cael y Grant Gofal Plant neu'r Lwfans Dysgu i Rieni
  • eich prifysgol neu'ch coleg os ydych chi'n cael cymorth drwy'r Gronfa Mynediad at Ddysgu
  • Cyllid a Thollau EM, os ydych chi'n cael credydau treth

Pa fath arall o gymorth allwch chi ei gael?

Telir y cymorth ar gyfer myfyrwyr â phlant ar ben y pecyn cyllid myfyrwyr sylfaenol.

I gael gwybod pa fathau eraill o gymorth ariannol y gallech chi eu cael, dilynwch un o'r dolenni isod. Os ydych chi'n fyfyriwr newydd, neu os dechreuoch eich cwrs o fis Medi 2006, gweler ‘Myfyrwyr amser llawn: dechrau arni’. Fel arall, gweler ‘Cyllid myfyrwyr: wedi dechrau cyn 2006?’.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU