Os ydych yn hyfforddi i weithio mewn gwaith cymdeithasol, meddygaeth neu mewn adrannau penodol ym maes gofal iechyd, efallai fod gennych yr hawl i gael bwrsari gan y GIG.
Gallwch wneud cais am gymorth ariannol ychwanegol neu fath gwahanol o gymorth ariannol os byddwch yn astudio ar gyfer gyrfa mewn gwaith cymdeithasol, meddygaeth, deintyddiaeth, neu adrannau penodol ym maes gofal iechyd.
Mewn rhai achosion caiff y cymorth hwn ei dalu ar ben y pecyn cyllid myfyrwyr sylfaenol (a ddisgrifir mewn man arall yn yr adran ar gyllid myfyrwyr) ac mewn achosion eraill caiff ei dalu yn lle'r pecyn hwnnw. Am fwy o wybodaeth am y pecyn sylfaenol, gweler 'Myfyrwyr amser llawn - dechrau arni' neu 'Cyllid ar ôl eich blwyddyn gyntaf'.
Os ydych yn astudio ar gyfer gyrfa mewn gwaith cymdeithasol, gallwch fod â'r hawl i dderbyn bwrsari na fydd yn rhaid i chi ei dalu'n ôl. Caiff hwn ei dalu gan y Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol, ac mae ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio gradd gymeradwy neu gwrs diploma mewn gwaith cymdeithasol. Bydd eich sefydliad yn dweud wrthych a yw eich cwrs yn gymwys.
Er nad oes gan fyfyrwyr ôl-radd yr hawl fel arfer i gael cymorth gan y pecyn cyllid myfyrwyr sylfaenol, bydd gan fyfyrwyr ôl-radd ar y cwrs gradd gwaith cymdeithasol yr hawl i wneud cais am y Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Cynhaliaeth yn llawn (mae 25 y cant o hwn yn seiliedig ar eich incwm). Bydd y gefnogaeth ychwanegol sydd ar gael gan y Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol yn talu am fyfyrwyr sydd wedi graddio a myfyrwyr bad ydynt wedi graddio eto.
Gallwch wneud cais am y bwrsari hwn os byddwch yn gallu cael y pecyn cyllid myfyrwyr sylfaenol ai peidio.
Os ydych ar gwrs meddygol neu ddeintyddol am bum neu chwe blynedd, gallwch wneud cais am gymorth ariannol ychwanegol. I fod yn gymwys, mae'n rhaid i chi:
Caiff pedair blynedd gyntaf eich cwrs eu hariannu yn yr un ffordd â chyrsiau addysg uwch amser llawn eraill sy'n gymwys (gweler 'Myfyrwyr amser llawn - dechrau arni'). Fodd bynnag, yn y bumed flwyddyn a blynyddoedd astudio pellach, bydd gennych hawl i gael cymorth ariannol gwahanol. Dyma'r prif elfennau:
Ceir cymorth ychwanegol hefyd i fyfyrwyr ar raglenni meddygol mynediad drwy radd pedair blynedd.
Caiff blwyddyn gyntaf eich cwrs ei hariannu yn yr un ffordd â myfyrwyr ar gyrsiau mynediad drwy radd eraill, er nad oes fel arfer unrhyw help ar gyfer ffioedd dysgu yn seiliedig ar eich incwm.
Yn y flwyddyn gyntaf, bydd gennych yr hawl i wneud cais am y Benthyciad Myfyrwyr ar gyfer Cynhaliaeth llawn (bydd 25 y cant o hwn yn seiliedig ar eich incwm).
Rhwng yr ail flwyddyn a'r bedwaredd, bydd gennych yr hawl i gael cymorth ariannol gwahanol. Dyma'r prif elfennau:
Mae'r GIG hefyd yn darparu cymorth ariannol ar ffurf bwrsarïau a lwfansau eraill ar gyfer nifer cyfyngedig o lefydd ar gyrsiau mewn proffesiynau gofal iechyd penodol.
Dyma'r prif elfennau:
I dderbyn y bwrsari gwaith cymdeithasol, bydd yn rhaid i chi fodloni'r meini prawf cymhwyso a amlinellir ar ffurflen gais a nodiadau cyfarwyddyd y bwrsari. Gallwch lwytho'r ffurflen a'r nodiadau drwy ddilyn y ddolen isod.
Dylech sicrhau bod y ffurflen a'r nodiadau cyfarwyddyd yn berthnasol i'r dyddiad y bydd eich cwrs yn dechrau.
Cyrsiau gofal iechyd
Bwrsarïau'r GIG fydd yn delio â cheisiadau am fwrsarïau'r GIG a mathau eraill o gymorth ariannol ar gyfer proffesiynau meddygol, deintyddol a gofal iechyd penodol i fyfyrwyr sy'n astudio yn Lloegr.
Gallwch weld rhestr lawn o'r cyrsiau sy'n cael eu talu a'r cymorth ariannol sydd ar gael yn y llyfryn, 'Cymorth Ariannol ar gyfer Myfyrwyr Gofal Iechyd'.
Gallwch gael copi o'r llyfryn ar-lein ar wefan Bwrsarïau Myfyrwyr y GIG.
Gallwch hefyd wneud cais am gymorth ariannol gan y Gronfa Mynediad at Ddysgu os ydych mewn caledi ariannol. Gweler 'Y Gronfa Mynediad at Ddysgu: cymorth ychwanegol os bydd ei angen arnoch' am fwy o fanylion