Bydd eich awdurdod lleol yn asesu a ydych yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol ai peidio ar sail incwm eich cartref. Bydd rhieni, partneriaid neu wŷr/gwragedd yn darparu'r wybodaeth hon ar yr un pryd ag y bydd y myfyriwr/wraig yn gwneud eu cais.
Pan fydd myfyriwr/wraig yn gwneud cais am gymorth ariannol, bydd yr awdurdodau lleol yn penderfynu faint o fenthyciadau myfyrwyr a grantiau a ganiateir iddynt trwy edrych ar eu hincwm, ac incwm eu cartref.
Golyga hyn y bydd gofyn i rieni, partneriaid a gwŷr/gwragedd myfyrwyr gefnogi ceisiadau myfyrwyr am gymorth ariannol trwy ddarparu eu manylion ariannol.
I gael gwybod mwy am rôl a rhwymedigaethau rhieni, partneriaid a gwŷr/gwragedd, ac am breifatrwydd gwybodaeth, gweler 'Rôl rhieni, gwŷr, gwragedd a phartneriaid'.
Os bydd myfyriwr/wraig yn gwneud eu cais am gymorth ariannol trwy ddefnyddio'r ffurflen gais bapur (PN1), bydd adran ar y ffurflen hon y mae'n rhaid i riant, gŵr/gwraig neu bartner (a elwir weithiau'n 'noddwr') y myfyriwr/wraig ei llenwi.
Os bydd y myfyriwr/wraig wedi gwneud eu cais ar-lein, byddwch yn derbyn cyfrineiriau diogelwch, a chewch ddewis gwneud cais ar-lein neu ar bapur.
Gan ddibynnu ar y wybodaeth a ddarparwch, efallai y cewch eich gwahodd i anfon tystiolaeth ddogfennol at eich awdurdod lleol. Os felly, cewch ganllawiau priodol pan fyddwch yn llenwi'r cais.
Rhaid bod y myfyriwr wedi llenwi eu rhan nhw o'r cais ar-lein cyn y gallwch chi roi'r manylion ariannol y gofynnir amdanynt.
Os bydd y myfyriwr/wraig yn nodi ar eu cais eich bod yn dymuno darparu'ch manylion ar-lein, rhoddir ID unigryw iddo/iddi (a elwir yn Alias ID) i'w rhoi i chi. Allwch chi ddim rhoi eu gwybodaeth ar-lein heb yr Alias ID.
Er mwyn darparu manylion ariannol ar-lein i gefnogi cais myfyriwr, bydd angen i chi:
Rhoddir Alias ID am bob myfyriwr/wraig yr ydych yn ei g/chefnogi.
I gefnogi cais am gyllid myfyrwyr ar-lein, dilynwch y ddolen isod.
Cyn i chi gwblhau'ch rhan chi o'r cais, bydd angen i chi wybod a yw'r myfyriwr/wraig yn 'annibynnol' ynteu'n 'ddibynnol'.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i 'Sut mae asesu incwm yn gweithio'.