Beth fydd angen i chi ei wybod am eich rôl a'ch cyfrifoldebau os byddwch yn cefnogi myfyriwr/wraig trwy'r brifysgol neu goleg.
Os ydych chi'n rhiant, yn ŵr/gwraig neu'n bartner (a elwir weithiau'n 'noddwr') i fyfyriwr/wraig, efallai y bydd disgwyl i chi gyfrannu tuag at eu costau tra'u bod yn y brifysgol neu goleg.
Bydd eich awdurdod lleol yn pennu a fydd angen i chi gyfrannu ai peidio, a maint y cyfraniad. Caiff y penderfyniad hwnnw ei wneud ar sail y wybodaeth a rowch chi pan fydd y myfyriwr/wraig yn gwneud cais am Fenthyciad Myfyrwyr, grant neu gymorth gyda ffioedd dysgu.
Am golwg gyffredinol ar y mathau o gymorth y gall myfyrwyr eu cael, gweler ‘Arian ar gyfer y brifysgol’. Hefyd gallwch lwytho ‘Talking Money’, canllaw i rieni sy’n egluro’r pecyn cyllid myfyrwyr, a hefyd sy’n rhoi awgrymiadau ar gyllidebu, cyfrifon banc i fyfyrwyr, cardiau credyd a swyddi rhan amser.
Os bydd eich awdurdod lleol yn penderfynu bod angen i chi gyfrannu, byddant yn cymryd yn ganiataol eich bod yn gwneud hynny. Os na fyddwch yn gwneud y cyfraniad hwn, mae'n debygol na fydd gan y myfyriwr/wraig ddigon o arian i ariannu'u hastudiaethau.
Bydd angen i chi ddarparu manylion incwm eich cartref i sicrhau y bydd y myfyriwr/wraig yn derbyn swm llawn y benthyciadau myfyrwyr, grantiau, a chymorth ariannol arall y mae ganddynt hawl i'w dderbyn.
Pan fyddwch yn darparu manylion am eich incwm, bydd angen i chi hefyd gyflwyno dogfennau gwreiddiol yn brawf o'r incwm hwnnw.
Am fwy o wybodaeth ynghylch beth fydd angen i chi ei wneud, gweler 'Sut mae cefnogi cais am gyllid myfyrwyr'.
Pan fydd eich awdurdod lleol yn asesu'r cais, byddant yn edrych ar eich incwm ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol.
Os yw eich incwm wedi gostwng yn sylweddol ers hynny (15 y cant neu fwy), mae'n bosib y byddant yn adolygu'ch incwm tebygol ar gyfer y flwyddyn gyfredol.
Am fwy o wybodaeth, gweler 'Sut mae asesu incwm yn gweithio'.
Mae'r Ddeddf Diogelu Data yn mynnu y cedwir eich holl wybodaeth, a gwybodaeth y myfyriwr/wraig, yn breifat. Golyga hyn nad oes gennych hawl i weld gwybodaeth am gais y myfyriwr/wraig am gymorth, ac nid oed ganddyn nhw hawl i weld gwybodaeth am eich incwm.
Y myfyriwr/wraig ei hun sy'n gyfrifol am ad-dalu benthyciad myfyriwr neu beidio.
Er y bydd angen i chi gyflwyno gwybodaeth am eich incwm er mwyn cefnogi cais eich plentyn neu'ch partner am gymorth myfyrwyr, ni fydd hyn yn golygu eich bod yn atebol am unrhyw ddyled sy'n codi.
Mae hynny'n dal i fod yn wir os bydd y myfyriwr/wraig yn gadael addysg uwch, neu nad yw eu henillion yn ddigon i ddechrau ad-dalu, neu os byddant yn marw gan adael dyled ar eu hôl.
Os hoffech wneud ymholiadau ar ran myfyriwr/wraig, gallant roi caniatâd i Student Finance Direct siarad gyda chi am eu cyfrif.
Am fwy o wybodaeth, gweler 'Caniatáu i eraill reoli eich cyfrif cyllid myfyrwyr'.
Os bydd eich amgylchiadau personol yn newid, cysylltwch â'ch awdurdod lleol cyn gynted â phosib, gan y gallai hyn olygu y bydd newid yn y swm y mae disgwyl i chi ei gyfrannu hefyd.
Os bydd eich statws priodasol yn newid, gallai eich cyfrifoldeb i gefnogi myfyriwr/wraig newid hefyd. Cysylltwch â'ch awdurdod lleol i sicrhau bod eich cyfraniad yn cael ei asesu'n gywir.
Gall newidiadau gynnwys:
Os byddwch eisoes wedi'ch asesu a bod cwymp sydyn yn eich incwm, cysylltwch â'ch awdurdod lleol ar unwaith er mwyn iddynt allu trefnu eich ailasesu. Gall hyn olygu y bydd gan y myfyriwr/wraig hawl i dderbyn mwy o gymorth ariannol gan y llywodraeth.