Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ad-dalu benthyciadau myfyrwyr: beth i'w wneud os ydych chi dramor

Os cychwynnoch ar gwrs addysg uwch cyn 1998 a'ch bod dramor, gallwch wneud trefniadau i barhau i ad-dalu'ch benthyciad myfyrwyr neu drefnu i ohirio'r ad-daliadau.

Cyn gadael y DU

Os ydych chi'n bwriadu gadael y DU ar ôl graddio neu os byddwch yn rhoi'r gorau i'ch cwrs, rhowch wybod i'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr mewn da bryd.

Gall y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr drefnu i chi wneud y canlynol:

  • dechrau ad-dalu eich benthyciad, neu newid manylion eich ad-daliadau
  • gohirio taliadau

Dim ond i bobl a ddechreuodd ar gwrs addysg uwch cyn 1998 y mae'r dudalen hon yn berthnasol.

Os cychwynnoch astudio ar ôl 1998, bydd eich manylion ad-dalu o dramor yn wahanol - dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy.

Parhau i ad-dalu eich benthyciad myfyriwr

Os oes gennych eisoes amserlen sy'n nodi'r ad-daliadau misol yr ydych yn eu gwneud drwy gyfrwng debyd uniongyrchol, bydd y taliadau hyn yn dal i gael eu tynnu o'r cyfrif banc yr ydych wedi'i ddarparu tra'ch bod dramor.

Os ydych chi'n dymuno newid y trefniadau ad-dalu gallwch wneud taliadau gyda'r canlynol:

  • cerdyn banc
  • siec
  • archeb bost
  • trosglwyddiad banc rhyngwladol

Cysylltwch â'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr i drefnu hyn.

Gohirio ad-daliadau pan rydych chi dramor

Os cawsoch fenthyciad myfyrwyr ar gyfer cwrs a gychwynnodd cyn 1998, gallwch wneud cais i ohirio'ch ad-daliadau os bydd eich incwm yn is na swm penodol.

Os ydych chi'n ennill incwm dramor mewn arian cyfred arall, bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn cyfrifo faint o arian sydd gennych mewn punnoedd ar y diwrnod y prosesir eich cais er mwyn gweld a yw'r swm yn dod o dan y trothwy.

I drefnu bod ad-daliadau eich benthyciad o dramor yn cael eu gohirio, ffoniwch y Cwmni benthyciadau Myfyrwyr ar 0141 306 200 cyn gofyn am gael eich trosglwyddo i'r llinell sy'n gyfrifol am gyfrifon.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Ad-dalu Benthyciad Myfyriwr: gwasanaethau ar-lein

Give others access to your student finance account

Defnyddio eich cyfrif ar-lein i ddiweddaru manylion personol, gwirio’ch balans neu wneud taliad

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU