Mae nifer o ddeiliaid cyfrifon Benthyciad Myfyrwyr wedi gorfod aros i dderbyn datganiadau ynghylch blynyddoedd ariannol blaenorol, neu maent wedi derbyn datganiadau anghywir sydd yn nodi na fu didyniadau.
Y rheswm dros hyn yw y bu oedi wrth i wybodaeth gan gyflogwyr am ddidyniadau benthyciadau myfyrwyr gyrraedd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.
Hysbyswyd deiliaid cyfrifon Benthyciad Myfyrwyr am hyn y tro cyntaf y llynedd, ac mae mwyafrif y datganiadau yr effeithiwyd arnynt bellach wedi'u prosesu. Ond mae rhai deiliaid cyfrifon yn dal i aros am ddatganiad ynghylch blwyddyn flaenorol.
Os ydych chi'n un o'r rheini yr effeithiwyd arnynt, does dim angen ichi boeni.
Bydd unrhyw ddidyniadau a dynnwyd o'ch cyflog yn cael ei gredydu i'ch cyfrif Benthyciad Myfyrwyr, ac mae eich slipiau cyflog misol a'ch P60 yn rhoi cofnod cywir o'r ad-daliadau a wnaed eisoes gennych.
Ni fyddwch yn talu unrhyw log benthyciad ychwanegol o ganlyniad i unrhyw oedi wrth gredydu'ch ad-daliadau i'ch cyfrif - bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn addasu'r llog a godir arnoch yn ôl-weithredol er mwyn adlewyrchu pryd y didynwyd yr ad-daliadau o'ch enillion.
Bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn anfon datganiad wedi'i ddiweddaru atoch pan fyddant yn derbyn unrhyw wybodaeth ychwanegol am yr ad-daliadau.
Cysylltwch â'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr os nad ydych chi wedi derbyn y wybodaeth ddiweddaraf neu os fyddwch chi'n dal i aros am unrhyw ddatganiadau terfynol erbyn mis Ebrill 2008.