Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sut i ad-dalu eich benthyciad myfyriwr a phryd (cyrsiau'n cychwyn cyn 1998)

Os cychwynnodd eich cwrs cyn 1998, telir ad-daliadau eich benthyciad myfyriwr mewn rhandaliadau misol. Gallwch wneud cais i ohirio'ch ad-daliadau os byddwch yn ennill llai na swm penodol.

Ad-dalu'ch benthyciad myfyriwr

Os cawsoch fenthyciad myfyriwr pan oeddech ar gwrs prifysgol neu goleg a gychwynnodd cyn mis Medi 1998, byddwch yn ei ad-dalu mewn rhandaliadau misol.

Fel arfer, gwneir yr ad-daliadau hyn trwy ddebyd uniongyrchol o'ch cyfrif banc i'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.

Os cychwynnodd eich cwrs ym mis Medi 1998 neu ar ôl hynny, telir ad-daliadau eich benthyciad myfyriwr mewn ffordd wahanol.

Am fwy o wybodaeth gweler 'Ad-dalu eich benthyciadau myfyrwyr (cyrsiau'n cychwyn ar ôl 1998)'.

Faint y byddwch chi'n ei ad-dalu

Os oes gennych bedwar benthyciad neu lai ar gyfer cyrsiau a gychwynnodd cyn 1998, byddwch yn ad-dalu'r benthyciad mewn 60 rhandaliad misol. Os cawsoch bum benthyciad neu fwy, byddwch yn ad-dalu mewn 84 rhandaliad misol.

Cyfrifir swm yr ad-daliad misol ar sail y swm llawn a fenthycwyd, yn ogystal â llog (sy'n gysylltiedig â'r raddfa chwyddiant), wedi'i rannu â'r cyfanswm o fisoedd a ganiateir er mwyn ei ad-dalu.

Mae’r cyfradd llog yn 3.8 y cant ar hyn o bryd.

Cyfrifir llog yn ddyddiol o'r adeg y rhoddir benthyciad i chi, ac fe'i ychwanegir at eich cyfrif bob mis hyd nes y bydd y benthyciad wedi'i ad-dalu'n llawn.

Amlinellir faint sy'n dal i fod yn ddyledus gennych ar eich datganiad blynyddol, a anfonir atoch gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.

Gohirio ad-daliadau

Os ydych yn ennill yn llai na swm penodol ac eisiau gohirio ad-daliadau eich benthyciad myfyriwr, gallwch wneud cais i ohirio eich ad-daliadau

Gwneud eich ad-daliad cyntaf

Bydd ad-daliadau'n cychwyn ym mis Ebrill ar ôl i chi raddio neu ar ôl i chi stopio mynychu eich cwrs. Er enghraifft, os gwnaethoch raddio ym mis Mehefin 2001, byddech wedi cychwyn ad-dalu ym mis Ebrill 2002.

Ddau fis cyn eich bod yn cychwyn ad-dalu'ch benthyciad, bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn anfon llythyr atoch yn nodi eich balans, ac yn cadarnhau eich manylion banc a'r swm debyd uniongyrchol misol.

Os yw'ch manylion banc wedi newid, dylech gwblhau gorchymyn debyd uniongyrchol newydd a'i ddychwelyd ar unwaith i'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Os na fyddwch yn gohirio ad-daliad, byddwch yn derbyn amserlen o'r ad-daliadau misol y byddwch yn eu gwneud rhwng mis Ebrill a mis Awst.

Bob mis Medi, byddwch yn derbyn amserlen o'r ad-daliadau misol a wneir o'r dyddiad hwnnw hyd at y mis Awst canlynol. Bydd yr amserlen hon yn dangos unrhyw newidiadau yn y swm a ad-delir os bydd newid yn y gyfradd llog.

Os cewch chi drafferth wrth ad-dalu

Os cewch chi drafferth wrth wneud eich ad-daliadau misol ond bod eich incwm misol yn ormod i allu eu gohirio nhw, cysylltwch â'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.

Gweler yr erthygl 'Os cewch chi drafferth wrth ad-dalu eich benthyciad myfyriwr' am fwy o fanylion.

Os bydd eich amgylchiadau'n newid

Os bydd eich manylion cyswllt, eich incwm neu'ch statws priodasol yn newid, dylech adael i'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wybod er mwyn iddynt allu diweddaru'ch cyfrif.

Cynyddu eich ad-daliadau er mwyn clirio'ch benthyciad yn gynnar

Os ydych am ad-dalu eich benthyciad yn gynnar, naill ai trwy gynyddu'ch ad-daliadau misol neu drwy wneud ad-daliadau cyn i'ch cyfnod ad-dalu gychwyn, gallwch wneud hyn trwy ddefnyddio un o'r dulliau canlynol:

  • cysylltu â'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr i ddiwygio'ch debyd uniongyrchol presennol
  • anfon siec neu archeb bost at y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, gan ddyfynnu rhif eich cyfrif benthyciad myfyriwr
  • gwneud taliad gyda cherdyn credyd neu ddebyd, naill ai ar-lein neu drwy gysylltu â'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr dros y ffôn (codir tâl ychwanegol o 1.5 y cant am ad-daliadau cerdyn credyd) - y lleiafswm y gellir ei ad-dalu gyda cherdyn yw £5.00
  • sefydlu archeb sefydlog gyda'ch banc
  • anfon ad-daliad arian parod (rhaid gwneud hyn gyda'r post cofrestredig)

Gallwch lwytho ffurflen archeb sefydlog drwy glicio ar y ddolen isod.

Os oes gennych fwy nag un math o fenthyciad myfyriwr

Mae'r ffordd y byddwch yn ad-dalu eich benthyciad myfyriwr yn amrywio gan ddibynnu ar a gychwynnodd eich cwrs cyn 1998 neu ar ôl hynny. Dim ond un math o fenthyciad myfyriwr fydd gan y rhan fwyaf o bobl.

Fodd bynnag, os ydych wedi benthyg arian o dan y ddau gynllun ad-dalu, efallai y cewch ddewis pa fenthyciad i'w ad-dalu gyntaf. Gallwch gael rhagor o gyngor trwy ffonio'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.

Additional links

Ad-dalu Benthyciad Myfyriwr: gwasanaethau ar-lein

Give others access to your student finance account

Defnyddio eich cyfrif ar-lein i ddiweddaru manylion personol, gwirio’ch balans neu wneud taliad

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU