Os cychwynnoch eich cwrs addysg uwch cyn 1998 gan gymryd benthyciad myfyriwr, rhaid i chi roi gwybod i'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr os bydd unrhyw newid i'ch statws ariannol, i'ch manylion bancio neu'ch manylion cyswllt, neu os byddwch yn mynd dramor.
I sicrhau bod eich cyfrif benthyciad myfyriwr yn cael ei ddiweddaru, a dan delerau eich cytundeb benthyciad myfyriwr, rhaid i chi roi gwybod i'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr am unrhyw un o'r canlynol:
Mae'r trefniadau hyn yn berthnasol i fyfyrwyr sydd wedi dechrau eu cyrsiau cyn 1998. Os cychwynnodd eich cwrs ym 1998 neu ar ôl hynny, gweler 'Ad-dalu eich benthyciadau myfyrwyr (cyrsiau'n cychwyn ar ôl 1998)' am fwy o wybodaeth.
Os byddwch yn newid eich cyfeiriad neu'ch manylion banc, rhaid i chi roi gwybod yn syth i'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.
Gallai methu â gwneud hyn arwain at ohebiaeth bwysig yn eich cyrraedd yn hwyr, neu ad-daliadau'n cael eu methu ar gyfrif eich benthyciad.
Gallwch gysylltu â'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr naill ai trwy ffonio neu trwy lythyr, neu ddiweddaru eich manylion personol.
Bydd disgwyl i chi wneud ad-daliadau benthyciad myfyriwr rheolaidd, fel a amlinellir yn eich cytundeb benthyciad myfyriwr.
Os bydd eich statws ariannol yn newid ac na allwch fforddio gwneud ad-daliadau mwyach, dylech naill ai:
Os ydych yn bwriadu gadael y DU ar ôl graddio neu am roi'r gorau i'ch cwrs, dylech roi gwybod i'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr mewn da bryd er mwyn iddynt allu trefnu eich bod naill ai'n dechrau ad-dalu eich dyled neu'n gohirio'r ad-dalu.