Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gohirio ad-dalu eich benthyciad myfyriwr

Os yw'ch incwm gros yn llai na swm penodol  y mis, gallwch ohirio'ch ad-daliadau benthyciad myfyriwr, cyn belled ag y byddwch yn darparu tystiolaeth o'ch incwm neu fath o gymorth ariannol.

Sut i ohirio'ch ad-daliadau Benthyciad Myfyriwr

Os cawsoch fenthyciad myfyriwr ar gyfer cwrs a gychwynnodd cyn Medi 1998, gallwch wneud cais i ohirio'ch ad-daliadau os bydd eich incwm yn is na swm penodol.

Mae’r trefniadau hyn ond yn berthnasol i Fenthyciadau Myfyrwyr a roddwyd ar gyfer cyrsiau a gychwynnodd cyn Medi 2008. Os cychwynnoch eich cwrs ym mis Medi 1998 neu ar ôl hynny, bydd y trefniadau ad-dalu yn wahanol - am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen ar waelod y dudalen i 'Ad-dalu benthyciadau myfyrwyr (cyrsiau'n cychwyn ar ôl 1998)'.

Pryd gewch chi ohirio?

Gallwch wneud cais i'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr am ohirio ad-daliadau'ch benthyciad myfyriwr os bydd eich incwm misol gros yn is na'r trothwy gohirio presennol, sef £2,107 y mis neu lai (cyfwerth â £25, 287 y flwyddyn).

Cyfrifir incwm gros cyn gwneud unrhyw ddidyniadau (er enghraifft, Treth Incwm neu Yswiriant Gwladol).

Codir llog arnoch drwy gydol unrhyw gyfnod o ohirio.

Sut i ohirio

Yr ydych yn gwneud cais i ohirio ad-daliadau drwy ddanfon ffurflen cais ohirio i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Gallwch gael copi o’r ffurflen drwy ffonio llinell gymorth gohirio y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.

I asesu’ch hawl i ohirio, bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ond yn cymryd eich incwm chi i ystyriaeth – nid oes rhaid i chi ddarparu manylion am incwm priod, partner, rhiant neu berthynas arall.

Hyd nes i chi dderbyn cadarnhad ysgrifenedig o’r ohirio, mae’n rhaid i chi dybio bod ad-daliadau yn ddyledus, hyd yn oed os mae eich incwm yn cwympo yn is na’r trothwy ohirio.

Bydd angen darparu dogfennau cefnogaeth pan yr ydych yn gwneud cais i ohirio’r ad-daliadau. Gweler yr erthygl ‘Gohirio benthyciadau myfyrwyr: pa ddogfennau y dylid eu cyflwyno’ i gael gwybod mwy.

Os ydych chi eisoes yn gwneud ad-daliadau

Os ydych eisoes yn ad-dalu eich benthyciad myfyriwr, gallwch ofyn i'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr am ffurflen gais ohirio ar unrhyw adeg.

Mae'r ffurflen yn rhoi manylion ynghylch y lefel incwm gros uchaf y gallwch fod yn ei hennill os ydych am ohirio ad-dalu eich Benthyciad Myfyriwr, a chyfarwyddiadau syml ar sut i'w llenwi.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, caiff y dyddiadau dechrau a gorffen eu cadarnhau'n ysgrifenedig.

Bydd gohirio yn para am 12 mis, a bydd rhaid gwneud cais newydd bob blwyddyn os dymunwch barhau i ohirio ad-dalu.

Os nad ydych wedi gwneud eich ad-daliad cyntaf eto

Ym mis Chwefror ar ôl i chi gwblhau eich astudiaethau, bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn anfon llythyr atoch yn datgan bod angen i chi ddechrau ad-dalu eich dyled.

Amgaeir ffurflen gais i ohirio gyda'r llythyr hwn, a chewch gyfle i wneud cais am ohirio'ch ad-daliadau. Os na fyddwch chi'n gwneud hyn, bydd ad-daliadau'n cychwyn ym mis Ebrill yn awtomatig.

Os ydych chi'n gymwys i gael gohirio'r ad-daliadau, rhaid i chi gwblhau'r ffurflen gais i ohirio a'i dychwelyd at y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ynghyd â thystiolaeth o'ch incwm neu fath o gymorth ariannol.

Ôl-ddyddio gohiriadau

Bydd angen ad-dalu unrhyw ôl-ddyledion (ad-daliadau sydd wedi dod yn ddyledus ond sydd heb eu talu) sy'n weddill. Golyga hyn y gall fod rhaid i chi ad-dalu rhywfaint os byddwch yn hwyr yn gwneud cais.

Myfyrwyr anabl - trefniadau gohirio ac ad-dalu

Os ydych yn anabl, ceir trefniadau ad-dalu a gohirio penodol. Byddwch yn gymwys fel benthyciwr anabl dan y cynllun hwn os byddwch yn derbyn budd-daliadau anabledd megis:

  • Lwfans Byw i'r Anabl
  • Premiwm Anabledd
  • Credyd Treth i Bobl Anabl
  • Budd-dal Analluogrwydd tymor byr ar y gyfradd uwch
  • Budd-dal Analluogrwydd hirdymor
  • Budd-dal Anafiadau Diwydiannol
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Premiwm Anabledd Difrifol

Ni chaiff y budd-daliadau hyn eu hystyried wrth asesu'ch incwm gros er mwyn pennu a ydych yn gymwys ar gyfer gohirio ai peidio.

Efallai y gallwch ymestyn eich ad-daliadau dros 10 mlynedd, os yw'n annhebygol y byddwch yn ddigon iach i wneud gwaith amser llawn am y tair blynedd nesaf. Os yw'n annhebygol y bydd eich incwm misol gros ar gyfer y 36 mis nesaf yn uwch na'r lefel ohirio, yna 36 mis fydd y cyfnod gohirio.

Additional links

Ad-dalu Benthyciad Myfyriwr: gwasanaethau ar-lein

Give others access to your student finance account

Defnyddio eich cyfrif ar-lein i ddiweddaru manylion personol, gwirio’ch balans neu wneud taliad

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU