Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Os cewch chi drafferth wrth ad-dalu eich benthyciad myfyriwr

Os ydych yn ennill mwy na'r trothwy ad-dalu benthyciad myfyriwr ond eich bod yn cael trafferth fforddio eich ad-daliadau, mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.

Problemau wrth ad-dalu eich benthyciad myfyriwr

O dan delerau eich cytundeb credyd benthyciad myfyriwr, mae disgwyl i chi naill ai wneud ad-daliadau rheolaidd, neu ohirio ad-daliad os bydd eich incwm yn llai na lefel benodol.

Os dewch chi ar draws problemau ariannol ac na allwch ohirio'r ad-daliad na thalu swm llawn yr ad-daliad misol, rhaid i chi roi gwybod i'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr cyn gynted â phosib. Fe wnân nhw gymaint ag y gallant i'ch cynghori a'ch cynorthwyo.

Sut gall y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr eich helpu

Unwaith y byddwch wedi dechrau ad-dalu eich benthyciad myfyriwr, bydd swm yn ddyledus bob mis.

Os na allwch ohirio ad-daliad (er enghraifft, os bydd eich incwm yn uwch na'r trothwy gohirio), dylech gysylltu â'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr i drafod eich sefyllfa. Mae'n bwysig y caiff swm ad-daliad misol ei dalu fe nad oes ad-daliadau coll ar eich cyfrif (a elwir yn"ôl-ddyledion").

Gallai'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr eich helpu drwy drefnu cynllun ad-dalu is gyda nhw, a gallant gynnig eich bod yn trafod cynlluniau ad-dalu is gyda'ch credydwyr eraill hefyd.

Os byddwch yn trefnu ad-daliadau is, cofiwch y bydd swm ad-daliad misol llawn eich benthyciad myfyriwr yn dal i ddisgyn, a bydd rhan ohono heb ei dalu.

Bydd angen i chi ad-dalu'r symiau dyledus hyn - bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn gweithio gyda chi i drefnu'r ffordd orau i chi wneud hyn.

Beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn gwneud yr ad-daliadau

Os na fyddwch yn gwneud yr ad-daliadau, bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn gwneud pob ymdrech i gytuno ar drefniant addas i ddiweddaru'ch ad-daliadau cyn cymryd unrhyw gamau adennill dyledion.

Os byddwch yn methu un ad-daliad, bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn anfon llythyr atoch. Os byddwch yn derbyn y llythyr hwn, peidiwch â phoeni - ffoniwch nhw i drafod eich opsiynau.

Os na fyddwch yn ymateb, mi fyddant yn ceisio cysylltu â chi eto drwy ffonio neu anfon llythyr arall atoch.

Os na fyddwch yn ymateb i hyn, neu os na fydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn llwyddo i gael gafael arnoch, mae'n debyg y byddant yn cymryd camau pellach i adennill unrhyw ôl-ddyledion sy'n ddyledus. Gall hyn olygu defnyddio asiantaeth casglu dyledion, ac mae'n bosib y byddant yn galw heibio i'ch tw.

Yn olaf, gellir cymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn, a allai effeithio ar eich statws credyd neu arwain at arian yn cael ei dynnu o'ch enillion cyn i chi gael eich talu (gelwir hyn yn 'atafaelu enillion').

Y peth gorau i chi ei wneud yw ateb yr holl ohebiaeth a gewch gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, a chysylltu â nhw cyn gynted â phosib os byddwch yn methu un ad-daliad, neu yn dioddef o galedi ariannol.

Codi tâl ar eich cyfrif

Os bydd rhaid cymryd camau i adennill dyledion ar eich cyfrif benthyciad, bydd eich cytundeb credyd yn rhoi'r hawl i'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr godi tâl ar eich cyfrif i dalu unrhyw gostau sy'n codi.

Gellir codi tâl arnoch am y canlynol:

  • am lythyr sy'n eich hysbysu bod ad-daliadau hwyr ar eich cyfrif benthyciad (a anfonwyd atoch"o ganlyniad i'r ffaith i chi dorri amodau'r Cytundeb Credyd"): £20
  • os bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn ceisio casglu ad-daliad drwy ddebyd uniongyrchol a bod y banc yn gwrthod y cynnig ( "taliad adalw neu nas anrhydeddwyd"): £15
  • ffioedd trydydd parti (er enghraifft, casglu dyledion gan asiantaethau allanol, ffioedd olrhain, ayb): yr union gost
  • os cymerir camau cyfreithiol i orfodi'r cytundeb credyd: yr holl gostau a threuliau a wynebir

Additional links

Ad-dalu Benthyciad Myfyriwr: gwasanaethau ar-lein

Give others access to your student finance account

Defnyddio eich cyfrif ar-lein i ddiweddaru manylion personol, gwirio’ch balans neu wneud taliad

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU