Gohirio benthyciadau myfyrwyr: pa ddogfennau y dylid eu cyflwyno
Pan fyddwch yn cyflwyno cais am ohirio ad-daliadau, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o sut y cewch eich cefnogi'n ariannol. Os na fyddwch yn darparu hyn, efallai na dderbynnir eich cais, ac mae'n bosib y bydd rhaid i chi wneud ad-daliadau.
Cefnogi'ch cais i ohirio: beth fydd ei angen arnoch
Pan fyddwch yn gwneud cais i ohirio ad-dalu eich benthyciad myfyriwr, bydd angen i chi anfon y dogfennau canlynol at y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr:
- ffurflen gais ohirio
- tystiolaeth o unrhyw fath o gymorth ariannol a gewch
I gael gwybod mwy am ohirio ad-dalu, gweler 'Gohirio ad-dalu eich benthyciad myfyriwr'.
Tystiolaeth o unrhyw fath o gymorth ariannol a gewch: pa ddogfennau y dylid eu cyflwyno
Bydd y dogfennau y bydd angen eu darparu er mwyn cefnogi'ch cais i ohirio yn dibynnu ar eich sefyllfa.
Os ydych chi'n gyflogedig
Bydd angen i chi ddarparu un o'r canlynol:
- slipiau cyflog sy'n cadarnhau eich incwm gros am y tri mis calendr diwethaf (ni dderbynnir slipiau wedi'u hysgrifennu â llaw)
- llythyr wedi'i lofnodi a'i ddyddio gan eich cyflogwr ar bapur pennawd y cwmni yn cadarnhau eich incwm misol gros ar gyfer y tri mis calendr diwethaf (gan gynnwys goramser, bonysau, lwfansau, pwysiad Llundain ayb)
- cynnig cyflogaeth neu gopi o'r contract wedi'i ddyddio o fewn y ddau fis diwethaf, ynghyd â'ch slip cyflog diweddaraf
- os ydych yn gweithio i asiantaeth gweithwyr dros dro, gofynnwch iddyn nhw am allbrint o ffurflen P11 yn dangos enw'r cwmni, eich enw chi a'ch enillion gros
Os ydych chi'n hunangyflogedig
Bydd angen i chi ddarparu un o'r canlynol:
- asesiad treth (yr asesiad diwedd y flwyddyn y byddwch yn ei anfon at Gyllid a Thollau EM)
- cyfrifon elw a cholled
- datganiad cyfrifon busnes diweddaraf
- ffurflen SC60 / CIS25
- lwfans menter neu lythyr gan y cyfrifydd
Os ydych chi'n byw ar incwm o ffynhonnell arall (nid cyflog)
Bydd angen i chi ddarparu un o'r canlynol:
- os ydych yn cael eich cefnogi'n ariannol gan drydydd parti (er enghraifft, gan riant, ur/gwraig neu bartner), llythyr ganddynt yn cadarnhau bod y lefel o gymorth yn llai na'r trothwy gohirio presennol
- llythyr sy'n cynnig grant ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol, neu lythyr ESPCR ar gyfer eich cwrs presennol ynghyd â llythyr gan eich coleg yn cadarnhau eich bod yn mynychu
- copi o'ch cytundeb benthyciad os ydych wedi benthyg arian i fyw arno
- copi o'ch cytundeb cynhaliaeth neu lythyr gan y sawl sy'n gwneud taliadau
- copi o'ch cytundeb gosod neu lythyr gan denant yn cadarnhau pa mor aml y derbynnir taliad a'r swm a delir
- datganiadau banc yn dangos eich balans a'ch gorddrafft, ynghyd â llythyr gennych yn cadarnhau mai dyma'r unig gymorth a dderbyniwch
- cadarnhad o incwm a dderbynnir o fuddsoddiadau
Os ydych chi'n trafeilio:
Bydd angen i chi ddarparu:
- copi o gynllun eich taith
Ynghyd ag un o'r darnau canlynol o dystiolaeth i gefnogi hyn:
- cynilion
- gorddrafft
- llythyr cefnogol gan drydydd parti: llythyr gan riant, ur/gwraig neu bartner yn cadarnhau eu bod yn eich cynorthwyo a bod y lefel o gymorth a gewch yn llai na'r trothwy gohirio presennol
- ffurflen gais ohirio wedi'i llofnodi gan drydydd parti sydd â'r awdurdod i reoli'ch cyfrif a chadarnhad eich bod yn trafeilio
Os ydych yn derbyn budd-daliadau
Bydd angen i chi ddarparu un o'r canlynol:
- stamp yr Asiantaeth Budd-daliadau ar eich ffurflen gais i ohirio
- copi o'ch llyfr asiantaeth budd-dal cyfredol sy'n cadarnhau eich enw, eich cyfeiriad, y dyddiad a'r swm o fudd-dal a dderbynnir
- llythyr gan yr Asiantaeth Budd-daliadau sy'n cadarnhau eich enw, y dyddiad, y math a'r swm o fudd-dal a dderbynnir
Os ydych yn fyfyriwr eto
Os ydych wedi dychwelyd i addysg uwch a'ch bod yn derbyn cymorth myfyrwyr, bydd angen i chi ddarparu eich Rhif Cymorth Myfyrwyr.
Bydd hwn yn ymddangos ar unrhyw ohebiaeth cymorth myfyrwyr ar gyfer y flwyddyn academaidd bresennol - rhaid bod wedi talu'r rhandaliad cyntaf er mwyn ei ystyried yn incwm.
Os ydych chi yn y carchar
Os byddwch chi ar ganol dedfryd o garchar, bydd angen llythyr gan awdurdod eich carchar.