Os byddwch yn codi benthyciad myfyriwr newydd, neu os gwnaethoch godi benthyciad myfyriwr i dalu am gwrs a gychwynnodd ym 1998 neu ar ôl hynny, bydd eich ad-daliadau'n dibynnu ar eich incwm. Dim ond pan fyddwch yn ennill £15,000 y flwyddyn y bydd gofyn i chi ddechrau ad-dalu'r benthyciad.
Os cychwynnoch eich cwrs ym 1998 neu ar ôl hynny, bydd eich ad-daliadau benthyciad myfyriwr yn dibynnu ar eich incwm.
Os byddwch yn ennill llai na lefel benodol o incwm - y 'trothwy ad-dalu' - ni fydd gofyn i chi ad-dalu dim. Os byddwch yn ennill mwy na'r trothwy, byddwch yn ad-dalu canran o'r swm yr ydych yn ei ennill sy'n uwch na'r trothwy.
Os cychwynnoch eich cwrs cyn 1998, bydd gennych fath gwahanol o fenthyciad myfyriwr. Am fwy o wybodaeth, gweler 'Ad-dalu eich benthyciadau myfyrwyr (cyrsiau'n cychwyn cyn 1998)'.
Ar hyn o bryd, mae'r trothwy ad-dalu ar gyfer benthyciadau myfyrwyr, cyn unrhyw ddidyniadau, yn:
Mae hyn yn cyfateb i:
Os yw'ch incwm yn fwy na hyn, bydd angen i chi wneud ad-daliadau. Yn y rhan fwyaf o achosion, cesglir yr ad-daliadau hyn trwy'r system dreth yn awtomatig.
Ni fydd unrhyw fudd-daliadau anabledd a dderbyniwch yn cyfrif tuag at y trothwy £15,000, hyd yn oed os codir treth arnynt. Os byddwch yn derbyn budd-dal anabledd ac yn rhy wael i weithio, caiff eich benthyciad ei ganslo.
Fel arfer, bydd ad-daliadau'ch benthyciad myfyriwr yn cychwyn ar 6 Ebrill ar ôl i chi raddio, neu ar ôl i chi stopio mynychu eich cwrs.
Er enghraifft:
Os yw mis Ebrill wedi mynd heibio ers i chi fynychu ddiwethaf, bydd eich ad-daliadau'n cychwyn cyn gynted ag y gellir trefnu hynny, a dim ond o hyn allan y byddwch yn gwneud ad-daliadau. Dim ond os byddwch yn ennill mwy na'r trothwy y bydd ad-daliadau'n cychwyn, a byddant yn stopio os bydd eich enillion yn syrthio o dan y trothwy.
Gwneir ad-daliadau benthyciad myfyriwr mewn un o dair ffordd, gan ddibynnu ar beth yw'ch sefyllfa o ran gwaith ar hyn o bryd:
Am ragor o wybodaeth am wneud ad-daliadau mewn un o'r ffyrdd hyn, darllenwch yr erthyglau isod.
Unwaith i chi ddechrau ad-dalu'ch benthyciad myfyriwr, bydd yn bosib:
Cyflwynwyd ad-daliadau benthyciad myfyriwr ar sail incwm ym 1998. Ar gyfer cyrsiau a gychwynnodd cyn 1998, mae ad-daliadau benthyciad myfyriwr yn seiliedig ar ad-dalu dros gyfnod benthyciad sefydlog (weithiau gelwir y rhain yn 'ad-daliadau morgais').
Dim ond un math o fenthyciad fydd gan y rhan fwyaf o bobl. Fodd bynnag, os ydych wedi benthyg arian o dan y ddau gynllun ad-dalu, efallai y cewch ddewis pa fenthyciad i'w ad-dalu gyntaf. Os bydd eich cyflog yn uwch na'r ddau drothwy ad-dalu, gallwch gael rhagor o gyngor drwy ffonio'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.