Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ad-dalu benthyciadau myfyrwyr yn gynt a chael arian yn ôl

Os hoffech ad-dalu'ch benthyciad yn gynt, gallwch wneud hynny trwy wneud ad-daliadau'n uniongyrchol i'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, boed eich cyflog yn uwch na'r trothwy ad-dalu ai peidio. Efallai hefyd bod gennych chi'r hawl i gael arian yn ôl os bydd eich incwm yn newid yn ystod y flwyddyn dreth.

Gwneud ad-daliadau ychwanegol i glirio'ch benthyciad myfyriwr

Os cawsoch fenthyciad myfyriwr ym 1998 neu ar ôl hynny, a'ch bod yn dymuno ei ad-dalu'n gyflymach, gallwch wneud ad-daliadau gwirfoddol.

Caiff y rhain eu gwneud ar ben unrhyw ad-daliadau a gesglir trwy'r system dreth - ni chaiff yr ad-daliadau a wneir ar sail eich incwm eu lleihau, ond byddwch yn clirio'ch benthyciad yn gynt trwy wneud yr ad-daliadau ychwanegol hyn.

Y lleiafswm y gellir ei ad-dalu yw £5.00.

Bydd rheolau gwahanol yn berthnasol os cawsoch fenthyciad myfyriwr ar gyfer cwrs a gychwynnodd cyn 1998. Am fwy o wybodaeth, gweler 'Ad-dalu eich benthyciadau myfyrwyr (cyrsiau'n cychwyn cyn 1998)'.

Dulliau ad-dalu

Siec neu archeb bost

Os hoffech wneud ad-daliad ychwanegol gyda siec neu archeb bost, ysgrifennwch eich cyfeirnod myfyriwr (Rhif Cymorth Myfyrwyr neu ART ID) ar gefn eich siec neu archeb bost a'i anfon at y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.

Cerdyn debyd

Gallwch wneud ad-daliadau trwy ddefnyddio cerdyn Maestro, Solo neu Delta. I wneud hyn, ffoniwch ymgynghorydd cwsmeriaid y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.

Debyd Uniongyrchol

Gallwch sefydlu ad-daliadau ychwanegol trwy Ddebyd Uniongyrchol. I wneud hyn, ffoniwch ymgynghorydd cwsmeriaid y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.

Credyd Giro Banc

I wneud ad-daliadau trwy ddefnyddio'r dull hwn, ffoniwch ymgynghorydd cwsmeriaid y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr a gofynnwch am lyfr talu-i-mewn.

Archeb sefydlog

I sefydlu cytundeb archeb sefydlog, llenwch ac argraffwch y ffurflen archeb sefydlog o'r ddolen isod a'i hanfon ymlaen at eich banc.

Cael arian yn ôl

Os bydd eich incwm yn amrywio neu'n disgyn yn ystod y flwyddyn dreth, mae'n bosib y bydd cyfanswm eich incwm am y flwyddyn yn disgyn yn is na'r trothwy £15,000, hyd yn oed os bydd eich enillion yn uwch na'r trothwyon wythnosol neu fisol.

Gall hyn ddigwydd os byddwch yn derbyn taliad bonws neu'n gweithio goramser, er enghraifft, ond eich bod yn ennill llai na'r trothwy weddill yr amser.

Yn y sefyllfa hon, gallwch wneud cais i'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr am gael arian yn ôl am yr holl ad-daliadau a wnaed yn y flwyddyn dan sylw, neu am y gordaliadau'n unig. Gallwch hefyd benderfynu peidio â gwneud cais am gael arian yn ôl, er mwyn eich galluogi i glirio'ch benthyciad yn gynt.

Os ydych wedi ad-dalu'ch benthyciad ond y bydd didyniadau'n parhau, dylech ysgrifennu at y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr gan amgáu'ch slipiau cyflog er mwyn dangos y didyniadau ychwanegol hyn, ac yna cewch arian yn ôl am unrhyw ordaliadau ynghyd â llog. Telir llog ar yr un raddfa ag a godir ar eich cyfrif, ac mae'n ddi-dreth.

Ni fydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn rhoi arian yn ôl am unrhyw ad-daliadau gwirfoddol a wnaed oni bai eich bod wedi gorffen ad-dalu'r benthyciad ac mai gordaliadau oedd y rhain.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU