Ar ddiwedd pob blwyddyn dreth, bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr a Chyllid a Thollau EM yn cyfri faint o'ch benthyciad myfyriwr yr ydych wedi'i ad-dalu, a faint sydd ar ôl i'w ad-dalu. Weddill y flwyddyn, mae'n bosib na fydd modd i chi gael gwybod faint yn union sy'n ddyledus gennych, ond mae ffyrdd o amcangyfrif hyn ar eich cyfer.
Caiff balans eich benthyciad myfyriwr ei gyfrifo'n wahanol gan ddibynnu ar ba fath o ad-dalwr ydych chi:
Os ydych chi'n gweithio fel cyflogai ac yn talu treth ac Yswiriant Gwladol drwy'r Cynllun Talu Wrth Ennill (PAYE), bydd eich cyflogwr yn cyfrifo ac yn didynnu'r ad-daliadau benthyciad myfyriwr sy'n ddyledus ar bob cyfnod cyflog, yn seiliedig ar eich enillion am y cyfnod hwnnw.
Dim ond ar ddiwedd bob blwyddyn ariannol y caiff y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wybod am eich holl ad-daliadau, ac felly mae'n bwysig cadw'ch cofnodion eich hun.
Os byddwch yn ad-dalu trwy'r drefn Hunanasesu, caiff y taliadau eu gwneud i Gyllid a Thollau EM.
Dim ond ar ddiwedd bob blwyddyn ariannol y caiff y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wybod am eich holl ad-daliadau.
Os ydych yn byw dramor, byddwch yn gwneud ad-daliadau'n uniongyrchol i'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.
Unwaith iddynt dderbyn yr ad-daliadau, cânt eu credydu i'ch cyfrif, a gosodir llog ar eich cyfrif ar ddiwedd pob mis.
Cyn i chi ddechrau ad-dalu'ch benthyciad myfyriwr, byddwch yn derbyn cyfriflen flynyddol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Awst. Pan fydd angen dechrau ad-dalu'ch benthyciad, anfonir cyfriflen atoch ar gyfer y cyfnod a ddaeth i ben ar 5 Ebrill.
Cyflwynir y datganiad nesaf rhwng 12 a 24 mis ar ôl y dyddiad hwnnw, yn dibynnu ar eich dull o ad-dalu a'r dyddiad y bydd Cyllid a Thollau EM yn rhoi gwybod i'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr am y swm a gasglwyd.
Ni chaiff unrhyw wybodaeth ynghylch ad-daliadau, balansau na chasgliadau eu pasio rhwng y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr a Chyllid a Thollau EM, ar wahân i pan fydd Cyllid a Thollau EM yn dweud wrth y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ar ddiwedd y flwyddyn dreth faint yr ydych wedi'i dalu.
Golyga hyn y bydd adegau pan fyddwch yn dymuno cysylltu â'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr neu Gyllid a Thollau EM i drafod eich balans ond na fydd y wybodaeth ar gael i chi.
Fodd bynnag, gallwch amcangyfrif eich balans rhwng cyfriflenni drwy edrych ar eich cyfriflen fwyaf diweddar a thynnu unrhyw ddidyniadau a welir ar eich slipiau cyflog a P60.
Gallwch hefyd gysylltu â'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr naill ai trwy lythyr neu trwy ffonio, a gallant wneud y cyfrifiadau hyn ar eich rhan – neu gallwch wirio’ch balans ar-lein.