Os cychwynnoch eich cwrs ym 1998 neu ar ôl hynny, bydd sut y byddwch yn ad-dalu'ch benthyciad yn dibynnu ar sut y cewch eich talu. Os ydych mewn gwaith, eich cyflogwr fydd yn cyfrifo ad-daliad eich benthyciad myfyriwr a gwneir didyniadau'n syth o'ch cyflog.
Os ydych chi'n gweithio fel cyflogai ac yn talu treth ac Yswiriant Gwladol drwy'r Cynllun Talu Wrth Ennill (PAYE), bydd eich cyflogwr yn cyfrifo ac yn didynnu'r ad-daliadau benthyciad myfyriwr sy'n ddyledus ar bob cyfnod cyflog, yn seiliedig ar eich enillion am y cyfnod hwnnw.
Bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM pan fydd angen i chi ddechrau ad-dalu.
Ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol, bydd eich cyflogwr yn dweud wrth Gyllid a Thollau EM faint yr ydych wedi'i ad-dalu drwy roi gwybod iddynt am eich didyniadau. Yna bydd Cyllid a Thollau EM yn anfon y manylion hyn ymlaen at y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.
Dim ond ar ddiwedd bob blwyddyn ariannol y caiff Cyllid a Thollau EM a'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wybod am eich holl ad-daliadau. Ni chaiff unrhyw wybodaeth ynghylch ad-daliadau, balansau na chasgliadau eu pasio rhwng y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr a Chyllid a Thollau EM, ar wahân i ar yr adegau hyn.
Bob mis Ionawr, bydd Cyllid a Thollau EM yn rhoi pecyn gwybodaeth i bob cyflogwr sy'n egluro sut i wneud eich didyniadau. Byddant hefyd yn dweud wrth eich cyflogwr pryd y dylid cychwyn a stopio gwneud didyniadau. Os bydd gan eich cyflogwr unrhyw gwestiwn ynghylch y mater hwn, dylent gysylltu â llinell gymorth ar gyfer cyflogwyr Cyllid a Thollau EM ar 08457 143 143.
Ni fydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn trafod manylion eich benthyciad gyda'ch cyflogwr, hyd yn oes os byddant yn ffonio ar eich rhan. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddidyniadau Talu Wrth Ennill neu Hunanasesu, gall eich swyddfa dreth leol eich cynorthwyo.
Os ydych eisoes yn gwneud ad-daliadau benthyciad myfyriwr, bydd eich cyflogwr newydd yn parhau i wneud didyniadau. Bydd eich hen gyflogwr yn rhoi P45 i chi a fydd yn dangos bod gennych gyfrif benthyciad myfyriwr.
Dylech wneud y canlynol:
Bydd eich cyflogwr newydd yn anfon rhan 3 eich P45 at Gyllid a Thollau EM er mwyn cadarnhau eich bod wedi dechrau swydd newydd, a gwneir didyniadau benthyciad myfyriwr o'ch cyflog cyntaf os bydd eich cyflog yn uwch na'r trothwy.
Os nad oes gennych P45 o'ch swydd flaenorol, neu'ch bod yn arfer cael eich talu llai na'r trothwy treth Talu Wrth Ennill, neu'n dechrau gweithio am y tro cyntaf, bydd angen i'ch cyflogwr anfon ffurflen P46 at Gyllid a Thollau EM. Mae blwch ar y ffurflen hon y gallwch ei dicio er mwyn gadael i'ch cyflogwr newydd wybod eu bod angen dechrau gwneud didyniadau benthyciad myfyriwr.
Bydd gofyn i chi gyfrifo unrhyw ad-daliadau benthyciad myfyriwr sy'n ddyledus trwy'r drefn Hunanasesu yn ogystal ag unrhyw ad-daliadau sy'n ddyledus trwy Dalu Wrth Ennill os ydych:
Dylid gwneud ad-daliadau benthyciad myfyriwr ar yr un pryd ag y byddwch yn talu'ch treth a'ch Yswiriant Gwladol.
Os ydych am i'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr gyfrifo'ch balans rhwng cyfriflenni, rhaid i chi gadw'r dogfennau canlynol:
Os dymunwch amcangyfrif pryd y byddwch yn gorffen ad-dalu'ch benthyciadau myfyrwyr, yn enwedig os bydd eich datganiad blynyddol yn dangos y bydd yn debygol o ddod i ben yn y flwyddyn ariannol gyfredol, gall y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ragweld pryd y bydd disgwyl i chi orffen ad-dalu. Gallant hefyd ddweud wrth Gyllid a Thollau EM am stopio gwneud didyniadau.
Anfonwch y P60au perthnasol (os ydynt ar gael) ynghyd â'r holl slipiau cyflog ar gyfer y flwyddyn dreth at y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, ac fe wneir y cyfrifiadau ar eich rhan.
Yn seiliedig ar y wybodaeth a dderbynnir gan Gyllid a Thollau EM, bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn cysylltu â chi os byddant yn credu eich bod yn agos at gwblhau ad-dalu'ch benthyciad.
Os yw hyn yn gywir, byddant hefyd yn cysylltu â Chyllid a Thollau EM a fydd yna'n dweud wrth eich cyflogwr am stopio gwneud didyniadau o'ch cyflog. Bydd gan eich cyflogwr 42 diwrnod i wneud hyn.
Mae'n bosib y bydd didyniadau'n parhau am fis neu ddau ar ôl i'ch benthyciad gael ei ad-dalu'n llawn. Os digwydd hyn, ysgrifennwch at y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr gan amgáu'ch slipiau cyflog er mwyn dangos y didyniadau ychwanegol hyn, ac yna cewch arian yn ôl am unrhyw ordaliadau ynghyd â'r llog sydd wedi'i dalu ar y benthyciad.