Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ad-dalu eich benthyciadau myfyrwyr trwy'r drefn Hunanasesu

Os byddwch yn cyfrifo'ch ffurflenni treth trwy'r drefn Hunanasesu, bydd angen i chi gyfrifo didyniadau'ch benthyciad myfyriwr o'ch enillion hefyd. Yna, dylech anfon y swm priodol ar ddiwedd y flwyddyn dreth pan fyddwch yn cyflwyno'ch ffurflenni treth i Gyllid a Thollau EM.

Sut i gyfrifo didyniadau'ch benthyciad myfyriwr

Os ydych yn hunangyflogedig, bydd angen i chi lenwi ffurflen dreth i roi gwybod i Gyllid a Thollau EM am eich elw a'ch costau. Gyda hyn, gallant gyfrifo eich treth, eich Yswiriant Gwladol ac ad-daliadau eich benthyciad myfyriwr am y flwyddyn.

Yna, bydd Cyllid a Thollau EM yn gofyn i chi wneud eich ad-daliadau ar ddiwedd y flwyddyn dreth. Os byddwch yn anfon eich ffurflen dreth cyn 30 Medi, bydd Cyllid a Thollau EM yn gwneud y cyfrifiadau ar eich cyfer.

Chi fydd yn gyfrifol am wneud yr ad-daliadau hyn, hyd yn oed os byddwch hefyd yn gwneud ad-daliadau gwirfoddol ychwanegol yn syth i'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr. Ni fydd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yn gallu rhoi arian yn ôl am ad-daliadau gwirfoddol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich didyniadau Hunanasesu, gall eich swyddfa dreth leol eich cynorthwyo.

Os ydych yn Talu Wrth Ennill (PAYE) ac yn Hunanasesu

Os ydych yn hunangyflogedig ond yn gweithio fel cyflogai hefyd, ac yn gorfod talu treth y gyfradd uwch neu ag incwm nad yw'n gyflog ond sy'n dod o stociau, cyfranddaliadau a chynilion neu ffynonellau eraill, bydd angen i chi gyfrifo unrhyw ad-daliadau benthyciad myfyriwr trwy'r drefn Hunanasesu yn ogystal ag unrhyw ad-daliadau a ddidynnir gyda Thalu Wrth Ennill.

Os byddwch yn newid o'r drefn Hunanasesu i Dalu Wrth Ennill

Os ydych yn hunangyflogedig ond yna'n dechrau gweithio fel cyflogai, cewch eich bilio am y flwyddyn gyfan gan Gyllid a Thollau EM.

Pryd fydd ad-daliadau'n dirwyn i ben

Os dymunwch amcangyfrif pryd y byddwch yn gorffen ad-dalu'ch benthyciadau myfyrwyr, yn enwedig os bydd eich datganiad blynyddol yn dangos y bydd yn debygol o ddod i ben yn y flwyddyn ariannol gyfredol, gall y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ragweld pryd y bydd disgwyl i chi orffen ad-dalu. Os ysgrifennwch atynt gan amgáu'r cofnodion treth perthnasol, fe wnân nhw'r gwaith cyfrifo i chi.

Os ydych yn meddwl eich bod wedi ad-dalu'n llawn

Os ydych yn meddwl eich bod yn agos i orffen ad-dalu'ch benthyciad, cysylltwch â'r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr i gadarnhau setliad terfynol.

Additional links

Ad-dalu Benthyciad Myfyriwr: gwasanaethau ar-lein

Defnyddio eich cyfrif ar-lein i ddiweddaru manylion personol, gwirio’ch balans neu wneud taliad

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU