Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ydych chi'n fyfyriwr o'r Undeb Ewropeaidd ac yn gymwys i gael cyllid?

Os ydych chi'n dod o wlad arall yn yr Undeb Ewropeaidd, cewch wneud cais am gymorth ariannol i gyfrannu at gost ffioedd dysgu yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon. Efallai y gallwch hefyd gael cymorth â'ch ffioedd dysgu os ydych yn weithiwr mudol o wlad yn Ardal Economaidd Ewrop neu'r Swistir. Mewn rhai achosion, gallai plant gweithwyr o Dwrci yn y Deyrnas Unedig gael cymorth â'u ffioedd dysgu hefyd.

Cymorth gyda ffioedd dysgu: ydych chi'n gymwys?

Dinasyddion yr UE

Fel un o ddinasyddion yr UE, neu fel aelod o deulu dinesydd o'r UE, bydd modd i chi'n gyffredinol wneud cais am gymorth ariannol i dalu am gostau ffioedd dysgu pan fyddwch yn astudio yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon:

  • os ydych wedi bod yn byw yn Ardal Economaidd Ewrop (AEE) a'r Swistir am dair blynedd yn union cyn i'ch cwrs gychwyn
  • os nad cael addysg amser llawn oedd eich prif reswm dros fod yn Ardal Economaidd Ewrop a'r Swistir

Os oeddech chi, eich rhiant, eich gwarcheidwad neu'ch partner yn gyflogedig dros dro y tu allan i Ardal Economaidd Ewrop a'r Swistir am y tair blynedd neu am gyfnod o'r tair blynedd, mae'n bosib y byddwch yn dal i fod yn gymwys i gael cymorth.

Gweithwyr o Ardal Economaidd Ewrop a'r Swistir

Mae'n bosib y byddwch hefyd yn gymwys i gael cymorth ariannol â ffioedd dysgu os ydych yn weithiwr hunangyflogedig neu'n weithiwr mudol o Ardal Economaidd Ewrop neu'r Swistir sy'n gweithio yn y Deyrnas Unedig. Ystyr gweithiwr mudol yw rhywun sy'n gweithio mewn gwlad arall ac eithrio eu gwlad eu hunain.

Fel arfer, cewch eich cyfrif yn gymwys ar gyfer statws gweithiwr mudol o'r Swistir neu AEE os yw pob un o'r canlynol yn berthnasol i chi:

  • rydych yn ddinesydd o un o wledydd AEE neu'r Swistir
  • rydych yn gweithio yn y DU
  • roeddech yn preswylio'n arferol yn AEE a'r Swistir am dair blynedd cyn dechrau ar eich cwrs

Mae hefyd yn bosib eich bod yn gymwys os ydych chi'n aelod o deulu gweithiwr mudol yn y DU.

Plant gweithwyr o Dwrci

Gallech gael cymorth â ffioedd dysgu o 1 Medi 2006 ymlaen os ydych chi'n gymwys fel plentyn i ‘weithiwr o Dwrci’. Yn gyffredinol, mae cymorth ar gael:

  • os oeddech yn preswylio'n arferol yn Ardal Economaidd Ewrop, y Swistir neu Dwrci am dair blynedd cyn dechrau ar eich cwrs
  • os oeddech yn breswylydd yn y DU ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd pan gychwynnodd eich cwrs
  • os ydych yn blentyn i ‘weithiwr o Dwrci’ yn y DU - dinesydd o Dwrci sy'n preswylio'n arferol yn y DU ac sy'n cael ei gyflogi'n gyfreithiol yn y DU, neu a arferai gael ei gyflogi'n gyfreithlon yn y DU

Cymorth ychwanegol gyda chostau byw

Gallech hefyd wneud cais am gymorth gyda'ch costau byw, yn ogystal â chymorth gyda ffioedd dysgu:

  • os ydych wedi byw yn y ‘DU neu un o'i hynysoedd’ (y DU ynghyd ag Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw) am dair blynedd neu ragor
  • os oes gennych statws gweithiwr mudol o Ardal Economaidd Ewrop neu'r Swistir, neu
  • os ydych yn gymwys i gael cymorth fel ‘Gweithiwr o Dwrci’, fel y disgrifir uchod

Dilynwch y ddolen isod i gael gwybod mwy.

Ydy eich cwrs a'ch coleg yn gymwys?

I gael cymorth ariannol gyda'ch ffioedd, dylai'ch cwrs arwain at un o'r cymwysterau canlynol:

  • gradd gyntaf, fel BA, BSc neu BEd
  • gradd sylfaen
  • Diploma Addysg Uwch (DipEd)
  • Diploma Genedlaethol Uwch (HND)
  • Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC)
  • Tystysgrif Addysg i Raddedigion (PGCE)
  • Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) ar lefel 4

Yn gyffredinol, gallwch gael cymorth ariannol os bydd y cwrs cymwys hwn yn cael ei gynnal yn un o'r llefydd canlynol:

  • mewn prifysgol yn y DU
  • mewn coleg sy'n cael nawdd gan y llywodraeth
  • mewn sefydliad preifat penodol (holwch eich prifysgol neu'ch coleg a yw'n gymwys)
  • mewn grŵp o ysgolion sy'n cymryd rhan yn y cynllun Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon Mewn Ysgol (SCITT)

Os ydych yn astudio ar gwrs ôl-radd neu gwrs proffesiynol ac eithrio dysgu, bydd rheolau eraill yn berthnasol. Gweler ‘Ariannu eich cwrs ôl-radd’.

Ddim yn siŵr a ydych yn gymwys ai peidio?

Cael gwybod mwy am ofynion preswylio

Os ydych wedi cael eich cynghori nad ydych yn gymwys i gael cyllid myfyrwyr am resymau'n gysylltiedig â phreswylio, efallai fod rhai amgylchiadau arbennig, neu dystiolaeth bellach y gallwch ei hanfon a allai beri i'ch cais gael ei ailasesu.

Os hoffech weld y rheolau terfynol o ran pwy sy'n gymwys, mae chwilio am ‘Rheoliadau Addysg (Cefnogaeth i Fyfyrwyr) / Education (Student Support) Regulations’ ar wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (OPSI) - gan ychwanegu'r flwyddyn berthnasol ar y diwedd - yn lle da i ddechrau.

Cofiwch y cyhoeddir rheoliadau newydd bob blwyddyn, a byddant yn aml yn cael eu diwygio ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi - felly mae'n bwysig edrych ar unrhyw ddeddfwriaeth ddiweddarach sydd wedi diwygio'r rheoliadau y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt.

Cysylltu â thîm Gwasanaethau Cwsmeriaid yr UE

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch a ydych chi, fel myfyriwr o'r UE, yn gymwys i gael cyllid, cysylltwch â thîm Gwasanaethau Cwsmeriaid yr UE yn y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.

Cysylltu â'ch awdurdod lleol

Gall eich awdurdod lleol eich helpu â chwestiynau ynghylch a ydych yn gymwys drwy statws gweithiwr mudol o'r Swistir neu AEE, neu fel plentyn i weithiwr o Dwrci yn y DU.

Astudio yn yr Alban

Mae'r wybodaeth ar y dudalen hon yn ganllaw i'r rheini sy'n astudio yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon. Os ydych chi'n astudio yn yr Alban, ewch i wefan Asiantaeth Grantiau Myfyrwyr yr Alban (SAAS) i gael mwy o wybodaeth.

Y cam nesaf: cael gwybod faint allwch chi ei gael

Os ydych yn bodloni'r amodau i gael cymorth gyda ffioedd cwrs, ond ddim yn bodloni'r amodau ychwanegol i gael cymorth gyda chostau byw, byddwch yn cael eich ystyried yn fyfyriwr o'r Undeb Ewropeaidd wrth wneud cais am gyllid.

Gweler y tudalennau isod er mwyn cael gwybod pa gymorth sydd ar gael.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU