Os ydych yn fyfyriwr o unrhyw wlad arall yn yr Undeb Ewropeaidd sy'n astudio yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon yn 2007/2008, byddwch yn gwneud cais am arian drwy lenwi ffurflen gais. Isod, gallwch lwytho'r ffurflen a'r nodiadau cyfarwyddo perthnasol.
Dylai myfyrwyr sydd eisoes wedi gwneud cais am gyllid ac sy'n dymuno newid swm y ffioedd dysgu y maent wedi gwneud cais amdano lenwi ffurflen gais am ffioedd dysgu.