Os ydych chi'n dod o un o wledydd yr Undeb Ewropeaidd (UE) y tu allan i'r Deyrnas Unedig, efallai y bydd modd i chi wneud cais am gymorth gyda chostau byw yn ogystal â ffioedd dysgu os ydych chi'n bodloni rhai amodau preswylio. Efallai y bydd cymorth ar gael hefyd os ydych chi'n weithiwr mudol o un o wledydd Ardal Economaidd Ewrop neu'r Swistir, neu'n blentyn i weithiwr o wlad Twrci yn y DU.
Yn gyffredinol, gallwch fod yn gymwys i gael cymorth ychwanegol gyda'ch costau byw - yn ogystal â chymorth gyda'ch ffioedd dysgu:
Gweler yr adran berthnasol isod i gael gwybod mwy - fodd bynnag, cofiwch fod rhai eithriadau i'r rheolau hyn. Os nad ydych yn sicr a ydych yn gymwys ai peidio, trafodwch y mater â'ch awdurdod lleol.
Mae'r dudalen hon yn rhoi manylion cyffredinol i fyfyrwyr sy'n astudio yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon. Dilynwch y ddolen isod os ydych chi'n astudio yn yr Alban.
Yn gyffredinol, gallwch wneud cais am gymorth gyda chostau byw, yn ogystal â chyllid ar gyfer ffioedd dysgu, os yw'r canlynol yn berthnasol i chi:
Os ydych chi wedi bod yn astudio yn y DU
Os ydych yn bwriadu astudio yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth gyda chostau byw hyd yn oed os mai'ch prif fwriad dros fod yn y DU am y tair blynedd diwethaf oedd cael addysg amser llawn.
Fodd bynnag, i fod yn gymwys, mae'n ofynnol eich bod wedi 'preswylio fel arfer' yn Ardal Economaidd Ewrop a'r Swistir yn union cyn y cyfnod cymhwyso tair blynedd yn y DU a'i Hynysoedd cyn i'ch cwrs ddechrau (mae 'preswylio fel arfer' yn golygu lle rydych yn byw fel arfer).
Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael cymorth ariannol gyda chostau byw yn ogystal â ffioedd dysgu:
Dilynwch y ddolen ar waelod y dudalen i fynd yn ôl i ‘Ydych chi'n fyfyriwr o'r UE ac yn gymwys i gael cyllid?’ er mwyn cael gwell syniad a yw hyn yn berthnasol i chi ai peidio
Os ydych chi'n gymwys i gael cymorth gyda'ch costau byw
Os ydych chi'n bodloni un set o'r meini prawf uchod ac yn gymwys i gael cymorth gyda'ch costau byw yn ogystal â'ch ffioedd, bydd gennych hawl i'r un lefel o gyllid â myfyrwyr sydd fel arfer yn byw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon.
Am fwy o wybodaeth am y pecynnau cymorth ariannol, gweler 'Cyllid myfyrwyr: faint allech chi ei gael' (ar gyfer astudio yn Lloegr), neu'r gwefannau isod os ydych chi'n astudio yng Nghymru neu yng Ngogledd Iwerddon.
Os nad ydych chi'n gymwys i gael cymorth gyda'ch costau byw
Os nad ydych yn bodloni un set o'r meini prawf uchod, gallwch gael cymorth ariannol ar gyfer eich ffioedd dysgu o hyd. Ewch yn ôl i'r dudalen 'Ydych chi'n fyfyriwr o'r Undeb Ewropeaidd ac yn gymwys i gael cyllid?' i gael gwybod mwy.