Os ydych yn fyfyriwr o'r Undeb Ewropeaidd (UE) ar gwrs amser llawn yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon yn 2007/2008 neu 2008/2009, cewch wneud cais am gymorth ariannol i gyfrannu tuag at eich ffioedd dysgu.
Ar y dudalen hon, disgrifir y cymorth ariannol sydd ar gael os ydych yn fyfyriwr newydd o'r UE neu'n fyfyriwr o'r UE sy'n parhau â'ch astudiaethau ar gwrs amser llawn i israddedigion yn 2007/2008 neu 2008/2009.
Os nad ydych yn siŵr a ydych chi neu'ch cwrs yn gymwys, ewch i 'Ydych chi'n fyfyriwr o'r Undeb Ewropeaidd ac yn gymwys i gael cyllid?'
Gall pob myfyriwr amser llawn cymwys o'r UE gael Benthyciad Ffioedd Dysgu i dalu am ffioedd dysgu (p'un ai eu bod yn fyfyrwyr newydd neu'n parhau â'u hastudiaethau).
Bydd yr uchafswm y cewch ei fenthyg yn dibynnu ar y ffioedd a godir gan eich prifysgol. Nid yw'n ddibynnol ar incwm eich cartref.
Student Finance Direct fydd yn gweinyddu'r benthyciad, ac fe'i cyllidir gan lywodraeth y wlad lle byddwch yn dewis astudio. Mae'r cyfraddau llog yn gysylltiedig â'r raddfa chwyddiant - felly, mewn termau real, byddwch yn ad-dalu yr un faint ag y byddwch yn ei fenthyg.
Byddwch yn dechrau ad-dalu'r benthyciad ar ôl i chi adael eich cwrs a phan fyddwch yn ennill mwy na swm penodol. Am ragor o wybodaeth, ewch i 'Ad-dalu benthyciadau myfyrwyr - Myfyrwyr o'r Undeb Ewropeaidd (UE)'.
Cyfraddau Benthyciadau Ffioedd Dysgu: os ydych chi'n fyfyriwr newydd, neu os dechreuodd eich cwrs ar ôl mis Medi 2006
Os ydych yn astudio yn Lloegr neu yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gael uchafswm y Benthyciad Ffioedd Dysgu, sef:
Os ydych chi'n astudio yng Nghymru, gallwch gael Benthyciad Ffioedd Dysgu sy'n cyfateb i gyfanswm y ffioedd dysgu a godir gan eich sefydliad, llai unrhyw grant y byddwch yn ei gael, hyd at uchafswm o:
Cyfraddau Benthyciad Ffioedd Dysgu: Os dechreuodd eich cwrs cyn mis Medi 2006
Os cychwynnodd eich cwrs cyn mis Medi 2006 (a chithau'n astudio yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon), gallwch gael uchafswm Benthyciad Ffioedd Dysgu, sef:
Mae grant ar gyfer ffioedd dysgu, nad oes angen ei ad-dalu, ar gael os ydych chi'n astudio yn Lloegr neu yng Ngogledd Iwerddon a bod eich cwrs yn y DU wedi dechrau cyn mis Medi 2006, neu eich bod yn astudio yng Nghymru.
Telir y grant yn uniongyrchol i'ch coleg neu'ch prifysgol.
Dyma'r cyfraddau:
| Ble'r ydych chi'n astudio | 2007/2008 | 2008/2009 |
|---|---|---|
| Cymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon (cyrsiau'n dechrau cyn mis Medi 2006 yn unig) | £1,225 | £1,225 |
| Cymru (myfyrwyr newydd a chyrsiau'n dechrau ar ôl mis Medi 2006) | £1,845 | £1,890 |
Asesiad incwm
Os dechreuodd eich cwrs cyn mis Medi 2006, bydd faint o grant ffioedd dysgu gewch chi'n dibynnu ar incwm eich cartref.
Gall hyn gynnwys eich incwm chi, ac (os ydych chi dan 25 oed) incwm eich rhieni a'u partneriaid. Gallai hefyd gynnwys incwm eich gŵr, eich gwraig neu'ch partner, yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Fodd bynnag, does dim rhaid i chi gyfrif eich enillion rhan-amser neu achlysurol personol yn ystod y cwrs.
Incwm y cartref yw incwm gros trethadwy, llai didyniadau penodol (er enghraifft os oes plant dibynnol yn byw yn eich cartref).
Dyma lefelau incwm y cartref ar gyfer bod yn gymwys i gael Grantiau Ffioedd Dysgu:
| Astudio yn 2007/2008 | Astudio yn 2008/2009 | |
|---|---|---|
| Grant llawn | Incwm y cartref yn is na £23,085 | Incwm y cartref yn is na £23,660 |
| Rhywfaint o grant | Incwm y cartref rhwng £23,085 a £34,295 | Incwm y cartref rhwng £23,660 a £35,160 |
| Dim grant | Incwm y cartref yn uwch na £34,295 | Incwm y cartref yn uwch na £35,160 |
Os ydych yn fyfyriwr sengl, annibynnol, bydd rheolau eraill yn berthnasol i chi. Os yw'ch incwm yn llai na £10,755 cewch grant llawn ar gyfer talu'ch ffioedd dysgu.
I gael gwybod mwy am gyfrifo incwm y cartref, gweler 'Sut mae asesu incwm yn gweithio'.
Mae'n bosib y gallwch dderbyn cymorth ariannol ychwanegol ar ffurf grantiau addysgol a chan ymddiriedolaethau elusennol.
Os byddwch yn astudio yn yr Alban, Asiantaeth Grantiau Myfyrwyr yr Alban (SAAS) fydd yn delio â cheisiadau am gyllid myfyrwyr.
I gael gwybod sut mae gwneud cais, gweler 'Sut i wneud cais am gyllid - Myfyrwyr o'r Undeb Ewropeaidd (UE)'.