Os hoffech gymryd rhan yn ein harolwg wefan ymwelydd, a wnewch chi ymweld â'r safle ac wedyn dod yn �l a dewis y ddolen hon i gymryd rhan yn yr arolwg.

Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Sut i wneud cais am gyllid - Myfyrwyr o'r Undeb Ewropeaidd (UE)

Os ydych chi'n fyfyriwr o wlad arall yn yr UE ac yn astudio yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, cewch wneud cais am gymorth ariannol i'ch helpu i dalu'ch ffioedd drwy anfon ffurflen gais i Dîm Gwasanaethau Cwsmeriaid yr UE.

Gwneud cais am gymorth ariannol

Os ydych chi'n fyfyriwr o'r UE ac yn gwneud cais am gymorth ariannol yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, dyma fydd angen i chi ei wneud:

  • llenwch y ffurflen gais sy'n berthnasol ar gyfer y math o gwrs a'r flwyddyn astudio (mae nodiadau cyfarwyddo i'ch helpu i lenwi pob ffurflen)
  • anfonwch y ffurflen wedi'i chwblhau at Dîm Gwasanaethau Cwsmeriaid yr UE
  • gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud y cais cyn y dyddiad cau perthnasol

Os byddwch yn astudio yn yr Alban, Asiantaeth Grantiau Myfyrwyr yr Alban (SAAS) fydd yn delio â cheisiadau am gyllid myfyrwyr.

Ffurflenni cais i fyfyrwyr newydd

Bydd ffurflen gais ar gyfer cyllid myfyrwyr yn cael ei hanfon yn awtomatig at fyfyrwyr amser llawn newydd sydd yn gwneud cais am gwrs trwy UCAS erbyn mis Gorffennaf.

Gallwch hefyd lwytho ffurflenni a nodiadau cyfarwyddo isod.

Ceisiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2007 / 2008

Ffurflenni cais i fyfyrwyr sy'n parhau â'u hastudiaethau

Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais ar gyfer pob blwyddyn o'r cwrs.

Os ydych chi wedi gwneud cais am gyllid myfyrwyr o'r blaen, dylech chi hefyd dderbyn ffurflen gais yn awtomatig. Bydd hon yn cael ei hanfon i gyfeiriad eich cartref yn eich mamwlad o fewn yr UE, nid i'ch cyfeiriad yn y DU tra'ch bod yn astudio.

Os nad ydych chi wedi gwneud cais am gyllid myfyrwyr o'r blaen, bydd angen i chi lenwi'r ffurflen ar gyfer myfyrwyr amser llawn newydd.

Gallwch hefyd lwytho'r ffurflen hon isod:

Os cychwynnodd eich cwrs cyn mis Medi 2006

Os ydych chi'n fyfyriwr amser llawn a'ch cwrs wedi dechrau cyn mis Medi 2006, ac yn gwneud cais am grant ffioedd dysgu, bydd angen i chi hefyd gyflwyno prawf o'ch incwm.

I ganfod beth fydd angen i chi ei gyflwyno, gweler y nodiadau cyfarwyddo perthnasol ar y dudalen 'ffurflenni a chanllawiau i fyfyrwyr o'r UE'.

I ble rydych chi’n anfon y ffurflen?

Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen, postiwch hi at Dîm Gwasanaethau Cwsmeriaid yr UE yn Darlington.

Bydd angen i chi hefyd anfon unrhyw ddogfennau perthnasol (bydd y nodiadau cyfarwyddo'n dweud wrthych beth fydd angen i chi eu hanfon). Os nad ydych yn postio'r dogfennau y gofynnir i chi eu postio, gallai hyn arwain at oedi wrth brosesu'ch cais.

Bydd Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid yr UE yn postio'ch dogfennau yn ôl atoch i'ch mamwlad yn yr UE.

Beth fydd yn digwydd i'ch cais?

Ar ôl i Dîm Gwasanaethau Cwsmeriaid yr UE dderbyn eich ffurflen gais:

  • byddant yn anfon llythyr atoch yn cadarnhau eu bod wedi ei derbyn
  • byddant yn cyfrifo a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol, ac os felly, faint yn union
  • os bydd arnynt angen rhagor o wybodaeth gennych, byddant yn ysgrifennu atoch ac yn gofyn amdani
  • byddant yn ysgrifennu atoch ac yn dweud wrthych faint o arian yr ydych yn gymwys i'w dderbyn
  • byddant yn trefnu bod yr arian yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'ch coleg neu'ch prifysgol

Dyddiadau cau

  Dylai myfyrwyr amser llawn wneud cais erbyn y dyddiadau canlynol: Dylai myfyrwyr rhan-amser wneud cais erbyn y dyddiadau canlynol:
Tymor yr Hydref (1 Medi tan 31 Rhagfyr) 31 Mai 28 Chwefror (29 Chwefror os yw'n flwyddyn naid)
Tymor y gaeaf (1 Ionawr tan 31 Mawrth) 30 Medi 30 Mehefin
Tymor y gwanwyn (1 Ebrill tan 30 Mehefin) 31 Rhagfyr 30 Medi
Tymor yr haf (1 Gorffennaf tan 31 Awst) 31 Mawrth 31 Rhagfyr


Os bydd eich amgylchiadau'n newid

Os bydd eich amgylchiadau personol yn newid fel myfyriwr rhan-amser neu amser llawn, er enghraifft os bydd newid yn eich:

  • cyfeiriad
  • statws priodasol
  • statws priodasol eich rhieni

dylech anfon e-bost neu ysgrifennu at Dîm Gwasanaethau Cwsmeriaid yr UE.

Os byddwch yn newid, yn gohirio neu'n gadael eich cwrs, bydd ar Dîm Gwasanaethau Cwsmeriaid yr UE angen cadarnhad gan eich prifysgol neu'ch coleg.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU