Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ad-dalu benthyciadau myfyrwyr - Myfyrwyr o'r Undeb Ewropeaidd (UE)

Caiff myfyrwyr o wledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd (UE) sy'n astudio yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon wneud cais am fenthyciad myfyrwyr i gyfrannu tuag at gost ffioedd dysgu. Cychwynnir ad-dalu'r benthyciad ar ôl i chi orffen y cwrs a phan fyddwch yn ennill mwy na lefel benodol o incwm - y 'trothwy ad-dalu'.

Myfyrwyr o'r UE – sut mae ad-daliadau'n gweithio

Os ydych chi'n fyfyriwr o'r UE ac yn cychwyn ar gwrs amser llawn yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, neu'n dal i ddilyn cwrs a gychwynnodd ar ôl mis Medi 2006, cewch gymryd Benthyciad Ffioedd Dysgu i dalu cyfanswm eich ffioedd dysgu yn llawn.

Os ydych chi'n dal i ddilyn cwrs a gychwynnodd cyn Medi 2006, cewch gymryd Benthyciad Ffioedd Dysgu i gyfrannu at rywfaint o'ch ffioedd dysgu, neu eu talu'n llawn, yn dibynnu ar eich amgylchiadau ariannol.

Does dim rhaid i chi ad-dalu'r benthyciad hwn tra'ch bod yn astudio. Ar ôl i chi adael eich cwrs, a phan fyddwch yn ennill mwy na lefel benodol o incwm a elwir yn 'drothwy ad-dalu', y byddwch yn cychwyn ad-dalu'r benthyciad.

Bydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn cyfrifo'ch cynllun ad-dalu misol gan ddefnyddio'r un egwyddorion ag y defnyddiant ar gyfer y rhai sy'n aros yn y DU. Byddwch yn ad-dalu naw y cant o'ch enillion dros y trothwy ad-dalu. Mae'n bosib na fydd y trothwy ad-dalu yr un fath ag yn y DU oherwydd fe ystyrir y gwahaniaethau mewn costau byw.

I gael gweld a ydych chi'n gymwys i gael cymorth ariannol, ewch i 'Ydych chi'n fyfyriwr o'r UE ac yn gymwys i gael cyllid?'

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU