Os ydych chi'n fyfyriwr o'r Undeb Ewropeaidd ar gwrs rhan-amser yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, cewch wneud cais am gymorth ariannol i gyfrannu tuag at eich ffioedd dysgu. Does dim rhaid i chi dalu hwn yn ôl.
Fel myfyriwr rhan-amser o'r UE, bydd faint o gymorth ariannol y cewch wneud cais amdano yn dibynnu ar y canlynol:
Astudio yn yr Alban?
Mae’r wybodaeth ar y dudalen hon ar gyfer Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegre. Os byddwch yn astudio yn yr Alban, Asiantaeth Grantiau Myfyrwyr yr Alban (SAAS) fydd yn delio â cheisiadau am gyllid myfyrwyr.
Os ydych yn fyfyriwr rhan-amser o'r UE,cewch wneud cais am grant i helpu gyda’ch ffioedd dysgu.
Rhaid i'ch cwrs barhau am flwyddyn o leiaf ac ni ddylai gymryd mwy na dwywaith yn hirach i'w gwblhau na chwrs amser llawn cyfatebol.
Bydd cyfanswm y grant ffioedd y gallwch ei gael yn dibynnu ar incwm eich cartref (asesiad ar sail incwm) ac ar ba mor 'ddwys' yw'ch cwrs. Ystyr 'dwyster' yw faint o amser y mae'n ei gymryd i gwblhau eich cwrs o'i gymharu â chwrs amser llawn cyfatebol. Gall eich coleg ddweud wrthych pa mor 'ddwys' yw'ch cwrs.
Yn dibynnu ar ddwyster eich cwrs, uchafswm y grant ffioedd sydd ar gael yw:
| Dwyster y cwrs | Uchafswm y grant ffioedd sydd ar gael 2007/2008 | Uchafswm y grant ffioedd sydd ar gael 2008/2009 |
|---|---|---|
| 50-59% dwyster amser llawn | £765 | £785 |
| 60-74% dwyster amser llawn | £920 | £920 |
| 75% neu fwy dwyster amser llawn | £1150 | £1180 |
Mae faint o gymorth allwch chi ei gael gyda grant ffioedd yn dibynnu ar incwm eich cartref. Gall incwm eich cartref gynnwys eich incwm chi ac incwm eich gŵr, eich gwraig neu'ch partner.
Gellir disgrifio incwm y cartref fel incwm gros trethadwy, llai didyniadau penodol (er enghraifft os oes plant dibynnol yn byw yn eich cartref).
Os ydych yn fyfyriwr sengl ac os nad oes gennych blant, i gael grant ffioedd yn 2006/2007 rhaid i lefelau incwm eich cartref fod fel a ganlyn:
|
Grant ffioedd yr ydych yn derbyn |
Incwm y cartref (astudio yn 2007/2008) |
Incwm y cartref (astudio 2008/2009) |
|---|---|---|
|
Maint llawn y grant ffioedd sy’n berthnasol i’ch cwrs* |
£15,344 neu’n is |
£15,700 neu’n is |
|
Rhywfaint of grant (lleiafswm £50 |
£15,345 i £23,145 |
£15,701 i £23,679 |
|
Dim grant |
£23, 146 neu’n fwy |
£23, 680 neu’n fwy |
(* neu’r swm mae’r cwrs yn codi os mae hyn yn is)
Os oes gennych ŵr, gwraig, partner neu blant, bydd lefelau incwm y cartref (ar gyfer y ddwy flynedd academaidd) yn codi fel y dangosir isod:
Mae rheolau gwahanol wrth gyfrifo incwm eich partner, yn dibynnu ar pryd y cychwynnoch eich cwrs.
Os cychwynnoch eich cwrs yn 2004 neu cyn hynny, bydd Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid yr UE yn cyfrifo:
Os cychwynnoch eich cwrs yn 2005/2006 neu ar ôl hynny, bydd Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid yr UE yn cyfrifo:
Os byddwch yn astudio'n rhan-amser yn Lloegr yn unig, mae'n bosib y bydd eich prifysgol neu'ch coleg yn gallu rhoi cymorth ychwanegol i chi tuag at eich ffioedd dysgu gyda'r Cynllun Cymorth Ychwanegol ar gyfer Ffioedd.
Er enghraifft, os yw'ch grant ffioedd yn llai na'ch ffioedd dysgu, mae'n bosib y cewch gymorth ariannol i dalu rhywfaint o'r gwahaniaeth neu'r gwahaniaeth i gyd. Bydd eich prifysgol neu'ch coleg yn penderfynu a gewch chi gymorth a faint o gymorth y gallwch ei gael.
I gael gwybod mwy, bydd angen i chi siarad â'r adran myfyrwyr sy'n gofalu am y Gronfa Mynediad at Ddysgu yn eich coleg, oherwydd byddant hefyd yn gyfrifol am y Cynllun Cymorth Ychwanegol ar gyfer Ffioedd.
Am fwy o wybodaeth am y Gronfa Mynediad at Ddysgu, gweler y dolen isod.
I gael gwybod sut i wneud cais, gweler 'Sut i wneud cais am gyllid - Myfyrwyr o'r Undeb Ewropeaidd (UE).'