Gall amrywiol gymwysterau gael lle i chi mewn addysg uwch, yn ogystal â phynciau safon uwch traddodiadol. Efallai y bydd prifysgolion a cholegau yn ystyried eich profiad gwaith hefyd.
Os ydych chi eisoes yn meddwl am gwrs addysg uwch amser llawn arbennig, edrychwch ar wefan y Gwasanaeth Mynediad i Brifysgolion a Cholegau (UCAS) i weld beth yw'r gofynion.
Mae Prifysgolion a cholegau yn defnyddio system bwyntiau a elwir yn ‘Tariff UCAS’ er mwyn pennu gofynion mynediad. Mae’r tariff yn pennu gwerth ar gyfer amrywiaeth eang o gymwysterau, fel y gall colegau a phrifysgolion gymharu cyflawniadau ymgeiswyr gwahanol.
Cyrsiau rhan amser a Graddau Sylfaen
Ar gyfer cyrsiau rhan amser, edrychwch ar brosbectws y brifysgol neu'r coleg – mae'r rhan fwyaf ar gael ar-lein erbyn hyn. Mae gwefan UCAS hefyd yn rhoi manylion Graddau Sylfaen rhan amser a llawn amser.
Mae prifysgolion a cholegau yn pennu eu gofynion mynediad eu hunain ar gyfer cyrsiau addysg uwch, felly maent yn amrywio’n fawr. Ond gan ddibynnu ar y cwrs, gall myfyrwyr y DU gael lle mewn addysg uwch gydag amrywiaeth o gymwysterau, yn cynnwys:
Efallai y gallwch hefyd gael lle drwy gwblhau cwrs Sylfaen neu gwrs Mynediad.
Os oes gennych gymwysterau galwedigaethol
Mae prosbectysau yn aml yn cyfeirio’n bennaf at safonau uwch pan fyddant yn sôn am ofynion mynediad, ond peidiwch â digalonni os oes gennych gymwysterau galwedigaethol fel NVQ neu BTEC. Gofynnwch i ddarparwr y cwrs am feini prawf mynediad galwedigaethol.
Profiad gwaith
Os ydych chi'n gwneud cais am gwrs Gradd Sylfaen yn enwedig, mae'n bosib y gwelwch chi fod profiad gwaith yn cael ei ystyried ochr yn ochr ag unrhyw gymwysterau sydd gennych.
Os oes gennych eisoes gymhwyster addysg uwch
Os oes gennych Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC) neu Ddiploma Genedlaethol Uwch (HND) eisoes, mae'n bosib y byddwch chi'n gallu dechrau cwrs gradd gyntaf ar ddechrau'r ail neu ar ddechrau'r drydedd flwyddyn.
Os oes gennych Radd Sylfaen, mae'n bosib y byddwch chi'n gallu dilyn cwrs gradd ar ddechrau'r drydedd flwyddyn neu'r flwyddyn derfynol.
Myfyrwyr o’r tu allan i’r DU
Gall myfyrwyr o’r tu allan i’r DU gael lle ar gwrs addysg uwch os oes ganddynt gymwysterau sy’n cyfateb i lefelau A. Gall y rhain gynnwys y Fagloriaeth Rhyngwladol (IB), Bagloriaeth Ewropeaidd (EB) a Thystysgrif Gadael Iwerddon.
Holwch y prifysgolion a’r colegau rydych yn bwriadu gwneud cais i astudio ynddynt ymhell ymlaen llaw bod y cymwysterau sydd gennych yn bodloni eu gofynion mynediad.
Os ydych chi'n fyfyriwr 'aeddfed' (sef rhywun sy'n 21 oed neu'n hyn fel arfer), a bod gennych brofiad gwaith ond nad oes gennych gymwysterau traddodiadol ar gyfer cael eich derbyn, gallech ddod o hyd i lwybr arall i fynd i mewn i addysg uwch, er enghraifft, drwy wneud:
Blynyddoedd Sylfaen
Mae rhai prifysgolion a cholegau yn cynnig Blynyddoedd Sylfaen fel proses o baratoi ar gyfer rhai cyrsiau gradd.
Nid ydynt fel arfer yn arwain at gymhwyster ar wahân: maent yn eich gwneud yn gymwys i gael mynediad i’r cwrs gradd ei hun. Nid yw Blynyddoedd Sylfaen ar gael ar gyfer pob cwrs gradd.
Mae'n bosib y bydd Blwyddyn Sylfaen yn syniad da os yw'r cymwysterau sydd gennych yn anaddas ar gyfer y pwnc yr hoffech ei astudio ar gyfer eich gradd.
Gallai Blwyddyn Sylfaen hefyd fod yn ddefnyddiol os nad ydych wedi bod ym myd addysg ers llawer o amser. Efallai y byddai'n werth i chi ei ystyried os ydych chi'n fyfyriwr tramor nad ydy'ch sgiliau iaith yn cyrraedd gofynion cwrs gradd eto.
Cyrsiau Sylfaen
Mae cyrsiau sylfaen yn debyg i Flynyddoedd Sylfaen, ond mae'n bosib na fyddan nhw'n cael eu cynnal yn yr un brifysgol neu yn yr un coleg a'r radd neu'r diploma lawn, nac ychwaith yn eich gwneud yn gymwys i gael eich derbyn i gwrs penodol. Mae'n bosib y bydd myfyrwyr tramor prin eu Saesneg yn cael y rhain yn fuddiol.
Mynediad i gyrsiau Addysg Uwch
Mae llawer o golegau addysg bellach a rhai prifysgolion yn darparu cyrsiau mynediad er mwyn paratoi myfyrwyr ar gyfer addysg uwch.
Gydag amrywiaeth o ddewisiadau astudio hyblyg sy'n eich galluogi i ddysgu am y pynciau rydych am eu hastudio mewn ffordd o’ch dewis chi, ni ddylech ddigalonni wrth ystyried addysg uwch yn nes ymlaen yn eich bywyd.
Cael canllaw Aimhigher i addysg uwch
Os ydych yn ystyried mynd i addysg uwch yn nes ymlaen yn eich bywyd, ceir llawer o wybodaeth yng nghanllaw Ailmhigher ‘Gwireddu eich breuddwydion’.
Gallwch lawrlwytho copi isod, neu archebu un:
Nodwch y cyfeirnod ‘RETURN08’. Gellir cael copïau mewn Braille, mewn print bras neu ar dâp sain.