Fe all yr yrfa sydd gennych mewn golwg fod yn ffactor allweddol wrth benderfynu a ydych am ddilyn cwrs addysg uwch ai peidio, a pha gwrs i'w ddilyn. Edrychwch ar y gwahanol ddewisiadau sydd ar gael, a chanolbwyntiwch ar yr hyn yr ydych chi’n meddwl fyddai orau ar gyfer eich dyfodol chi.
Mae addysg uwch yn meithrin rhinweddau sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gyflogwyr, megis sgiliau cyfathrebu a datrys problemau. Gall dilyn cwrs addysg uwch roi mantais i chi ym myd cyflogaeth – byd sy’n newid yn gyflym.
Yn gyffredinol, mae pobl sydd â chymhwyster addysg uwch yn tueddu i ennill mwy yn ystod eu hoes weithio na phobl sydd heb gymwysterau.
Mae cymhwyster addysg uwch yn angenrheidiol ar gyfer rhai gyrfaoedd – megis meddygaeth, deintyddiaeth, peirianneg siartredig a phensaernïaeth. Ar gyfer ambell broffesiwn – fel y gyfraith neu therapi lleferydd – bydd angen cymhwyster ôl-radd arnoch cyn y cewch ymarfer yn y maes.
Os penderfynwch fynd ymlaen i addysg uwch mae angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn dilyn y cwrs sy'n cyd-fynd orau â'r hyn yr ydych yn dymuno'i wneud â'ch bywyd.
Os ydych chi’n ystyried gwneud cais i brifysgol neu goleg, efallai fod nawr yn amser da i edrych eto ar eich dewisiadau gyrfa. Mae cyngor ar gael os oes angen cymorth arnoch i benderfynu.
Gall mynd i addysg uwch helpu i agor drysau newydd o ran dewisiadau gyrfa, a gall dewis pa gwrs a gyrfa sy’n addas i chi fod yn broses gyffrous. Mae’n gyfle i chi edrych ar ba fath o berson ydych chi, pa fath o fywyd yr hoffech ei gael a sut y gallwch gyrraedd eich nodau yn y byd go iawn.
Ewch i 'Dod o hyd i gwrs prifysgol neu goleg’ i gael cyngor am ddewis cwrs, gan gynnwys gwybodaeth am y prawf Stamford – prawf ar-lein sy’n eich helpu i baru’ch diddordebau â chyrsiau addysg uwch.
Nid ar gyfer ‘unigolion disglair’ traddodiadol a chanddynt lawer o gymwysterau academaidd yn unig y mae addysg uwch.
Beth bynnag yr ydych wedi bod yn ei wneud yn ystod eich oes waith, gallai cwrs addysg uwch roi’r sgiliau a’r gydnabyddiaeth y mae eu hangen arnoch i ddechrau gyrfa newydd a fydd yn rhoi cryn foddhad i chi.
Ac efallai y gallwch ddilyn cwrs addysg uwch hyd yn oed os nad oes gennych lawer o gymwysterau ffurfiol. Gall Prifysgolion a cholegau ystyried eich profiad gwaith os byddwch yn gwneud cais i ddilyn cwrs Mynediad, cwrs sylfaen neu flwyddyn sylfaen.
Os ydych chi wedi penderfynu ar gwrs addysg uwch penodol, neu'n meddwl am ddilyn un: