Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwahaniaethu ar sail oedran

O 1 Hydref 2006, does yna ddim amddiffyn cyfreithlon yn erbyn gwahaniaethu ar sail oedran.  Nid yw bellach yn gyfreithlon i wahaniaethu ar sail oedran.  Nid ydych ond yn gwneud y peth iawn wrth drin gweithwyr yn deg ac adnabod doniau ac anghenion unigolyn, ond hefyd mae’n gwneud synnwyr o ran busnes.

Rheoliadau newydd i wahardd gwahaniaethu ar sail oedran

Mae rheoliadau newydd yn cael eu cyflwyno am fod angen sicrhau cydraddoldeb o ran oedran ym maes gwaith yn yr un modd ag y mae gennym eisoes gydraddoldeb o ran y ddau ryw, hil, anabledd, tueddfryd rhywiol a chrefydd neu gred.

Mae'r gymdeithas yn newid a'r boblogaeth weithio drwyddi draw'n heneiddio. Mae nifer y bobl dan 50 oed ar fin gostwng o ddau y cant erbyn 2016, tra bo'r nifer rhwng 50 a 69 yn debygol o gynyddu 17 y cant. Mae gwell safonau iechyd yn golygu bod pobl yn dewis gweithio'n hwy.

Mae’r cyfreithiau newydd yn helpu i sicrhau bod pobl ddim yn cael eu gwadu swyddi neu gael eu poeni oherwydd eu hoedran, ac yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, bydd gan gweithwyr o bob oedran cyfle cyfartal o hyfforddiant a dyrchafiad.

Beth mae’r rheoliadau yn ei olygu?

Mae’r cyfreithiau newydd yn rhoi hawliau newydd pwysig i unigolion, ymestyn hawliau presennol a chael gwared ar derfynau traddodiadol. 

Maent yn gymwys i holl gyflogwyr, y sector preifat a chyhoeddus, undebau llafur, mudiadau proffesiynol, mudiadau cyflogwyr ac ymddiriedolwyr a rheolwyr cynlluniau pensiwn galwedigaethol.  Maent yn cynnwys gweithwyr o bob oed, a gweithwyr eraill, deiliaid swyddfa, partneriaid o gwmnïau ac eraill.  Maent yn cynnwys recriwtiaid, telerau ac amodau, dyrchafiadau, trosglwyddiadau, diswyddiadau a hyfforddiant.

Nid ydynt yn cynnwys darpariaeth nwyddau a gwasanaethau.

Mae’r rheoliadau y gyfraith yn newid fel a ganlyn:

Ni fydd modd gwahaniaethu'n anghyfiawn ar sail oedran mewn cyflogaeth a hyfforddiant cysylltiedig-â-gwaith

Rhaid i gyflogwyr sicrhau nad yw unrhyw bolisïau diswyddo'n gwahaniaethu'n uniongyrchol yn erbyn gweithwyr hwn. Ni ddylent ychwaith wahaniaethu'n anuniongyrchol - er enghraifft, drwy ddewis gweithwyr rhan-amser yn unig ar gyfer eu diswyddo, a bod nifer fawr o'r rhain o bosib yn weithwyr hwn. Yr unig eithriadau fydd pan fo modd cyfiawnhau'r amod mewn ffordd wrthrychol.

Mae’r rheoliadau hefyd yn cynnwys poeni ac annhegwch ar sail oedran.

Gwellhau hawliau gweithwyr sy’n gwynebu ymddeoliad

Mae eich cyflogwr ond yn gallu eich ymddeol dan oedran 65 ble maent yn gallu dangos bod oedran ymddeol is yn addas ac angenrheidiol.
Pa bynnag oedran yr ydych, mae’n rhaid i’ch cyflogwr rhoi gwybod i weithwyr trwy lythyr, o leiaf chwe mis ymlaen llaw, ar ba ddyddiad y bwriedir iddynt ymddeol.

Mae gennych hefyd hawl statudol i wneud cais i weithio tu hwnt ymddeoliad gorfodol, sy’n rhaid i’ch cyflogwr ystyried.   

Dileu'r terfyn oedran uchaf ar gyfer diswyddo annheg a hawliau wrth ddileu swydd

Mae’r rheoliadau newydd yn dileu’r terfyn oedran uchaf ac isaf ar gyfer yr hawl am dâl diswyddo statudol. Mae’r terfyn oedran uchaf ar ddiswyddo annheg hefyd yn cael eu dileu.

Bydd rhaid i’ch cyflogwr eich talu y taliad diswyddo isafswm statudol hyd yn oed os ydych yn is nag 18 a thros 65 (neu ar ôl oedran ymddeol arferol os mae hyn yn is). Golygir hyn, os ydych yn cwrdd â’r anghenion i gyd eraill, byddwch yn derbyn tâl diswyddo beth bynnag yw eich oedran.

A all rhywun wrthod swydd i chi am eich bod yn rhy ifanc?

Pobl hŷn sy'n wynebu'r gwahaniaethu mwyaf ar sail oed. Fodd bynnag, mae'n digwydd i bobl ifanc hefyd. Nawr mae’n anghyfreithlon i gyflogwyr bennu terfyn isaf ar gyfer oedran wrth recriwtio, oni bai bod modd cyfiawnhau'r amod oedran hwnnw'n wrthrychol.

Beth i'w wneud nesaf

Os mai cyflogai ydych chi, y peth gorau yw cael sgwrs gyda'ch bos gyntaf i geisio datrys y mater yn anffurfiol. Mae gennych hawl i ddod â chynrychiolydd gweithwyr gyda chi i unrhyw gyfarfod.

Os teimlwch eich bod dan anfantais oherwydd bod maen prawf cysylltiedig-ag-oedran wedi'i gynnwys mewn polisi recriwtio neu ddyrchafu, cewch ddod â hawliad ynghylch gwahaniaethu ar sail oed gerbron Tribiwnlys Cyflogaeth.

Os teimlwch fod rhywun wedi gwahaniaethu yn eich erbyn neu wedi aflonyddu arnoch oherwydd eich oedran, byddwch hefyd yn cael dod ag achos gerbron Tribiwnlys Cyflogaeth.

Ble i gael cymorth

Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 474747 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd..

Cael cyngor cyfreithiol gan Dwrnai neu Asiantaeth Gynghori ynghylch materion sy'n ymwneud â chamwahaniaethu

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU