Mae gwahaniaethu yn meddwl trin rhai pobl yn wahanol i'w gilydd.. Nid yw bob amser yn anghyfreithlon - telir gwahanol gyflogau i bobl gan ddibynnu ar eu statws a'u sgiliau. Fodd bynnag, mae yna rhesymau penodol cyfreithiol pam na all eich cyflogwr gwahaniaethu yn eich erbyn.
Mae gwahaniaethu yn digwydd pryd mae cyflogwr yn trin un gweithiwr yn llai ffafriol nag eraill. Gall olygu bod un gweithiwr benywaidd yn cael ei thalu’n is na chydweithiwr am wneud yr un gwaith, neu weithiwr lleiafrif ethnig yn cael ei gwrthod yr un cyfleoedd hyfforddi sy’n cael eu cynnig i gydweithwyr gwyn.
Mae yna gyfreithiau penodol yn erbyn rhai mathau o wahaniaethu (a elwir ‘gwahaniaethu anghyfreithlon’). Os mae eich cyflogwr yn eich trin yn llai ffafriol am reswm anghyfreithlon, efallai byddwch yn gallu gweithredu. Os mae eich cyflogwr yn eich trin yn anheg am unryw rheswm arall, nid yw hon yn gwahaniaethu anghyfreithlon (i gael gwybod am beth allwch wneud yn y sefyllfaoedd hyn – gweler isod).
Mae yna gyfreithiau yn erbyn gwahaniaethu oherwydd:
Ar wahan i’r cyfreithiau gwahaniaethu a nodwyd uchod mae yna gyfreithiau sy’n gwahardd gweithwyr rhag cael eu diswyddo neu drin yn llai oherwydd:
Mae'r gyfraith yn gwahardd cyflogwyr rhag gwahaniaethu ac fe all y gwahaniaethu hwnnw fod ar sawl ffurf.
Bydd gwahaniaethu'n digwydd pan fydd cyflogwyr yn trin un gweithiwr/wraig yn llai ffafriol na phobl eraill. (Felly, petai swydd gyrru ond yn agored i ymgeiswyr sy'n ddynion, byddai hynny'n wahaniaethu uniongyrchol).
Gwahaniaethu anuniongyrchol yw pan fydd amod yn cael ei osod ar gyfer swydd sy'n rhoi un grup o bobl dan fwy o anfantais na'r lleill. Er enghraifft, mae dweud bod rhaid i ymgeiswyr ar gyfer swydd fod wedi'u heillio'n lân yn rhoi aelodau o rai grwpiau crefyddol dan anfantais.
Fodd bynnag, mae'r gyfraith yn caniatáu i gyflogwyr wahaniaethu'n anuniongyrchol os gallant ddangos rheswm da dros gynnwys yr amod. Er enghraifft, fe ellid cyfiawnhau'r amod bod rhaid i ymgeiswyr fod wedi'u heillio'n lân petai'r swydd yn golygu trin bwyd ac y gellid dangos bod cael barf neu fwstash wir yn risg i hylendid.
Ystyr aflonyddu (harasio) yw ymddygiad sarhaus neu fygythiol - iaith rywiol neu sarhau hiliol, er enghraifft - sydd â'r nod o fychanu, tanseilio neu frifo'r sawl y'i hanelir ato/ati.
Ystyr erlid yw trin rhywun yn llai ffafriol na phobl eraill am eu bod wedi ceisio cwyno am wahaniaethu
Os ydych yn cael eich trin yn annheg ond nid am un o’r rhesymau a rhestrwyd uchod, efallai eich bod yn cael eich bwlio. Ni ddylai fwlio fydd fod yn dderbyniol yn y gweithle, cael gwybod beth allwch wneud amdano.
Os byddwch chi'n ceisio mynnu'ch hawliau statudol a bod eich cyflogwyr yn eich trin yn annheg oherwydd hyn, mae'n bosib y gallwch chi gymryd camau cyfreithiol. Er enghraifft, chaiff cyflogwyr mo'ch cam-drin oherwydd eich bod wedi gofyn am gael y Lleiafswm Cyflog Cenedlaethol.
Rydych wedi'ch gwarchod rhag cael eich cam-drin am ofyn yn ddidwyll am hawliau eraill hefyd, sef:
Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.