Mae'n anghyfreithlon i'r sawl sy'n eich cyflogi eich trin yn wahanol i bobl eraill oherwydd eich rhyw, oherwydd eich bod yn briod, neu oherwydd eich bod wedi newid neu'n bwriadu newid eich rhyw. Cael gwybod am eich hawliau a beth i'w wneud os ydych yn teimlo eich bod yn cael eich gwahaniaethu.
Nod cyfreithiau cyfle cyfartal yw sicrhau 'maes chwarae teg' fel bod pobl yn cael eu cyflogi, eu talu, eu hyfforddi a'u dyrchafu ar sail eu sgiliau, eu gallu a sut maen nhw'n gwneud eu gwaith, a dim arall.
Dan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975, mae hi yn erbyn y gyfraith i gyflogwyr wahaniaethu yn erbyn rhywun oherwydd eu rhyw neu oherwydd eu bod yn briod. Mae'n anghyfreithlon hefyd wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich bod wedi newid eich rhyw neu'n bwriadu newid eich rhyw. Mae hyn yn golygu rhywun sy'n newid rhyw dan oruchwyliaeth meddyg.
Gall y gwahaniaethu fod yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, yn fwriadol neu'n ddamweiniol. Os bydd rhywun dan anfantais yn y gwaith oherwydd eu rhyw, eu statws priodasol neu am iddynt newid eu rhyw, mae hynny'n anghyfreithlon a dylai'r cyflogwyr roi diwedd ar y gwahaniaethu.
Mae cyfreithiau gwahaniaethu ar sail rhyw yn gwarchod pawb sy'n gweithio fwy neu lai (yn ddynion ac yn ferched) ac yn berthnasol i bob math o gorff yn y DU.
Dan Ddeddf Cyflog Cyfartal 1970, mae'n anghyfreithlon i gyflogwyr wahaniaethu rhwng dynion a menywod o ran eu cyflogau a'u hamodau gwaith pan fyddan nhw'n gwneud yr un gwaith neu waith tebyg; gwaith sy'n cael ei raddio'n gydradd mewn astudiaeth gwerthuso swyddi gan y cyflogwyr; neu waith o werth cydradd.
Gwahanol fathau o wahaniaethu ar sail rhyw
Mae gwahaniaethu ar sail rhyw yn anghyfreithlon ym mhob maes cyflogaeth. Mae'r gyfraith yn ymwneud â recriwtio, telerau ac amodau, cyflog a buddiannau, statws, cyfleoedd hyfforddi, dyrchafu a throsglwyddo, a hefyd â dileu swydd a diswyddo.
Fodd bynnag, dan rai amodau, gellir cynnig swydd i rywun o ryw penodol, os oes 'gofyniad galwedigaethol dilys'. Dyma rai esiamplau posib:
Ceir pedwar math o wahaniaethu:
Os na fydd cyflogwyr yn atal eu gweithwyr rhag gwahaniaethu ar sail rhyw, fe allan nhw eu hunain fod yn gwahaniaethu'n anghyfreithlon.
Dan rai amgylchiadau, fe all cyflogwyr annog menywod neu ddynion yn benodol neu gynnig cymorth iddynt, ac fe ganiateir y 'gweithredu cadarnhaol' hwn dan ddeddfau gwahaniaethu ar sail rhyw.
Er enghraifft, gall cyflogwyr sydd heb ddim menywod mewn swyddi rheoli gynnig cwrs hyfforddi mewn sgiliau rheoli i fenywod yn unig neu eu hannog i wneud cais am swyddi rheoli. Dim ond i hyfforddiant ac anogaeth i wneud cais am swyddi y mae gweithredu cadarnhaol yn berthnasol. Felly, pan fydd angen penderfynu pwy sydd i gael swydd, rhaid i'r cyflogwyr ystyried pob ymgeisydd ar sail eu haddasrwydd yn unig.
Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus, cewch fynd at Dribiwnlys Cyflogaeth - rhaid i chi wneud hyn o fewn tri mis i'r adeg pan fydd y gwahaniaethu'n digwydd neu o fewn chwe mis os mai achos ynghylch diffyg cyflog cyfartal sydd dan sylw. Fe all tribiwnlysoedd hefyd roi iawndal i chi mewn achos o wahaniaethu anghyfreithlon ar sail rhyw.
Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 474747 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd..