Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gweithwyr Asiantaeth

Er bod gan weithwyr asiantaeth (neu weithwyr dros-dro/"temps") lawer o hawliau cyflogaeth, fel arfer mae ganddynt hawliau gwaith gwahanol i weithwyr arferol. Fel gweithiwr asiantaeth, mae'n bwysig eich bod yn gwybod beth yw eich hawliau a'r rheolau ynghylch sut y dylai asiantaethau eich trin.

Beth yw gweithwyr asiantaeth?

Bydd gweithwyr asiantaeth yn gweithio drwy asiantaeth sy'n dod o hyd i waith ar eu cyfer. Bydd y cwmni sy'n llogi'r gweithiwr yn talu ffi i'r asiantaeth, a bydd yr asiantaeth yn talu'r cyflog.

Mae sawl mantais o fod yn weithiwr asiantaeth - gallwch:

  • ddefnyddio hyn yn garreg gamu i gyrraedd eich dewis swydd
  • defnyddio hyn fel dull o gael eich troed i mewn i'r farchnad swyddi neu ail-afael mewn swydd
  • defnyddio hyn i weithio'n fwy hyblyg er mwyn ceisio cael cydbwysedd o ran dyletswyddau yn y cartref
  • symud yn rhwydd o'r naill swydd i'r llall, heb roi prin ddim rhybudd neu ddim o gwbl
  • rhoi cynnig ar wahanol fathau o waith

Fel gweithiwr asiantaeth, mae'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, deddfwriaeth amser gweithio ac iechyd a diogelwch a darpariaethau nawdd cymdeithasol i gyd yn berthnasol i chi. Serch hynny, mae hyblygrwydd i'r gweithiwr a'r cyflogwr yn un o nodweddion gwaith asiantaeth. Golyga hynny bod gan weithwyr asiantaeth yr hyblygrwydd i gymryd swydd a gadael swydd ar fyr rybudd, ond mae'r un peth yn wir am gyflogwyr - gallant derfynu gwaith dros-dro heb fod yn atebol am ddod â swydd i ben yn annheg na thalu tâl dileu swydd.

Mae gwahaniaethau pwysig rhwng gweithwyr asiantaeth dros dro, a'r rhai a logir ar gontractau cyfnod-penodol. Os mai gweithiwr asiantaeth ydych chi, gyda'ch asiantaeth y mae'ch contract, a rhaid iddi hi dalu'ch cyflog chi, hyd yn oed os nad yw'r cwmni sy'n defnyddio'r gwasanaeth wedi talu iddyn nhw. Fodd bynnag, os byddwch chi'n llofnodi contract cyfnod-penodol gyda'r cwmni llogi, nid yw'r asiantaeth yn gyfrifol am dalu'ch cyflog, ac felly bydd eich hawliau'n wahanol. Mynnwch ddeall pa fath o gontract rydych chi'n ei lofnodi er mwyn bod yn glir am eich statws cyflogaeth. Sicrhewch eich bod yn edrych ar eich contract oherwydd mae’n bosib ei bod yn cynnwys cyfnod rhybudd.

Eich hawliau fel gweithiwr asiantaeth

Mae gweithwyr asiantaeth fel arfer yn cael eu hytyried i fod yn ‘weithwyr’ yn hytrach na chyflogai.  Hawliau pennaf gweithwyr yw:

  • gwyliau gyda thâl, cyfnodau egwyl a therfyn ar oriau gweithio
  • dim ostyngiadau anghyfreithlon o gyflog
  • y Lleiafswm Cyflog Cenedlaethol
  • dim i gael eich gwahaniaethu yn erbyn o dan y ddeddfwriaeth cydraddoldeb

Os ydych yn weithiwr asiantaeth, mae gennych yr hawl i Dâl Mamolaeth neu Dadolaeth, ond nid Absenoldeb Mamolaeth neu Dadolaeth.  Gallwch gael Tâl Salwch Statudol os ydych wedi gweithio i’r un asiantaeth am fwy na thri mis.  Gall Cyllid a Thollau EM helpu i benderfynu beth sydd gennych yr hawl i dderbyn.

Gall gweithwyr asiantaeth weithiau cael eu hystyried fel ‘cyflogeion’.  Er enghraifft, os ydynt wedi gweithio i’r un cwmni am nifer o flynyddoedd ac wedi cael eu trin yn yr un modd a chyflogai gan y cwmni hwnnw.  Os mae yna anghydfod ynghylch os ydych yn ‘weithiwr/wraig’ neu beidio, bydd Tribiwnlys Cyflogaeth yn penderfynu ar ffeithiau’r achos.

Mae yn rheolau arbennig ar gyfer gweithwyr asiantaeth ar dalu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol.

A oes gennych yr un hawl i fuddiannau â staff parhaol os ydych chi'n gwneud yr un gwaith?

Mae'n bosib na fydd gweithwyr asiantaeth yn cael yr un manteision â chyflogeion parhaol nac ychwaith yr un lwfans gwyliau. Dylech edrych ar eich contract i weld beth y gallai fod gennych yr hawl iddo, neu mynnwch sgwrs gyda'ch asiantaeth. Oni allwch chi ddangos bod rhywun yn gwahaniaethu'n anghyfreithlon yn eich erbyn, go brin bod llawer y gallwch chi ei wneud os na chewch chi'r un buddiannau.

Beth i'w wneud os nad yw eich asiantaeth yn rhoi gwaith i chi

Does dim llawer y gallwch ei wneud, oni bai eich bod yn meddwl bod eich asiantaeth yn gwahaniaethu'n anghyfreithlon yn eich erbyn, neu'n torri'ch hawliau statudol. Asiantaethau sydd i benderfynu pwy maen nhw'n eu cynnig i gwmnïau, a'r duedd yw bod ganddyn nhw fel arfer fwy o bobl ar eu llyfrau nag sydd eu hangen er mwyn ymateb i adegau prysur. Codwch y mater gyda'ch asiantaeth - os mai'r rheswm dros hyn yw bod cyflogwr wedi rhoi geirda gwael, yna dylent esbonio hyn a rhoi cyfle i chi gael rhoi eich ochr chi o'r ddadl. Os mai'r rheswm yw nad oes digon o alw am y math o waith rydych chi'n chwilio amdano, efallai y byddai'n syniad da i chi ehangu'r dewis o swyddi rydych chi'n fodlon eu gwneud. Os yw hynny'n methu, efallai y dylech ystyried ymuno ag asiantaeth arall - cewch gofrestru gyda faint fynnoch chi.

Y rheolau ar gyfer asiantaethau

Rhaid i Asiantaethau gadw at nifer o reoliadau:

  • chân nhw ddim codi ffi arnoch chi
  • chân nhw ddim eich gorfodi i ddefnyddio gwasanaethau-am-ffi (ee ysgrifennu CV) a gwneud hynny'n amod ar gyfer dod o hyd i waith i chi
  • chân nhw ddim eich rhwystro rhag derbyn swydd barhaol gyda chwmni lle buoch chi'n gwneud gwaith dros dro, ac mae terfyn ar y ffioedd y cân nhw eu codi ar y cwmni (a elwir weithiau'n ffioedd"dros dro i barhaol").
  • rhaid iddyn nhw roi telerau ac amodau ysgrifenedig i chi
  • chân nhw ddim eich atal chi rhag cofrestru gydag asiantaethau eraill

Yn olaf, os mai 'busnes cyflogi' ydyn nhw - sef asiantaeth gweithwyr dros dro - rhaid iddyn nhw dalu i chi, hyd yn oed os nad yw'r cwmni sy'n defnyddio'i gwasanaeth wedi talu iddyn nhw.

Beth i’w wneud os bydd eich asiantaeth yn torri'r rheolau

Gall Tribiwnlys Diwydiannol ddirwyo asiantaethau cyflogi a'u gwahardd rhag gweithredu am hyd at 10 mlynedd os na fyddant yn cyrraedd y safonau priodol.

Os tybiwch fod eich asiantaeth chi wedi torri unrhyw un o'r rheolau, cysylltwch â llinell cymorth Safonau Asiantaethau Cyflogi ar 0845 955 5105 (rhwng 9.30 am a 4.30 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener). Mae'r Arolygiaeth Safonau Asiantaethau Cyflogi yn archwilio pob cwyn a dderbynia.

Os yw'r asiantaeth wedi torri telerau eich contract, cewch gymryd camau eich hun drwy'r llysoedd. Os bydd yr asiantaeth yn didynnu arian yn anghyfreithlon o'ch cyflog, gallwch gwyno wrth Dribiwnlys Diwydiannol.

Ble i gael cymorth

Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 474747 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU