Gall cyflogwyr a gweithwyr fod yn gyfrifol am dorri contract cyflogaeth - felly mae'n bwysig gwybod beth yw ystyr hynny a beth y dylech ei wneud os byddwch chi neu'ch cyflogwyr yn torri'ch contract.
Mae contract cyflogaeth yn gytundeb gyfrwymol rhwng chi â’ch cyflogwr. Mae torri mewn contract yn digwydd pan fo eich cyflogwr yn torri un o’r telerau (er enghraifft, os nad ydy eich cyflogwr yn talu eich cyflog, neu nad ydych yn gweithio’r oriau sydd wedi’u trefnu).
Nid yw telerau’r contract i gyd ar bapur. Gall toriad bod o derm a gytunwyd ar lafar, teler ysgrifenedig, neu deler ‘ymhlyg’ o gontract.
Mae eich cyflog wedi'i warchod gan amodau arbennig. Mewn rhai sefyllfaoedd, chaiff eich cyflogwyr ddim tynnu arian o'ch cyflog hyd yn oed pe na bai hynny'n torri'r contract.
Os tybiwch fod eich contract wedi'i dorri, darllenwch delerau eich contract yn ofalus i wneud yn siŵr. Os oes, dylech geisio datrys y broblem yn uniongyrchol gyda'ch cyflogwr yn gyntaf.
Cyn cymryd camau cyfreithiol, fe allech roi cynnig ar ffyrdd eraill o ddatrys yr anghydfod os bydd eich cyflogwyr yn cytuno i hynny. Er enghraifft, gallech roi cynnig ar gyfryngu drwy Acas (neu’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur os ydych chi’n gweithio yng Ngogledd Iwerddon).
Os na allwch chi ddatrys y broblem gyda'ch cyflogwyr, fe allwch benderfynu cymryd camau cyfreithiol. Meddyliwch yn ofalus cyn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn eich cyflogwyr. Holwch eich hun beth rydych chi'n gobeithio'i gyflawni a faint fydd cost hynny.
Cofiwch mai dim ond os gallwch chi brofi i chi gael colled ariannol go iawn (a elwir yn 'iawndal') y cewch chi iawndal (er enghraifft, os nad yw eich cyflogwyr yn talu cyflog i chi) - does dim iawndal ar gyfer trallod neu frifo teimladau. Oherwydd dim ond yr union golled gawsoch chi y bydd yr iawndal yn ei adlewyrchu. Bydd yn cael ei seilio ar eich cyflog net (hynny yw, ar ôl treth), nid ar eich cyflog gros (cyn treth). Hefyd, cofiwch y gall cymryd camau cyfreithiol brocio'ch cyflogwyr i wneud gwrth-hawliad yn eich erbyn os ydyn nhw'n teimlo bod ganddyn nhw achos o'r fath.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, byddai'n beth da siarad â nhw cyn cymryd unrhyw gamau cyfreithiol, gan fod rhai undebau'n darparu gwasanaeth cynghori cyfreithiol ar gyfer eu haelodau. Neu, fe allech siarad â thwrnai, neu drafod eich achos gydag un o gynghorwyr Cyngor ar Bopeth.
Os ydych yn penderfynu i gymryd camau cyfreithiol, gall un a’i fod trwy Tribiwnlys Cyflgoaeth neu lys sifil.
Er mwyn dwyn achos am dorri contract gerbron Tribiwnlys Cyflogaeth, rhaid bod eich cyflogaeth wedi dod i ben. Hefyd mae terfyn o £25,000 ar y swm y caiff tribiwnlys ei ddyfarnu (os ydych eisiau hawliau mwy, ni allwch yng nghyntaf hawlio £25,000 o Dribiwnlys ac wedyn mynd ymlaen i geisio’r gweddill o lys sifil). Mae yna gyfyngiadau ar y mathau o hawliad y gellir eu gwneud (er enghraifft, chewch chi ddim hawlio am anaf personol drwy gyfrwng y tribiwnlys). Rhaid dwyn yr achos o fewn tri mis.
Er mwyn gwneud hawliad a chithau'n dal i fod yn gyflogedig, fel arfer, byddwch yn mynd drwy drefn hawliadau bach y llys sirol neu lys sifil arall. Caniateir mwy o amser i chi ddwyn achos fel hyn nag a ganiateir gan Dribiwnlys Cyflogaeth ond fel arfer, bydd rhaid talu ffioedd llys.
Os byddwch chi'n torri'ch contract, fe ddylai eich cyflogwyr geisio setlo'r mater gyda chi'n anffurfiol, ond fe allan nhw eich siwio chi am iawndal yn union fel y gallwch chithau eu siwio nhw.
Dim ond am golled ariannol y dyfernir iawndal (er enghraifft, os na fyddwch chi wedi rhoi digon o rybudd, fe allai'r iawndal fod ar gyfer cost ychwanegol cyflogi staff dros dro i wneud eich gwaith, neu am golli refeniw). Byddai dal gennych yr hawl i'r cyflog a enillwyd gennych cyn i chi adael, a thâl am unrhyw wyliau statudol sydd heb eu cymryd).
Y ffordd fwyaf cyffredin i gyflogai dorri contract yw pan fydd rhywun yn rhoi'r gorau i weithio heb roi (neu heb weithio) cyfnod o rybudd priodol, neu pan fyddwch chi'n mynd i weithio i rywun sy'n cystadlu yn erbyn eich cyflogwyr yn groes i'ch contract.
Mae'n bosib ateb y rhan fwyaf o gwestiynau am dorri contract drwy edrych ar delerau eich contract.
Ni fyddwch o anghenraid yn cael tâl am oriau nad fyddwch chi'n eu gweithio, ond dylai eich cyflogwyr fod yn ofalus ynghylch rhoi mwy o gosb ariannol i chi ar ben hynny. Os nad oes dim yn eich contract sy'n gadael i'ch cyflogwyr wneud hynny, rhaid iddyn nhw dalu i chi'r arian rydych wedi'i ennill ac yna benderfynu a ddylid eich siwio am unrhyw arian maen nhw wedi'i golli oherwydd eich bod yn hwyr.
Bydd peidio â'ch talu ar yr adeg iawn yn aml yn golygu bod eich cyflogwyr yn torri'r contract. Os gallwch chi brofi i chi ddioddef colled ariannol (e.e. gorfod talu ffioedd gorddrafft), gallwch hawlio iawndal. Siaradwch â'ch cyflogwyr gyntaf. Os bydd yn dal i ddigwydd, fe allech geisio gael gwaharddeb llys i'w hatal rhag torri'r contract fel hyn eto.
Torri contract wrth eich diswyddo yw hyn (e.e. heb roi rhybudd priodol i chi neu heb ddilyn y drefn sydd yn eich contract). Gallwch gymryd camau yn yr un ffordd ag y byddech ar gyfer unrhyw enghraifft o dorri contract.
Ydy. Bydd y contract yn cael ei wneud yn syth pan fyddwch chi'n derbyn y cynnig ac mae'r ddwy ochr wedi'u rhwymo gan delerau'r contract hyd nes y caiff ei derfynu.
Mae rhai contractau'n caniatáu i'r cyflogwyr newid pethau. Os nad yw eich contract chi'n gwneud hyn, rhaid i chi a'ch cyflogwyr gytuno ar unrhyw newid. Mae newid pethau heb gytundeb yn enghraifft o dorri contract.
Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 474747 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch gysylltu â'r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.
Cael cyngor cyfreithiol gan dwrnai neu asiantaeth gynghori ynghylch amodau contract.