Mae gan weithwyr cyfnod-penodol yr un hawliau sylfaenol â gweithwyr parhaol. Yma, cewch wybod beth yw contract cyfnod-penodol a pha warchodaeth ychwanegol sydd gan weithwyr cyfnod-penodol.
Mae rheoliadau arbennig yn gwarchod gweithwyr cyfnod-penodol sy'n diffinio gweithwyr cyfnod penodol fel 'rhywun sydd â chontract cyflogaeth a ddaw i ben pan gyrhaeddir dyddiad penodol, pan fydd digwyddiad penodol yn digwydd neu pan na fydd y digwyddiad hwnnw'n digwydd neu pan fydd tasg benodol wedi'i chwblhau'. Dyma enghreifftiau o weithwyr cyfnod penodol:
Os caiff rhywun ei gyflogi 'dros dro', ond heb gontract yn gorffen ar ddyddiad, digwyddiad, neu ar ddiwedd tasg benodol, nid ydynt wedi'u cynnwys dan y rheoliadau.
Dim ond i gyflogeion y mae'r Rheoliadau ar gyfer Cyflogeion Cyfnod-Penodol yn berthnasol: sef pobl sydd â chontract cyfnod-penodol gyda'r busnes lle maen nhw'n gweithio. Nid yw'r rheoliadau'n berthnasol i weithwyr asiantaeth ('dros dro') sydd â chontract gyda chwmni allanol, prentisiaid, na myfyrwyr a hyfforddeion eraill ar leoliadau profiad gwaith neu ar gynlluniau gwaith dros dro.
Mae cyflogi gweithwyr am gyfnod-penodol yn golygu bod cyflogwyr yn gallu cael gwasanaeth pobl sydd â sgiliau arbenigol neu lafur ychwanegol pan fo'u hangen. Mae contract cyfnod-penodol yn golygu bod gweithwyr a chyflogwyr ill dau'n hyblyg o ran eu hymrwymiad.
Gall hyn fod o fudd i gyflogwyr a gweithwyr, gan fod cyflogwyr yn gallu manteisio ar sgiliau arbenigol i ateb gofynion penodol, tra bo gweithwyr yn gallu ennill profiad ehangach. Mewn ambell gwmni, telir mwy i gyflogeion cyfnod-penodol nag i staff parhaol, naill ai am fod ganddyn nhw sgiliau arbennig, neu fel iawndal am natur dros-dro'r swydd.
Y rheol gyffredinol, ac eithrio pan fydd rheswm da, yw na chaiff cyflogwyr drin gweithwyr cyfnod-penodol yn llai ffafriol na chyflogeion parhaol sy'n gwneud yr un swydd, neu fwy neu lai yr un swydd. Mae hyn yn golygu bod gan gyflogeion cyfnod-penodol yr hawl (ac eithrio pan fo rheswm da fel arall) i'r canlynol:
Fodd bynnag, nid oes gan weithwyr cyfnod-penodol yr hawl i'r un cyflog, amodau a buddiannau os yw eu telerau a'u hamodau cyffredinol (er eu bod yn wahanol i rai'r cyflogeion parhaol) gystal os nad gwell na hwy. Er enghraifft, caiff cyflogwyr ddewis rhoi gwell cyflog i weithwyr cyfnod-penodol yn hytrach na hawliau pensiwn.
Mae peidio ag adnewyddu contract cyfnod-penodol yn cael ei ystyried yn ddiswyddiad, felly os na fydd y contract yn cael ei adnewyddu, bydd gan gyflogeion cyfnod-penodol hefyd:
Fel arfer, daw contract cyfnod-penodol i ben fel mater o drefn unwaith i'r pwynt terfyn gyrraedd - does dim rhaid i gyflogwyr roi cyfnod o rybudd. Mae dal i fod gofyn i'ch cyflogwyr weithredu'n deg a dilyn y drefn ddiswyddo sylfaenol sy'n ofynnol, neu fe allech ddwyn achos diswyddo annheg.
Os ydych chi'n gweithio dan gontract llenwi-bwlch dros rywun sydd ar gyfnod o absenoldeb mamolaeth a bod eich contract yn cael ei derfynu pan fydd honno'n dychwelyd i'r gwaith, fel arfer, bydd hynny'n deg.
Edrychwch ar delerau eich contract - os yw hwnnw'n dweud y gellir terfynu'r gyflogaeth yn fuan a bod eich cyflogwyr wedi rhoi rhybudd iawn i chi, fedrwch chi wneud fawr o ddim. Fodd bynnag, os nad yw'n dweud hynny, mae'n bosib bod eich cyflogwyr yn torri'r contract.
Os byddwch chi'n gweithio y tu hwnt i derfyn eich contract (ee eich bod wedi cael gweithio am flwyddyn er mai contract tri mis oedd gennych yn wreiddiol), mae eich cyflogwyr wedi gwneud cytundeb dealledig i newid y dyddiad terfyn. Yna, byddai gennych yr hawl i gael rhybudd priodol petai eich cyflogwyr yn dymuno'ch diswyddo.
Dim ond am bedair blynedd y ceir cadw gweithwyr dan gontractau cyfnod-penodol olynol. Os adnewyddir eich contract wedi hynny, byddwch yn dod yn gyflogai parhaol, oni all eich cyflogwyr ddangos rheswm da pam y dylech barhau i weithio dan gontract cyfnod-penodol. Dim ond gwasanaeth o 10 Gorffennaf 2002 a gyfrir.
Os cynigir contract newydd i chi ar delerau llai ffafriol, cewch ei wrthod, a cheisio negodi gyda'ch cyflogwr. Os bydd eich cyflogwr yn gwrthod newid y telerau, bydd yn rhaid i chi ddewis derbyn y contract diwygiedig neu ystyried bod y contract wedi dod i ben. Os bydd y contract yn dod i ben, mae'n bosib y byddwch yn gallu dwyn achos diswyddo annheg.
Yn gyntaf, codwch y mater gyda'ch rheolwr/wraig a/neu eich swyddog Adnoddau Dynol. Os nad oes modd datrys y peth felly, gofynnwch i'ch cyflogwyr am ddatganiad ysgrifenedig yn esbonio pam eich bod yn cael eich trin yn llai ffafriol.
Y cam nesaf fydd gwneud cwyn ysgrifenedig gan ddilyn trefn gwyno safonol eich gweithle.
Os na allwch chi ddatrys y broblem gyda'ch cyflogwyr y cam olaf fydd mynd â'ch cwyn at Dribiwnlys Cyflogaeth.
Rhaid i chi gyflwyno'r hawliad o fewn tri mis i'r digwyddiad (os mai un digwyddiad sydd) neu'r digwyddiad diwethaf (os bu'r driniaeth yn barhaus) pan gawsoch eich trin yn llai ffafriol, oni bai eich bod yn dal i fynd drwy'r drefn gwyno.
Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 47 47 47 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch gysylltu â'r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) leol hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.