Gall weithio rhan-amser bod yn ffordd dda o gydbwyso’ch gwaith a’ch ymrwymiadau personol. Os ydych chi'n gweithio rhan-amser, mae gennych yr un hawl i gael eich trin yn deg â'ch cydweithwyr amser llawn.
Mae gweithwyr rhan-amser yn gweithio llai o oriau na gweithwyr amser llawn. Does dim nifer penodol o oriau sy'n gwneud rhywun yn amser llawn neu'n rhan-amser, ond fel arfer bydd gweithwyr amser-llawn yn gweithio 35 awr neu fwy yr wythnos.
Mae'r rhesymau dros weithio rhan-amser yn amrywio o unigolyn i unigolyn. Fe all olygu'n syml eich bod yn awyddus i daro gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, neu fod gennych gyfrifoldebau gofalu. Os oes gennych ddiddordeb mewn newid eich patrymau gwaith, fe allai fod yn werth i chi ddarllen am weithio hyblyg.
Mae gan weithwyr rhan-amser yr un hawliau cyflogaeth statudol â gweithwyr eraill. Nid oes rhaid i chi weithio isafswm oriau i fod yn gymwys i gael hawliau cyflogaeth.
Yn ôl y Rheoliadau Gweithwyr Rhan-amser (Atal Triniaeth Lai Ffafriol), rhaid trin gweithwyr rhan-amser o leiaf gystal â gweithwyr amser llawn, oni ellir cyfiawnhau'n wrthrychol y rheswm dros beidio â gwneud hynny. Gweithiwr 'cyfartal' amser llawn yw gweithiwr sy'n gwneud swydd debyg ar yr un math o gontract.
Gall y rheoliadau gynnwys staff dros dro, megis gweithwyr asiantaeth a gweithwyr achlysurol ond ni all gweithwyr asiantaeth gymharu eu hunain â gweithwyr parhaol amser llawn. Nid yw'r rheoliadau'n atal cyflogwyr rhag rhoi gwell telerau i weithwyr rhan-amser, o bosib er mwyn ceisio cael gweithlu mwy cytbwys, ond rhaid i'r cyflogwyr hynny sicrhau nad yw gwneud hyn yn torri deddfau gwahaniaethu eraill.
Yn aml iawn, bydd y rheoliadau'n golygu bod rhaid i'r buddiannau fod yn 'pro-rata'. Golyga hyn bod yn rhaid iddynt fod yn gymesur â'ch oriau, felly er enghraiff, os yw gweithiwr amser llawn yn cael bonws o £1000, dylai gweithiwr rhan-amser sy'n gweithio hanner yr oriau gael bonws o £500.
Isod, rhoddir enghreifftiau o'r pethau y mae'r rheoliadau hyn yn effeithio arnynt. Cofiwch y caiff cyflogwyr drin gweithwyr rhan-amser yn llai ffafriol (hynny yw, fe gân nhw dorri'r rheolau a restrir isod) os oes modd 'cyfiawnhau hyn yn wrthrychol' - esbonnir beth yw ystyr 'cyfiawnhau'n wrthrychol' yn nes ymlaen.
Dylai gweithwyr rhan-amser dderbyn o leiaf yr un gyfradd gyflog fesul awr â gweithwyr llawn-amser sy'n gwneud swydd debyg.
Os ydych chi'n gwneud gwaith rhan-amser, gall eich cyflogwyr bennu'r un trothwy oriau ar gyfer tâl goramser ag y maent yn ei ddefnyddio ar gyfer gweithwyr amser llawn. Felly, mae'n bosib na chewch chi dâl goramser nes i chi weithio mwy o oriau nag y bydd gweithwyr amser llawn fel arfer yn eu gweithio.
Ni ddylai cyflogwyr wahaniaethu rhwng gweithwyr amser llawn a gweithwyr rhan-amser o ran eu hawl i ymuno â chynllun pensiwn. Dylid cynnig buddiannau eraill gan y cwmni (megis ceir cwmni, disgownt i weithwyr ac yswiriant iechyd) pro rata os oes modd. Os nad yw hyn yn bosibl, rhaid i gyflogwyr benderfynu a ddylid cynnig y budd hwnnw i bawb ai peidio.
Ni ddylid eithrio gweithwyr rhan-amser rhag cael cyfleoedd hyfforddi a datblygu gyrfa. Lle bynnag y bo modd, rhaid trefnu hyfforddiant ar adegau sy'n addas i'r rhan fwyaf o weithwyr, gan gynnwys gweithwyr rhan-amser.
Gwyliau
Bydd gan bob gweithiwr/wraig yr hawl i nifer sylfaenol o ddiwrnodau o wyliau blynyddol. Gan ddechrau ar 1 Hydref 2007, y lleiafswm statudol y mae gan bawb yr hawl iddo fydd 4.8 wythnos o wyliau'r flwyddyn, ar sail eich wythnos weithio arferol. Er enghraifft, os byddwch chi'n gweithio:
Bydd llawer o gyflogwyr yn rhoi mwy na'r lleiafswm gwyliau statudol. Mae'r rheoliadau'n golygu na ddylid trin gweithwyr rhan-amser yn llai ffafriol; bydd hyn fel arfer yn golygu y caiff gweithiwr/wraig rhan-amser gyfran pro rata o'r hyn a gaiff gweithwyr amser llawn.
Ni chaiff cyflogwyr dalgrynnu nifer y diwrnodau a roddir i'r rhif nesaf i lawr, oherwydd byddai hynny'n golygu trin rhywun yn anffafriol ond fe allent roi ffracsiynau o ddiwrnod ar ffurf oriau.
Gall cyflogwyr reoli pa bryd y byddwch chi'n cymryd eich gwyliau ac felly fe allan nhw'ch gorfodi i gymryd eich gwyliau banc o'ch hawl i wyliau os bydd y gwyliau banc hynny'n cyd-daro ag un o'ch diwrnodau gwaith.
Bydd rhai cyflogwyr yn gadael i'w gweithwyr gael hoe yn eu gyrfa. Os ydych chi'n weithiwr/wraig rhan-amser, bydd gennych yr hawl i'r un cyfleoedd.
Bydd gan y rhan fwyaf o weithwyr rhan-amser yr un hawliau i gael tâl salwch ac absenoldeb a thâl mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu ac absenoldeb rhiant ag sydd gan staff amser llawn. Os bydd cwmnïau'n cynnig mwy na'r hawl statudol, rhaid i weithwyr rhan-amser gael y manteision contractaidd hyn hefyd.
Does dim modd defnyddio bod yn rhan-amser yn rheswm dros ddewis rhywun i'w trosglwyddo neu ar gyfer dileu swydd, neu i wrthod dyrchafiad iddynt, oni ellir cyfiawnhau hynny'n wrthrychol.
Caniateir torri'r rheolau a nodir uchod os oes cyfiawnhad gwrthrychol dros wneud hynny. Golyga hyn bod yn rhaid i gyflogwyr ddangos bod y rheswm yn angenrheidiol ac mai dyna'r ffordd iawn o gyflawni un o amcanion dilys y busnes. Nid oes modd trin gweithwyr rhan-amser yn llai ffafriol dim ond am mai gweithwyr rhan-amser ydyn nhw.
Mae'n bosib na fydd modd darparu rhai buddiannau pro rata i weithwyr rhan-amser (er enghraifft, talu am aelodaeth o glwb iechyd). Mewn sefyllfa o'r fath, byddai'n rhaid i gyflogwyr benderfynu a ddylid rhoi'r budd hwn i'r staff amser llawn ac i'r staff rhan-amser ynteu (os oedd modd cyfiawnhau hyn yn wrthrychol - er enghraifft os yw'r costau'n fwy na'r budd) a ddylid peidio â rhoi'r budd hwn i weithwyr rhan-amser.
Os mai gwaith rhan-amser sydd gennych a'ch bod yn meddwl eich bod yn cael eich trin yn wahanol, dylech gymharu'ch sefyllfa â rhywun sydd:
yn gweithio i'r un cyflogwyr ac yn cael ei ystyried yn amser llawn
yn gwneud gwaith gweddol debyg, ac â phrofiad a sgiliau tebyg
dan yr un math o gontract
Fel arfer, bydd angen i'r person hwnnw fod yn gweithio yn yr un lleoliad â chi, ond os nad oes neb sy'n ateb y gofynion hyn, fe allwch gymharu'ch hun â rhywun mewn lleoliad arall.
Yn gyntaf, codwch y mater gyda'ch cyflogwyr. Os oes gennych gynrychiolydd yn y gwaith (e.e. swyddog undeb llafur), mae'n bosibl y gall eich helpu.
Mae gennych yr hawl i ddatganiad ysgrifenedig sy'n esbonio pam eich bod yn cael eich trin yn llai ffafriol. Os ysgrifennwch chi at eich cyflogwyr yn gofyn am y datganiad hwn, rhaid iddyn nhw ymateb o fewn 28 diwrnod.
Os na fydd holi'n anffurfiol fel hyn yn gweithio, mae'n bosib y bydd angen i chi ddilyn trefn gwyno fewnol eich lle gwaith. Yn y pen draw, mae'n bosib y bydd rhaid i chi fynd at Dribiwnlys Cyflogaeth.
Cyn cymryd camau, dylech gofio y gall fod rheswm arall dros y ffordd y cewch chi'ch trin, ac nad eich statws rhan-amser yw'r rheswm. Er enghraifft, fe ellid cyfiawnhau gwahanol gyfraddau tâl fesul awr drwy ddweud bod hynny'n rhan o gynllun tâl cysylltiedig â pherfformiad - gyda'ch cyfradd gyflog yn gysylltiedig â'ch marc mewn gwerthusiad. Mae'n bosib hefyd y gellid cyfiawnhau gwahanol gyfraddau cyflog oherwydd bod taliadau ychwanegol yn gysylltiedig â shifftiau nos.
Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 47 47 47 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch gysylltu â'r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) leol hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.