Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Contractau Cyflogaeth: cyflwyniad

Mae gan bob cyflogai gontract cyflogaeth, er y gall y contract hwnnw fod yn un llafar.

Beth yw contract cyflogaeth?

Cytundeb rhwng cyflogwyr a chyflogai yw contract cyflogaeth. Gelwir eich hawliau a'ch dyletswyddau, a rhai eich cyflogwyr yn 'delerau'r contract'.

Does dim rhaid i'r contract fod yn ysgrifenedig, ond mae gennych yr hawl i gael datganiad ysgrifenedig o'r prif delerau o fewn dau fis i chi ddechrau gweithio.

Bydd y contract yn cael ei wneud yn syth pan fyddwch chi'n derbyn y cynnig am swydd, ac mae'r ddwy ochr wedi'u rhwymo gan delerau'r contract hyd nes y caiff ei derfynu'n briodol (drwy roi rhybudd fel arfer) neu hyd nes newidir y telerau (mewn cytundeb rhwng y ddwy ochr fel arfer).

Bydd eich hawliau cyflogaeth yn aml yn dibynnu ai ‘cyflogai’, ‘gweithiwr’ ynteu ‘hunangyflogedig’ ydych chi. Mae hyn yn dibynnu ar y math o gytundeb sydd gennych gyda'ch cyflogwr.

Datganiadau ysgrifenedig

Os mai cyflogai ydych chi, rhaid i chi gael 'datganiad manylion cyflogaeth ysgrifenedig' yn nodi rhai o'ch prif delerau. Rhaid i'ch cyflogwyr roi hwn i chi o fewn dau fis i chi ddechrau gweithio. Rhaid i’r datganiad gynnwys:

  • tâl
  • oriau gwaith
  • hawl gwyliau
  • trefniadau tâl salwch
  • cyfnodau rhybudd
  • gwybodaeth am drefniadau disgyblu a chwyno

Mae pecyn rhyngweithiol ar gael gan Business Link i helpu'ch cyflogwyr i greu datganiad ysgrifenedig.

Os bydd telerau'r contract yn newid, rhaid i'ch cyflogwyr roi'r wybodaeth newydd i chi ar ffurf ysgrifenedig o fewn mis.

Beth i'w wneud os nad oes gennych gontract cyflogaeth

Os mai cyflogai ydych chi, bydd gennych gontract cyflogaeth fel mater o drefn unwaith y byddwch chi'n derbyn cynnig swydd. Mae'n bosib nad oes gennych 'ddatganiad manylion cyflogaeth ysgrifenedig' yn nodi telerau'ch cyflogaeth.

Os na chewch chi un o'r rhain, neu os yw'n anghywir neu'n aneglur, neu os cewch chi'ch diswyddo am ofyn amdano, y peth cyntaf i'w wneud yw ceisio datrys y mater gyda'ch cyflogwyr. Os oes gennych gynrychiolydd yn y gwaith (e.e. swyddog undeb llafur), mae'n bosib y gall eich helpu. Yn y pen draw, mae'n bosib y gallwch fynd at Dribiwnlys Cyflogaeth.

Bydd diswyddo rhywun am ofyn am ddatganiad ysgrifenedig yn cael ei ystyried yn ddiswyddo annheg fel mater o drefn.

Lle i gael cymorth

Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 47 47 47 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch gysylltu â'r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener

Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) leol gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.

Cael cyngor cyfreithiol gan Dwrnai neu Asiantaeth Cynghori ynghylch amodau eich contract.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU