Bydd gweithwyr gartref yn gwneud eu swydd yn eu cartref eu hunain (gwaith ymarferol gan amlaf). Bydd teleweithwyr hefyd yn gweithio gartref (ond gan amlaf - gwaith swyddfa fydd hwn). Mae manteision ac anfanteision i'r ddau fath o weithio gartref.
Mae pobl sy'n gwneud eu gwaith i gyd gartref yn cael eu hystyried yn bobl sy'n gweithio gartref. Cyflogir llawer o bobl sy'n gweithio gartref yn y DU yn y maes gweithgynhyrchu ac maen nhw'n gwneud amrywiaeth eang o nwyddau o esgidiau i gydrannau ceir.
Fel rhywun sy'n gweithio gartref, mae eich hawliau cyflogaeth yn dibynnu ar eich statws cyfreithiol. Ceir tri phrif gategori cyfreithiol: 'gweithwyr', 'cyflogeion' a phobl 'hunangyflogedig'. Dylech gofio nad yw hyn wastad yr un fath â'ch statws treth (felly mae'n bosib eich bod yn hunangyflogedig at ddibenion treth ond yn 'weithiwr/wraig' at ddibenion hawliau cyflogaeth).
Os mai gweithiwr/wraig neu gyflogai ydych chi, fel arfer bydd gennych yr hawl i'r lleiafswm cyflog cenedlaethol. Mae'n bosib y bydd eich cyflogwyr yn talu i chi yn ôl faint o waith wnewch chi, yn hytrach na fesul awr ('fesul tasg') Os felly, bydd gennych yr hawl i'r lleiafswm cyfradd cyflog naill ai am yr holl oriau y byddwch yn eu gweithio, neu os dilynir y drefn 'cyfradd deg fesul tasg', am 120 y cant o'r oriau y byddai gweithwyr sy'n gweithio i'ch cyflogwyr yn ei gymryd ar gyfartaledd i wneud y gwaith y byddwch chi'n ei wneud. Effaith y system hon yw bod y gweithwyr i gyd, ac eithrio rhai sy'n llawer arafach na'r cyfartaledd, yn ennill o leiaf y lleiafswm cyfradd cyflog am yr oriau y maent wir yn eu gweithio.
Os mai cyflogai'n gweithio gartref ydych chi, rhaid i'ch cyflogwyr sicrhau eich bod yn ddiogel. Dylent gynnal asesiad risg ar eich man gwaith, nodi unrhyw risgiau iechyd a diogelwch a chymryd camau i'w lleihau.
Rhaid i weithwyr gartref fod yn ofalus wrth:
Dylai pawb sy'n gweithio gartref, bod y rheiny'n hunan-gyflogedig ynteu'n gyflogedig (yn enwedig mamau newydd a rhai sy'n disgwyl) fod yn ofalus os ydyn nhw'n gweithio ar eu pen eu hunain am gyfnodau hir.
Mae rhai hysbysebion am swyddi gweithio gartref yn rhai twyllodrus. Does byth rhaid talu ffi am gael gwaith go iawn, felly peidiwch byth ag anfon arian at bobl neu gwmnïau sy'n honni eu bod yn barod i roi gwaith i chi ei wneud gartref.
Un twyll cyffredin yw hysbysebion am gyfeirio a llenwi amlenni a lle gofynnir am ffi gofrestru. Os talwch chi'r ffi, fe gewch eich cynghori i osod hysbyseb fel yr un a welsoch chi, ond chewch chi ddim gwaith go iawn. Mae un arall yn gofyn am arian i dalu am git adeiladu i chi weithio arno gartref ac mae'n addo talu'r arian yn ôl i chi yn ogystal â thâl am y gwaith ar ôl i chi ei gwblhau. Fodd bynnag, bydd yr hysbysebwyr yn pocedu unrhyw arian a anfonwch chi, gan honni nad yw'r cit y buoch chi'n gweithio arno o safon ddigon da.
Os ydych chi wedi dioddef oherwydd twyll gweithio gartref, cysylltwch â'ch Adran Safonau Masnach leol.
Y prif wahaniaeth rhwng 'gweithio gartref' a theleweithio' yw bod teleweithwyr, a all fod yn gweithio gartref amser llawn, gan amlaf yn gwneud gwaith swyddfa yn hytrach na gwaith ymarferol a'u bod yn aml yn defnyddio cyfrifiaduron a dyfeisiau electronig eraill i wneud eu gwaith a chyfathrebu'n uniongyrchol â'u swyddfa. Bydd rhai teleweithwyr yn treulio rhan o'u hwythnos yn gweithio yn y swyddfa a rhan ohoni'n gweithio gartref. Fel sy'n wir am weithio gartref, bydd eich hawliau'n dibynnu ar eich statws cyflogaeth, os mai 'cyflogai' ydych chi, bydd gennych yr un hawliau ag sydd gan unrhyw 'gyflogai' arall.
Dyma rai o'r manteision:
Dyma rai o'r anfanteision:
Os byddwch chi'n defnyddio cyfrifiadur personol, fe allai'r data fod yn agored i risg, felly mae'n bosib y bydd eich cyflogwyr yn darparu un ar eich cyfer.
Bydd rhaid i chi sicrhau nad yw unrhyw un sy'n ymweld â'ch cartref yn gweld unrhyw ddeunydd sensitif rydych chi'n gweithio arno.
Mynnwch sgwrs â'ch cyflogwyr. Mae'r gyfraith yn dweud bod rhaid i gyflogwyr ystyried ceisiadau gan rieni plant ifanc neu anabl ac mae 'na ddadl gref yn aml dros adael i gyflogeion amrywio'u patrymau gweithio. Fodd bynnag, oni bai fod eich contract yn dweud hynny, does dim rhaid i'ch cyflogwyr gytuno.
Oni bai fod eich contract yn dweud bod gofyn i chi weithio gartref, all cyflogwyr ddim eich gorfodi i wneud hynny - sylwch y gall eich contract fod yn rhannol ysgrifenedig ac yn rhannol lafar. Ni allan nhw ychwaith eich gorfodi i fynd â gwaith adref ar ôl diwrnod yn y swyddfa. Dylai eich oriau gweithio fod wedi'u nodi yn eich contract a rhaid iddyn nhw fod o fewn y terfynau a nodir yn y Rheoliadau Amser Gweithio.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.