Mae'r diffiniad o bwy sy'n 'gyflogeion' a phwy sy'n 'weithwyr' ychydig yn wahanol. Yn gyffredinol, os bydd hawliau'n berthnasol i 'weithwyr' byddant hefyd yn berthnasol i 'gyflogeion'. Mae gan gyflogeion hawliau cyflogaeth ychwanegol hefyd. Os ydych chi'n hunangyflogedig at ddibenion treth, byddwch chi fel arfer yn 'hunangyflogedig' at ddibenion hawliau cyflogaeth.
Cyflogeion yw'r rhan fwyaf o bobl sy'n gweithio. Ystyr cyflogai yw rhywun sy'n gweithio dan gontract cyflogaeth. Does dim angen i gontract fod yn ysgrifenedig – mae'n bodoli pan fyddwch chi a'ch cyflogwr yn cytuno ar delerau ac amodau cyflogaeth. Fe all hefyd fod yn ymhlyg yn eich gweithredoedd chi ac yng ngweithredoedd y sawl rydych yn gweithio iddo. Fel arfer, bydd eich contract yn nodi'r hyn y disgwylir i chi ei wneud. Fel rheol, bydd disgwyl i chi wneud y gwaith eich hun - h.y. chewch chi ddim anfon rhywun arall i wneud eich gwaith drosoch.
Yn ôl y gyfraith, rhaid i'ch cyflogwyr dynnu Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol o'ch cyflog wythnosol neu fisol cyn ei dalu i chi. Bydd gennych yr hawl hefyd i bob hawl cyflogaeth sylfaenol statudol gan gynnwys:
Mae'r categori hwn yn ehangach na'r categori 'cyflogeion', ond nid yw'n cynnwys pobl hunangyflogedig fel rheol. Gweithiwr yw unrhyw unigolyn sy'n gweithio i gyflogwyr, boed dan gontract cyflogaeth, neu dan unrhyw gontract arall lle bydd unigolyn yn ymgymryd neu'n perfformio unrhyw wasanaeth neu waith personol. Mae gan weithwyr yr hawl i hawliau cyflogaeth a hawliau gwarchodaeth craidd. Mae'r grwpiau canlynol o bobl yn debygol o fod yn weithwyr ond nid yn gyflogeion:
Ar yr amod bod amodau cymhwyso eraill yn cael eu bodloni, bydd gan bob gweithiwr yr hawliau canlynol:
Os ydych chi'n hunangyflogedig, nid oes gennych gontract cyflogaeth gyda chyflogwyr. Rydych yn fwy tebygol o gael eich contractio i ddarparu gwasanaethau dros gyfnod penodol o amser am ffi a bod yn berchen ar eich busnes eich hun. Byddwch hefyd yn talu eich treth a'ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol eich hun.
Nid oes gennych hawliau cyflogaeth mewn gwirionedd os ydych chi'n hunangyflogedig. Rydych yn fos arnoch chi'ch hun ac felly chi sy'n penderfynu, er enghraifft, faint i'w godi am eich gwaith a faint o wyliau i'w roi i chi'ch hun. Fodd bynnag, mae gennych rywfaint o warchodaeth dan y gyfraith.
Er enghraifft, chaiff neb wahaniaethu yn eich erbyn, ac mae gennych yr hawl i amgylchedd gweithio diogel ac iach o fewn libart eich cleient. Mae'n bosib y bydd gan fenywod hunangyflogedig sydd wedi gadael eu swyddi'n ddiweddar yr hawl i Lwfans Mamolaeth.
Mae'n bosib, mewn rhai achosion prin, bod yn hunangyflogedig at ddibenion treth ond mae'n bosib mai 'gweithiwr/wraig' neu 'gyflogai' yw eich statws at ddibenion hawliau cyflogaeth.
Gall hyn ddigwydd oherwydd mae'n bosib nad yw Tribiwnlysoedd Cyflogaeth (Tribiwnlysoedd Diwydiannol yng Ngogledd Iwerddon) neu lysoedd yn ystyried yr un ffeithiau wrth ystyried dibenion dosbarthu hawliau cyflogaeth o'i gymharu â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi, y Comisiynwyr (sy'n penderfynu ar faterion treth ac Yswiriant Gwladol) neu'r llysoedd wrth ystyried dibenion dosbarthu treth ac Yswiriant Gwladol.
I gael mwy o wybodaeth ynghylch ble i gael cymorth gyda materion cyflogaeth ewch i'r dudalen 'cysylltiadau cyflogaeth' neu 'cyflwyniad i undebau llafur'.