Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Newidiadau i amodau cyflogaeth: cyflwyniad  

Weithiau, bydd angen newid telerau ac amodau contract cyflogaeth. Yma, cewch wybod pam y gellid newid eich contract, beth yw eich hawliau a sut mae osgoi neu ddatrys problemau wrth wneud y newidiadau hyn.

Y contract cyflogaeth

Cytundeb rhyngoch chi a'ch cyflogwyr yw contract cyflogaeth, sy'n amlinellu hawliau a dyletswyddau'r ddwy ochr. Os nad ydych chi wedi gwneud hynny eisoes, fe allai fod yn ddefnyddiol i chi ddarllen am gontractau cyflogaeth.

Pam newid contract cyflogaeth?

Fe allai fod gennych chi neu'ch cyflogwr resymau dros ddymuno newid eich contract cyflogaeth. Fel arfer, dylid newid pethau ar ôl negodi a chytuno.

Cyflogwyr

Weithiau, bydd cyflogwyr eisiau newid pethau oherwydd amgylchiadau economaidd. Mae'n bosib bod angen ad-drefnu'r busnes, ei symud i leoliad newydd, neu fe all fod angen newid pethau oherwydd bod y gyfraith wedi newid neu fod rheoliadau newydd ar waith. Dyma rai o'r pethau a all newid:

  • cyfraddau cyflog
  • amser gweithio (er enghraifft, oriau hwy neu fyrrach, gwahanol ddiwrnodau)
  • eich dyletswyddau a'ch cyfrifoldebau
  • dyletswyddau a chyfrifoldebau'r bos sy'n uniongyrchol gyfrifol amdanoch
  • eich lleoliad gweithio

Mae'n bosib y bydd eich cyflogwr angen gwneud newid neu gywiro camgymeriad wrth lunio'r contract. Gan ddibynnu ar y sefyllfa, gallai gadael i'r camgymeriad gael ei gywiro fod er eich budd gorau chi.

Mewn rhai amgylchiadau, fe ellir awdurdodi darostyngiad mewn swydd neu docio cyflog fel cam disgyblu. Edrychwch ar y drefn ddisgyblu i weld beth yw'r sefyllfa.

Cyflogeion

Mae'n bosib y bydd cyflogai hefyd am newid telerau contract. Efallai eich bod yn dymuno cael:

  • gwell cyflog (does gennych ddim hawl awtomatig i gael codiad cyflog, oni bai fod hynny yn eich contract)
  • gwell amodau gwaith
  • mwy o wyliau
  • gwahanol oriau gweithio
  • gweithio oriau hyblyg
  • gweithio'n rhan-amser

Oes rhaid i'r newidiadau fod yn rhai ysgrifenedig?

Nid oes rhaid i newidiadau y cytunir arnynt wastad fod ar ffurf ysgrifenedig, ond os yw'r rhain yn newid y telerau a esbonnir yn eich 'datganiad manylion cyflogaeth ysgrifenedig' rhaid i'ch cyflogwyr roi datganiad ysgrifenedig i chi'n nodi beth sydd wedi newid o fewn mis i gyflwyno'r newid hwnnw.

Cymalau hyblygrwydd

Gall eich contract gynnwys cymalau 'hyblygrwydd', sy'n rhoi'r hawl i'ch cyflogwr newid rhai amodau (er enghraifft, patrymau shifftiau) neu 'gymal symudedd', sy'n caniatáu newidiadau i leoliad eich swydd.

Ni cheir defnyddio cymal hyblyg sydd wedi ei eirio'n amwys (er enghraifft, 'mae'r cyflogwyr yn mynnu'r hawl i newid eich telerau o bryd i'w gilydd') i gyflwyno newidiadau hollol hurt. Y rheswm am hyn yw oherwydd bod 'amod ddealledig o gydymddiried a chyd-hyder' ym mhob contract, sy'n mynnu nad yw'r cyflogwyr yn gweithredu'n gwbl afresymol.

Beth i'w wneud os ydych yn dymuno newid eich contract

Os ydych chi am newid rhywbeth, mynnwch sgwrs gyda'ch cyflogwyr gan esbonio pam. Chewch chi ddim mynnu newid oni bai fod hawl statudol i wneud hynny (er enghraifft, eithrio rhag gweithio ar y Sul neu'r wythnos 48-awr). Efallai y gallech ofyn am gael newid eich oriau o dan hawliau gwaith hyblyg.

Lle i gael cymorth

Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 47 47 47 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gall y Gwasanaeth Cyngor Ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Cael cyngor cyfreithiol gan dwrnai neu asiantaeth gynghori ynghylch amodau eich contract.

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU