Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 23 Mai 2012

Telerau contract cyflogaeth

Mae telerau contract cyflogaeth yn nodi beth y gallwch chi a'ch cyflogwr ei ddisgwyl gan y naill a'r llall. Ceir llawer o fathau gwahanol ac nid oes angen ysgrifennu rhai ohonynt yn eich contract cyflogaeth.

O ble daw telerau contractau?

Gall telerau contract ddeillio o nifer o wahanol ffynonellau; er enghraifft, fe allent fod:

  • wedi'u cytuno ar lafar
  • mewn contract ysgrifenedig, neu ddogfen debyg
  • mewn llawlyfr i gyflogeion neu ar hysbysfwrdd y cwmni
  • mewn llythyr cynnig swydd gan eich cyflogwyr
  • yn rhywbeth sy'n ofynnol dan y gyfraith, er enghraifft, rhaid i'ch cyflogwyr dalu o leiaf yr isafswm cyflog i chi
  • mewn cytundebau ar y cyd (gweler isod)
  • yn delerau dealledig (gweler isod)

Os oes unrhyw beth yn eich contract nad ydych chi'n sicr ohono, neu sy'n ddryslyd, gofynnwch i'ch cyflogwr ei esbonio.

Dylid ei gwneud yn glir beth sy'n rhan gyfreithiol gyfrwymol o'ch contract a beth nad yw. Gelwir rhannau cyfreithiol contract yn 'delerau'.

Os byddwch chi neu'ch cyflogwyr yn torri un o delerau'r contract, bydd gan y llall yr hawl i siwio am dor-contract.

Cytundebau ar y cyd

Weithiau, bydd cyflogwyr yn llunio cytundebau gydag undeb llafur neu gymdeithas staff. Gelwir y rhain yn 'gytundebau ar y cyd'. Dylai eich contract ei gwneud hi'n glir pa gytundebau sy'n berthnasol i chi a phwy gaiff negodi ar eich rhan. Gall y cytundebau hyn fod yn berthnasol i chi, hyd yn oed os nad ydych chi'n aelod o'r undeb llafur neu'r gymdeithas staff.

Telerau dealledig mewn contract

Nid yw telerau dealledig wedi'u nodi'n unrhyw le, ond deellir eu bod yn bodoli. Os nad oes dim byd wedi'i gytuno'n glir rhyngoch chi a'ch cyflogwyr am fater penodol, yna mae'n bosib bod amod dealledig yn darparu ar ei gyfer. Bydd telerau dealledig yn rhan o gontract am sawl rheswm.

Telerau y mae'n rhaid eu cael er mwyn gwneud i'r contract weithio

Gall telerau hefyd fod yn ddealledig am fod rhaid eu cael er mwyn i'r contract weithio. Y pwysicaf o'r rhain yw'r 'ddyletswydd o gyd-ymddiriedaeth a chyd-hyder'. Ystyr hyn yw eich bod chi a'ch cyflogwyr yn dibynnu ar eich gilydd i fod yn onest a dangos parch at eich gilydd. Er enghraifft, bydd eich cyflogwyr yn ymddiried ynoch chi i beidio â dinistrio eiddo'r cwmni, a byddwch chithau'n ymddiried yn eich cyflogwyr i beidio â'ch bwlio chi.

Telerau sy'n amlwg neu y tybir eu bod yn bodoli

Bydd rhai telerau'n cael eu hepgor naill ai am eu bod mor amlwg fel na theimlir bod angen eu hysgrifennu ar bapur, neu oherwydd y tybir bod y telerau hynny'n bodoli beth bynnag.

Enghraifft o hyn fyddai lle bo contract yn darparu ar gyfer tâl salwch heb ddweud am faint o gyfnod y telir y tâl hwnnw. Tybir nad oes bwriad i'w dalu am byth.

Telerau sy'n ddealledig oherwydd arfer a defod

Mae'r rhain yn berthnasol i gyflogwyr penodol neu i fath o waith penodol. Trefniadau nad oes neb erioed wedi cytuno arnynt yn glir yw'r rhain ond sydd dros amser wedi dod yn rhan o'r contract.

Er enghraifft, mae'n bosib y cewch fonws Nadolig, neu fod y busnes yn cau'n gynnar ar ddiwrnodau penodol.

Os yw arferion cwmni wedi dod yn rhan o'ch contract yna bydd yn rhaid i'ch cyflogwyr gadw atynt, ac ni ellir ei newid heb eich caniatâd chi fel arfer.

Gall fod yn anodd iawn penderfynu a yw arfer penodol wedi dod yn rhan o gontract ai peidio. Does dim terfyn amser penodol ar gyfer derbyn bod rhywbeth yn sicr yn rhan o'r contract.

Ymhlith pethau eraill, mae'n dibynnu ar:

  • pa mor ddifrifol yr ymdriniwyd â'r peth (ydy'r cyflogwyr wedi gweithredu fel petai ganddynt ddewis?)
  • pa mor glir yw'r peth (ydy'r cyflogwyr wedi trin y mater yn wahanol bob tro?)
  • ers faint mae hyn wedi bod yn digwydd

A all eich cyflogwyr newid telerau eich contract?

Yn gyffredinol, rhaid i chi a'ch cyflogwyr gytuno er mwyn newid contract.

Os bydd cwmni arall yn prynu'r cwmni rydych chi'n gweithio iddo, neu os bydd yn symud i leoliad newydd, dylai eich telerau a'ch amodau presennol barhau mewn grym. Fodd bynnag, dylai'r perchnogion newydd roi contract diwygiedig yn eu henw nhw.

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Allweddumynediad llywodraeth y DU