Bydd un o bob pump yn dioddef o straen yn y gweithle, gyda dros hanner miliwn yn dweud iddynt fynd yn sâl o ganlyniad i hyn. Mae'r erthygl hon yn edrych ar y pethau sy'n achosi straen a sut i'w wella ac mae hefyd yn esbonio'ch hawliau.
Os oes gennych swydd sy'n eich herio, dylech ddisgwyl teimlo rhywfaint o bwysau yn y gwaith. Fodd bynnag, os yw'r pwysau hwnnw'n ormodol a'ch bod yn adweithio er gwaeth o'i herwydd, yna, mae'r pwysau wedi troi'n straen.
Nid clefyd 'mo straen, ond fe all fod yn fygythiad i'ch iechyd a'ch diogelwch yn y gwaith. Yn ôl y gyfraith, rhaid i'ch cyflogwyr ofalu am eich iechyd a'ch diogelwch tra'ch bod yn y gwaith.
Rhai o'r pethau sy'n aml yn achosi straen cysylltiedig â'r gwaith yw cyfathrebu gwael, amgylchedd gweithio gwael a bod y sgiliau sydd gan rywun yn annigonol ar gyfer y swydd.
Mae straen hefyd yn gallu cael ei sbarduno gan ddigwyddiadau y tu allan i'r gwaith, megis profedigaeth, poeni am arian a salwch
Dylech hefyd gael sgwrs gyda'ch cyflogwyr os ydych chi'n dioddef o straen sydd heb fod yn gysylltiedig â'ch gwaith. Maen bosib y byddan nhw'n gallu cynnig cymorth i chi tra'ch bod yn datrys beth bynnag sydd yn peri straen i chi yn eich bywyd personol.
Dylech hefyd siarad â’ch cyflogwr os ydych yn dioddef o straen nad yw’n berthnasol i’r gweithle. Efallai byddant yn gallu cynnig cymorth wrth i chi drefnu beth bynnag sy’n achosi’r straen yn eich bywyd personol allan.
Mae bwlio yn y gweithle, boed hynny'n fwriadol ynteu'n ddamweiniol, yn gallu peri straen. Os yw'r bwlio hwnnw'n cael ei ystyried yn fwlio rhywiol (gan gynnwys ymwneud â'ch rhywioldeb), yn aflonyddu (harasio) ar sail crefydd neu hil, neu'n gysylltiedig ag anabledd, bydd gennych hawliau dan y ddeddfwriaeth gwahaniaethu ar sail rhyw, hil neu anabledd. Hefyd, os oes gennych anabledd sy'n ei gwneud hi'n anos i chi ddelio â straen, neu'n fwy tebygol o ddioddef o straen (ee iselder), mae gan eich cyflogwyr ddyletswydd i addasu pethau er mwyn ceisio'ch helpu.
Os all eich cyflogwr datrys neu nad yw’n barod i ddatrys achos eich straen, gallwch ddilyn y drefn gwyno sydd i’w weld yn eich contract cyflogaeth neu lawlyfr y cwmni. Os mae cynrychiolydd iechyd a diogelwch i’w gael yn eich gweithle, gallant eich hebrwng i’r cyfarfod yr ydych yn cael gyda’ch cyflogwr.
Os mae cyflogwr yn cynnig camau i’ch helpu chi (e.e eich cyfeirio i arbenigwr iechyd galwedigaethol), dylech dderbyn y cynnig, heblaw bod rheswm da ddim i wneud hyn.
Os na allwch chi ddatrys anghydfod drwy'r drefn gwyno ac na allwch wneud eich gwaith yn y ffordd y mae'ch cyflogwyr yn dymuno i chi ei wneud, mae'n bosib y bydd gennych achos diswyddiad annheg"oherwydd ymddygiad eich cyflogwyr" os byddwch chi'n dewis gadael eich swydd. Fodd bynnag, gall hyn fod yn anodd ei brofi, felly mae'n bwysig cael cyngor twrnai arbenigol neu rywun proffesiynol arall.
Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 474747 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy’n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy’n byw yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch gysylltu â’r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.