Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Mae gan bron bob gweithiwr yn y DU hawl gyfreithiol i'r isafswm cyflog. Gelwir hyn yn Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Os nad ydych yn cael y swm cyfreithiol gallwch ffonio Llinell Gymorth yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol am gymorth cyfrinachol.

Beth yw'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol?

Llinell gymorth yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol

0845 6000 678

Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener

9:00 am i 5:00 pm

 

Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yw'r isafswm y mae gan y rhan fwyaf o weithwyr yn y DU hawl iddo fesul awr. Mae'n berthnasol i bob gweithiwr dros oed gadael ysgol gorfodol, gyda rhai eithriadau. Bydd y gyfradd yn cael ei hadolygu bob blwyddyn. Bydd unrhyw newidiadau'n digwydd ym mis Hydref.

Rhaid i bob cyflogwr dalu'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol i bob gweithiwr cymwys - nid oes eithriadau ar gyfer cyflogwr o wahanol fath neu faint. Nid yw lle'r ydych yn gweithio yn y DU yn gwneud dim gwahaniaeth i lefel yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol y dylech ei gael.

Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol - y cyfraddau cyfredol

Mae gan yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol wahanol lefelau, sy'n dibynnu ar eich oed. Dyma'r cyfraddau o 1 Hydref 2008 ymlaen:

  • bydd oedolion (sef pobl 22 oed a hŷn) yn cael y gyfradd lawn, sef £5.73 yr awr
  • bydd gweithwyr rhwng 18 a 21 oed yn cael cyfradd o £4.77 yr awr (gelwir hyn yn aml yn gyfradd ddatblygu)
  • bydd pobl ifanc yn cael £3.53 yr awr (gelwir hyn yn aml yn gyfradd ieuenctid)

Mae gweithiwr ifanc yn rhywun sy'n hŷn na'r oed gadael ysgol ac yn iau na 18 oed. Rydych dan yr oed gadael ysgol tan ddiwedd tymor yr haf yn y flwyddyn ysgol pan fyddwch chi'n cael eich pen-blwydd yn 16 oed.

Ble mae cael cymorth

Gall llinell gymorth yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, sy'n cynnig cymorth a chyngor annibynnol ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, ymdrin â galwadau mewn dros 100 o ieithoedd. Os nad ydych yn cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol gallwch wneud cwyn wrth linell gymorth yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

I gael mwy o wybodaeth ynghylch lle i gael cymorth gyda materion yn ymwneud â chyflogaeth, ewch i'r dudalen 'Cysylltiadau cyflogaeth'. Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU