Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Peidio â thalu, didyniadau a phapur cyflog

Os ydych yn gyflogai, mae gennych yr hawl i wybod faint sydd i'w dalu iddyn nhw a pha mor aml. Os bydd eich cyflogwyr am dynnu arian o'ch cyflog, rhaid iddyn nhw ddilyn rheolau penodol.

Eich contract cyflogaeth

Cytundeb cyfreithiol sy'n rhwymo gweithwyr a chyflogwyr yw contract cyflogaeth. Does dim rhaid i'r contract fod yn ysgrifenedig, ond rhaid i'ch cyflogwyr roi datganiad ysgrifenedig o brif delerau eich cyflogaeth o fewn dau fis i chi ddechrau gweithio. Bydd y datganiad hwn yn cynnwys gwybodaeth am eich cyflog.

Beth y gellir ei ddidynnu o'ch cyflog?

Ni chaiff eich cyflogwyr dynnu arian o'ch cyflog oni bai:

  • bod eich contract yn dweud eu bod yn cael gwneud hynny - a bod eich cyflogwyr wedi rhoi copi ysgrifenedig i chi o'r rhan o'r contract sy'n dweud hynny, neu esboniad ysgrifenedig ynghylch hyn, cyn tynnu'r arian
  • fod hynny'n ofynnol neu wedi'i awdurdodi drwy'r gyfraith, megis treth incwm, yswiriant gwladol neu ad-daliadau benthyciad myfyrwyr.
  • eich bod wedi cytuno'n ysgrifenedig bod eich cyflogwyr yn cael tynnu arian o'ch cyflog cyn i rywbeth ddigwydd sy'n arwain at ddidyniad o'r fath

Os ydych chi wedi cael gormod o dâl o'r blaen, nid yw'r rheolau hyn yn berthnasol. Yn aml iawn, bydd eich cyflogwyr yn cael cymryd y gordaliad yn ôl. Dylech gael sgwrs gyda thwrnai, un o ymgynghorwyr Acas neu'r gwasanaeth Cyngor ar Bopeth i gael rhagor o wybodaeth am ble a pha bryd y gallech chi atal eich cyflogwyr rhag cymryd gordaliad yn ôl.

Sefyllfaoedd eraill lle na fydd y rheolau'n berthnasol yw os byddwch chi wedi cymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol neu os tynnir yr arian dan orchymyn llys. Beth bynnag y bo'r sefyllfa, rhaid i'ch cyflogwyr ddal i gydymffurfio â thelerau eich contract.

Os nad ydych wedi cael tâl o gwbl, mae hyn yn golygu bod yr holl gyflog sy'n ddyledus i chi wedi cael ei ddidynnu o'ch cyflog.

Mae'r hawl i gael eich gwarchod rhag didyniadau o'ch cyflog sydd heb eu hawdurdodi yn berthnasol i bawb sy'n cael eu diffinio'n weithwyr. Mae ystyr penodol i 'weithwyr' dan y gyfraith - os nad ydych chi'n sicr beth yw'ch statws cyflogaeth edrychwch i weld.

Gwaith manwerthu

Os ydych chi'n gweithio yn y maes manwerthu (yn gweithio mewn siop, er enghraifft) mae gennych warchodaeth ychwanegol. Nid oes gan eich cyflogwyr yr hawl i dynnu mwy na 10 y cant o'ch cyflog gros o'ch cyflog mynd-adre ar unrhyw ddiwrnod cyflog unigol er mwyn gwneud iawn am ddiffyg yn y cyfrif ariannol neu'r stoc. Os nad yw hyn yn ddigon, gall eich cyflogwyr barhau i dynnu arian o'ch cyflogau ar ddiwrnodau cyflog canlynol, ond nid mwy na 10 y cant ar unrhyw un diwrnod cyflog. Os byddwch chi'n gadael eich swydd, gall eich cyflogwyr dynnu'r swm llawn sy'n ddyledus.

Cewch gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth os nad yw eich cyflogwyr yn dilyn y rheolau hyn.

A ddylech chi gael papur cyflog?

Yn ôl y gyfraith, rhaid i'ch cyflogwyr roi 'datganiad cyflog' ysgrifenedig i chi - fel arfer fe'i gelwir yn 'bapur cyflog' - pan delir eich cyflog i chi neu cyn hynny. Rhaid i hwn gynnwys eich cyflog gros, eich cyflog mynd-adre ac unrhyw ddidyniadau.

Rhaid rhestru didyniadau sy'n newid (er enghraifft, taliadau Treth Incwm) fesul un bob tro. Gellir dangos didyniadau sefydlog (er enghraifft, tâl aelodaeth undeb llafur) fel un cyfanswm wedi'i gyfuno cyn belled â'ch bod wedi cael cyfriflen flynyddol yn dangos sut y dadansoddir y cyfanswm. Mae'n rhaid i'r datganiad blynyddol ddangos cyfanswm bob didyniad sefydlog a pha mor aml y telir y swm.

Mae'n bosib y bydd gwybodaeth ychwanegol ar eich slip cyflog, gan gynnwys eich Rhif Yswiriant Gwladol, codau treth a'r gyfradd awr. Hefyd, hwyrach y caiff taliadau megis rhai goramser, tipiau, bonws ayb eu dangos ar wahân. Fodd bynnag, nid oes rhaid i'r wybodaeth hon fod ar eich slip cyflog.

Os nad ydych chi wedi derbyn papur cyflog, yna, yn gyntaf, fe ddylech geisio dilyn y camau a nodir yn yr erthygl am ddatrys problemau yn y gwaith. Os nad yw hynny'n helpu, gallwch wneud cais i Dribiwnlys Cyflogaeth (Tribiwnlys Diwydiannol yng Ngogledd Iwerddon).

Pa bryd a sut y dylech gael eich talu

Pan fyddwch chi'n dechrau gweithio, dylai eich cyflogwyr ddweud wrthych:

  • ar ba ddiwrnod/dyddiad y cewch chi'ch talu - er enghraifft, bob dydd Gwener, neu ar ddiwrnod gwaith ola'r mis
  • y dull talu (arian parod, siec neu'n syth i'r banc)

Os ydych yn weithiwr, rhaid i chi gael dogfen sy'n nodi faint o gyflog a delir i chi, a pha mor aml, o fewn dau fis i chi ddechrau gweithio.

Beth i'w wneud os nad ydych chi wedi cael eich cyflog yn llawn

Os na fyddwch wedi derbyn eich cyflog yn llawn (neu unrhyw gyflog) dilynwch y camau canlynol:

  • Edrychwch ar eich slip cyflog i weld a yw'n dweud wrthych pam nad ydych wedi cael eich talu'n llawn
  • Edrychwch ar eich contract i weld a oes unrhyw beth yn rhoi'r caniatâd i'ch cyflogwyr dynnu arian o'ch cyflog
  • Mynnwch sgwrs gyda'ch cyflogwyr i weld os allwch ddatrys y broblem gyda nhw
  • Os oes gennych gynrychiolydd yn y gwaith (er enghraifft, swyddog Undeb Llafur) fe allwch ofyn iddyn nhw am help.

Os nad yw hynny'n gweithio, bydd gennych yr hawl i fynd at Dribiwnlys Diwydiannol i gael eich arian. Hefyd, fe allwch geisio adhawlio arian rydych chi wedi'i golli (gan gynnwys y colledion ychwanegol am nad ydych chi wedi derbyn yr arian mewn pryd, costau banc er enghraifft) drwy ddwyn achos tor-contract.

Gadael eich swydd

Os ydych chi wedi gadael eich swydd gan fod eich cyflogwyr yn gwrthod eich talu, mae'n bosib y gallwch chi ddwyn achos o ddiswyddiad oherwydd ymddygiad cyflogwr.

Os byddwch chi'n gadael swydd ac yn gweithio'r cyfnod o rybudd y cytunwyd arno, bydd dal gennych yr hawl i gael eich cyflog llawn. Mae hyn yn cynnwys unrhyw dâl ychwanegol, megis tâl gwyliau, sydd wedi'u cynnwys yn eich contract cyflogaeth.

Os ydych chi'n absennol o'r gwaith yn ystod y cyfnod rhybudd oherwydd cyfnod mamolaeth, tadolaeth, absenoldeb rhiant neu absenoldeb mabwysiadu, yn absennol oherwydd salwch neu ar wyliau, neu eich bod yn barod i weithio ond nad yw eich cyflogwyr yn darparu gwaith ar eich cyfer, mae'n bosib bod dal gennych yr hawl i lefel sylfaenol o gyflog.

Ble i gael cymorth

Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 47 47 47 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch gysylltu â'r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gall eich Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB) leol gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU