Mae faint o dâl y mae gennych yr hawl iddo pan fyddwch yn absennol o'r gwaith oherwydd salwch yn amrywio o'r naill swydd i'r llall, ac mae gwahanol gynlluniau tâl salwch ar gael - ond os cewch chi broblem, mae cyngor ar gael.
Os byddwch chi'n absennol o'r gwaith oherwydd salwch, bydd eich cyflog yn dibynnu ar delerau eich contract cyflogaeth. Fe all y telerau hyn fod yn ysgrifenedig, neu'n destun cytundeb llafar gyda'ch cyflogwyr, yn ddealledig oherwydd 'defod ac arfer' neu'n gymysgedd o'r tri.
Os yw'ch cyflogwyr yn rhedeg eu cynllun absenoldeb salwch eu hunain dylech gael eich talu am yr hyn sy'n ddyledus i chi yn dilyn hwnnw. Os nad oes gennych yr hawl i ddim byd dan gynllun cwmni, dylai eich cyflogwyr ddal i dalu'r Tâl Salwch Statudol i chi os ydych chi'n gymwys.
Mae'n bosib bod eich cyflogwyr yn cynnig cynllun tâl salwch sy'n fwy hael na'r lleiafswm sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith (Tâl Salwch Statudol). Caiff eich cyflogwyr gynnig unrhyw gynllun nad yw'n is na'r lleiafswm yn ôl y gyfraith.
Pan fyddwch yn dechrau gweithio, rhaid i'ch cyflogwyr roi 'datganiad manylion cyflogaeth ysgrifenedig' i chi o fewn dau fis i chi ddechrau gweithio yn nodi manylion eich cynllun tâl salwch. Os nad yw eich cwmni'n cynnig cynllun dan gontract, rhaid i'r datganiad ysgrifenedig nodi hynny.
Bydd cynllun tâl salwch nodweddiadol fel arfer yn dechrau ar ôl cyfnod sylfaenol o wasanaeth (er enghraifft, cyfnod prawf o dri mis). Yna, byddech yn derbyn eich cyflog arferol yn ystod unrhyw gyfnod pan fyddwch yn absennol o'r gwaith oherwydd salwch, hyd at nifer penodol o wythnosau. Ar ôl hyn, rydych yn debygol o gael hanner-cyflog am gyfnod pellach cyn bod unrhyw absenoldeb oherwydd salwch yn mynd yn absenoldeb heb dâl.
Caiff eich cyflogwyr nodi sut y dylech ddweud wrthynt eich bod yn sâl (e.e. ffonio cyn rhyw amser penodol). Fel arfer, byddwch yn gallu hunan-dystysgrifo wythnos o salwch; y tu hwnt i hynny, fel arfer bydd angen nodyn gan y meddyg.
Caiff eich cyflogwyr ddewis gwneud eithriad a thalu tâl salwch i chi hyd yn oed os nad ydych chi'n gymwys dan reolau'r cwmni. Hefyd, mae rhai cynlluniau tâl salwch yn dweud y caiff y 'cyflogwyr ddewis' talu'r taliadau ai peidio, sy'n golygu y gallant wrthod gwneud y taliad os ydyn nhw'n teimlo nad oes modd cyfiawnhau'r absenoldeb. Fodd bynnag, wrth wneud hynny, rhaid iddynt sicrhau nad ydynt yn gwahaniaethu o gwbl wrth benderfynu (sef nad ydynt yn ffafrio un categori o weithwyr yn fwy nag un arall pan fo gofyn iddynt beidio â gwneud hynny).
Os nad oes gennych gynllun cwmni, cewch dâl salwch statudol gan eich cyflogwyr (os byddwch yn gymwys). Y gyfradd ar hyn o bryd ydy £72.55 yr wythnos. Nid yw'r Tâl Salwch Statudol yn dechrau tan y pedwerydd diwrnod y byddwch chi'n absennol oherwydd salwch, felly mae'n bosib na chewch eich talu am y tri diwrnod cyntaf.
Os yw eich cyflogwyr yn gyfrifol am eich analluogrwydd, mae gennych hawl yn ôl y gyfraith i ddwyn achos am anaf personol. Mae hyn yn berthnasol i anaf corfforol sydd wedi digwydd yn y gwaith neu anaf seicolegol, megis straen. Mynnwch sgwrs â thwrnai neu gynrychiolydd Undeb Llafur os ydych chi'n ystyried hyn.
Cewch amser o'r gwaith i ofalu am rywun sy'n sâl ac yn dibynnu arnoch Fodd bynnag, nid oes rhaid i'ch cyflogwyr dalu i chi am yr amser hwn oni bai bod eich contract yn dweud bod rhaid iddyn nhw.
Os ydych chi'n absennol o'r gwaith oherwydd salwch, fe allwch fel arfer hel pedair wythnos o amser gwyliau statudol gyda thâl, fel unrhyw gyflogai arall. Os byddwch chi'n absennol o'r gwaith am dros flwyddyn, mae'n debyg y byddwch chi'n colli'r hawl hon.
Os ydych chi'n ansicr ynghylch unrhyw beth sy'n berthnasol i dâl salwch, mynnwch sgwrs â'ch cyflogwyr gyntaf.
Os oes problem gyda chael eich tâl salwch:
Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.