Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dileu swydd: Cyflwyniad

Os yw'ch swydd i'w dileu, dylech gael eich trin yn deg gan eich cyflogwr ac mae rhai camau y byddai disgwyl iddynt eu dilyn. Fe allech chi hefyd fod â'r hawl i gael tâl dileu swydd.

Beth yw dileu swydd?

Os bydd swydd person arall yn diflannu a'r person hwnnw'n cael ei symud i wneud eich swydd chi, mae hyn hefyd yn ddileu swydd yn eich achos chi. 'Bympio' yw'r gair am hyn, ond efallai y bydd yn anodd i'ch cyflogwr gyfiawnhau hyn o safbwynt tegwch.

Math ar ddiswyddo yw dileu swydd. Dyma rai rhesymau:

  • mae technoleg newydd neu system newydd yn golygu nad oes angen bellach am eich swydd chi
  • nid yw'r gwaith y cawsoch eich cyflogi i'w wneud yn bodoli rhagor
  • mae'r angen i ostwng costau yn golygu bod rhaid lleihau niferoedd staff
  • mae'r busnes yn cau neu'n symud

Y drefn

Mewn sefyllfa o ddileu swydd, dylai'r canlynol ddigwydd:

  • Dylai'r cyflogwr fod yn deg wrth ddewis pobl ar gyfer dileu eu swydd
  • Dylai ymgynghori â chi ynghylch dileu eich swydd
  • Dylech dderbyn unrhyw dâl dileu swydd sy'n ddyledus i chi, a derbyn y maint iawn o rybudd
  • Dylai eich cyflogwr ystyried unrhyw opsiynau eraill ar wahân i ddileu swydd

Os yw swyddi llai nag 20 o weithwyr yn cael eu dileu, dylid dilyn y drefn ddiswyddo sylfaenol statudol. Os oes mwy nag 20, y drefn ymgynghori ar y cyd sy'n berthnasol.

Ble i gael cymorth

Os oes gennych amheuon ynghylch y ffordd y mae'ch cyflogwr wedi cyfrifo'ch tâl dileu swydd statudol, gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Taliadau Dileu Swydd ar 0845 1450 004

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU