Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Ymddiswyddo o swydd

Gallwch wastad ddewis gadael eich swydd drwy ymddiswyddo. Mae'r erthygl hon yn esbonio beth i'w wneud pan fyddwch yn ymddiswyddo, y pethau y dylech feddwl amdanynt cyn ymddiswyddo, eich hawliau a'ch dyletswyddau i'ch cyflogwr.

Beth yw ymddiswyddo?

Mae cyflwyno'ch ymddiswyddiad, naill ai ar lafar neu'n ysgrifenedig, yn ddatganiad clir gennych chi eich bod yn gadael eich swydd. Nid yw bygwth gadael, neu ddweud eich bod yn chwilio am swydd arall, yr un fath ag ymddiswyddo'n ffurfiol, ond gallai dweud "Rydw i'n rhoi'r gorau iddi!" yng nghanol dadl gyda'ch cyflogwr gael ei ystyried yn ymddiswyddiad go iawn, felly byddwch yn ofalus beth yr ydych yn ei ddweud. Os byddwch yn ymddiswyddo yng ngwres y funud, ond heb feddwl gwneud hynny, dywedwch yn syth wrth eich cyflogwr.

Cyn cyflwyno'ch ymddiswyddiad, meddyliwch yn ofalus pam eich bod yn gwneud hynny ac a yw'n beth iawn i'w wneud. Os ydych yn gadael oherwydd problemau yn y gwaith neu anghytundeb gyda'ch pennaeth, a fyddai modd datrys y problemau hyn trwy drefn gwyno arferol eich cwmni? Meddyliwch sut y byddwch yn ymdopi heb eich cyflog, a pha mor rhwydd fydd dod o hyd i swydd arall.

Sut i ymddiswyddo o'ch swydd

Dylech ddweud yn bendant wrth eich cyflogwr eich bod yn ymddiswyddo'n ffurfiol. Gallwch ymddiswyddo ar lafar, onid yw'ch contract cyflogaeth yn dweud fel arall. Ond mae wastad yn syniad da ei roi ar bapur, gan ddweud faint o rybudd yr ydych yn ei roi a phryd fydd eich diwrnod olaf. Os ydych am esbonio eich rhesymau dros ymddiswyddo, bydd rhoi hynny ar bapur yn ei gwneud yn haws ichi gael trefn ar eich meddyliau.

Rhowch y cyfnod rhybudd cywir i'ch cyflogwr. Yn ôl y gyfraith, rhaid i chi roi wythnos o rybudd os ydych wedi gweithio i'ch cyflogwr am fis neu fwy. Efallai y bydd eich contract yn mynnu mwy na hynny.

Cofiwch:

  • na allwch dynnu'ch ymddiswyddiad yn ôl, onid yw'ch contract yn gadael i chi wneud hynny, neu os bydd eich cyflogwr yn cytuno i hynny
  • cewch eich tâl terfynol ar eich diwrnod talu arferol onid yw'ch contract yn dweud yn wahanol - does dim hawl gennych i ofyn amdano'n gynharach
  • gyhyd â'ch bod wedi rhoi rhybudd yn unol â thelerau'ch contract, rhaid i'ch cyflogwr dderbyn eich ymddiswyddiad

Beth os gorfodir chi i ymddiswyddo yn erbyn eich ewyllys?

Os teimlwch eich bod yn gorfod ymddiswyddo (e.e. oherwydd amodau gweithio peryglus neu ymddygiad eich pennaeth), efallai y gallwch ddwyn achos o ddiswyddiad oherwydd ymddygiad cyflogwr (constructive dismissal).

Os ydych yn ystyried hyn, dylech godi'r problem fel cwyn cyn ichi ymddiswyddo. Oni wnewch hynny, gall Tribiwnlys Cyflogaeth wrthod clywed eich cais am ddiswyddiad oherwydd ymddygiad cyflogwr neu ostwng faint o iawndal y byddwch yn ei dderbyn.

Ond byddwch yn ofalus, oherwydd nid yw diswyddiad oherwydd ymddygiad cyflogwr bob amser yn hawdd ei brofi.

Eich budd-daliadau os byddwch yn ymddiswyddo

Gall eich Canolfan Byd Gwaith beidio â thalu eich Lwfans Ceisio Gwaith am hyd at 26 wythnos os ydych wedi rhoi'r gorau i'ch swydd yn wirfoddol heb reswm da. Os ydych yn cael eich gorfodi i ymddiswyddo oherwydd ymddygiad eich cyflogwr, sicrhewch eu bod yn gwybod hynny. Oni allwch hawlio Lwfans Ceisio Gwaith, efallai y gallwch hawlio taliad caledi, sef cyfran lai o'r Lwfans Ceisio Gwaith.

Cynlluniau pensiwn

Os oes gennych chi gynllun pensiwn personol, gallwch fynd ag ef gyda chi pan fyddwch yn newid swyddi. Os oeddech yn talu i mewn i gynllun cwmni, dylech allu cael datganiad o werth cyfredol eich cronfa bensiwn. Efallai y gallwch drosglwyddo hwn i gynllun arall, neu i gynllun pensiwn personol.

Cael eich talu am wyliau nad ydych wedi'u cymryd

Pan fyddwch yn gadael eich swydd, dylech gael eich talu am unrhyw lwfans gwyliau cyfreithiol (h.y. 4.8 wythnos) nad ydych wedi'i ddefnyddio, er y gall eich contract ddweud y byddwch yn colli unrhyw wyliau i gontract (h.y. rhywbeth dros bedair wythnos) nad ydych wedi'u cymryd. Os ydych wedi cymryd mwy o wyliau nag yr ydych wedi'u hennill, all eich cyflogwr fel arfer ddim tynnu'r arian o'ch cyflog terfynol, onid yw hynny wedi'i gytuno arno o flaen llaw.

Cael eich P45

Pan fyddwch yn stopio gweithio i gyflogwr, byddwch fel arfer yn cael ffurflen P45 ganddynt. Dyma gofnod o'ch tâl a'r dreth sydd wedi'i dynnu ohono yn ystod y flwyddyn dreth. Byddwch angen ffurflen P45 i'w rhoi i'ch cyflogwr newydd.

Beth i'w wneud nesaf

Os ydych yn ystyried gadael, meddyliwch pam eich bod yn gwneud hynny - a oes modd datrys y problemau hynny? Os teimlwch eich bod yn cael eich gorfodi i adael eich swydd, darllenwch yr erthygl ar ddiswyddiad oherwydd ymddygiad cyflogwr.

Edrychwch yn eich contract neu yn llawlyfr y cwmni i ganfod faint o rybudd y mae'n rhaid i chi ei roi ac a oes angen iddo fod yn ysgrifenedig.

Ble i gael cymorth

Mae'r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 474747 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy’n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy’n byw yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch gysylltu â’r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU