Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwybodaeth ac ymgynghori â gweithwyr

Mae'n arfer da i'ch cyflogwr roi gwybod i chi am yr hyn sy'n digwydd yn y busnes ac am unrhyw newidiadau sydd yn yr arfaeth ar gyfer y dyfodol. Mewn rhai achosion, mae gan eich cyflogwr ddyletswydd gyfreithiol i ymgynghori â chi.

Beth yw hysbysu ac ymgynghori?

Os oes trefniadau i ddarparu gwybodaeth ac ymgynghori ar gael, mae'n golygu bod cyfathrebu cyson yn digwydd rhwng y cyflogwr a'r gweithwyr. Dylai hyn gynnwys unrhyw ddatblygiadau pwysig a allai effeithio ar y bobl sy'n gweithio i'r sefydliad. Dylai cyflogwyr ddweud wrth eu staff beth sydd ar y gweill ('hysbysu') a dylent hefyd wrando ac ystyried barn eu gweithwyr wrth benderfynu ar beth i'w wneud ('ymgynghori').

Hawliau newydd

Cyflwynwyd hawliau newydd i weithwyr ym mis Ebrill 2005 sef yr hawl i gael gwybodaeth am faterion pwysig yn ymwneud â'r gwaith a'r rheidrwydd ar gyflogwyr i ymgynghori â hwy am y materion hynny. Mae'r rhain yn berthnasol i sefydliadau gyda 100 neu fwy o weithwyr, a byddant yn berthnasol i sefydliadau gyda 50 neu fwy o weithwyr ym mis Ebrill 2008.

Nid yw'r hawliau'n awtomatig. Onid yw cyflogwyr yn penderfynu cyflwyno'r trefniadau newydd yn wirfoddol, bydd yn rhaid i gyflogeion ofyn amdanynt. Rhaid i o leiaf 10 y cant o gyflogeion ofyn, gyhyd ag y bydd o leiaf 15 o gyflogeion a dim mwy na 2,500 o gyflogeion. Gall eich cyflogwr gyfrif cyflogeion rhan-amser yn gyflogeion amser llawn wrth gyfrifo hyn ond does dim rhaid iddynt. Os nad ydych yn sicr pwy sy'n cyfrif fel 'cyflogai' dilynwch y ddolen isod

Rhaid i'r cais fod yn ysgrifenedig, yn nodi eich enw a'r dyddiad y cafodd ei anfon. Mae'n syniad da ei lofnodi hefyd. Os ydych am aros yn ddi-enw, gallwch anfon eich cais at y Pwyllgor Cyflafareddu Canolog (Llys Cyflogaeth yng Ngogledd Iwerddon) yn hytrach nag at eich cyflogwr.

Beth sy'n digwydd os oes gennych drefniadau hysbysu ac ymgynghori'n barod?

Efallai bod gan eich gwaith drefniadau eisoes y mae'r gweithwyr yn fodlon â hwy. Yn yr achos hwn, does dim angen gwneud newid.

Os bydd 40 y cant o weithwyr yn gofyn (yn ysgrifenedig) am drefniadau newydd, rhaid eu sefydlu. Os bydd 10 y cant yn gofyn, efallai y bydd eich cyflogwr yn cynnal pleidlais gyfrinachol ar gyfer y staff. Os oes llai na 40 y cant yn pleidleisio o blaid y trefniadau newydd, mae'n debyg y bydd y trefniadau presennol yn parhau.

Cytuno ar drefniadau newydd

Os bydd gweithwyr yn gwneud cais dilys am drefniadau hysbysu ac ymgynghori newydd, rhaid i'ch cyflogwr gyfarfod gyda'r gweithwyr (neu eu cynrychiolwyr) i geisio dod i gytundeb ynghylch beth yr ymgynghorir yn ei gylch gyda'r gweithwyr a phryd a sut y gwneir hynny.

Oni ellir dod i gytundeb ar ôl cyfnod penodol o amser, bydd angen troi at ddarpariaethau safonol.

Darpariaethau safonol

Mae'r darpariaethau safonol hyn yn nodi bod yn rhaid i gyflogwyr ymgynghori â staff ynghylch y canlynol:

  • sefyllfa economaidd ddiweddar y sefydliad a'r sefyllfa debygol yn y dyfodol
  • y sefyllfa gyflogaeth gyfredol ac yn y dyfodol ac unrhyw fygythiadau i swyddi
  • penderfyniadau sy'n debygol o arwain at newidiadau i'r sefydliad ac i gontractau'r gweithwyr (e.e. ad-drefnu, newidiadau i arferion gweithio a newidiadau mewn cyflogau)

Arfer da

Oherwydd bod pob sefydliad yn wahanol, mae'r hawliau newydd yn darparu hyblygrwydd o ran y ffordd y gall cyflogwyr hysbysu ac ymgynghori. Fodd bynnag, dylai eich cyflogwr geisio bod mor agored â phosibl drwy'r amser - onid yw'r wybodaeth yn fasnachol sensitif.

Gall eich cyflogwr gyfathrebu â chi mewn sawl ffordd. Bydd y ffordd a ddewisant yn dibynnu ar y canlynol:

  • beth sydd ganddynt i'w ddweud wrthych
  • maint a strwythur y sefydliad
  • eich arferion gwaith arferol, ac arferion gwaith arferol eich cydweithwyr

Er enghraifft, gellid trosglwyddo gwybodaeth am sefyllfa economaidd y cwmni mewn cyfarfodydd bach gyda rheolwyr adrannol, neu gellid anfon holiadur i staff i ganfod beth yw barn gweithwyr am gamau sy'n cael eu hawgrymu.

Dyma ddulliau eraill y gellid eu defnyddio i gyfathrebu:

  • bwletinau ar y fewnrwyd
  • e-bost
  • cyfarfodydd briffio i'r timau
  • cylchlythyrau misol
  • fideo-gynadledda

Mewn sefydliadau mwy, gallai fod yn ddefnyddiol sefydlu cydbwyllgor ymgynghorol (neu gyngor staff). Mae hyn yn helpu i feithrin ymddiriedaeth rhwng y cyflogwr a chynrychiolwyr y staff a gall cyfarfodydd rheolaidd helpu i wneud awgrymiadau yn fwy defnyddiol a pherthnasol.

Sefyllfaoedd eraill lle mae'n rhaid i'ch cyflogwr ymgynghori

Pan fo'n ystyried dileu swyddi

Dylai eich cyflogwr ymgynghori â chi cyn dileu eich swydd. Os bwriedir dileu mwy nag 20 o swyddi, rhaid i'r cyflogwr ymgynghori â chynrychiolwyr y staff yr effeithir arnynt hefyd. Rhaid iddo nodi pryd y bydd y swyddi'n cael eu dileu ac esbonio pam fod hynny'n digwydd. Rhaid gwneud hynny'n ddigon buan er mwyn gallu cyflwyno cynlluniau gwahanol (e.e. adleoli neu ailhyfforddi). Rhaid i'ch cyflogwr ystyried o ddifrif unrhyw ddulliau eraill cyn dod i benderfyniad.

Pan drosglwyddir busnes

Rhaid i'ch cyflogwr hefyd ymgynghori â chi neu eich cynrychiolwyr os yw'r busnes yn mynd i newid dwylo. Rhaid iddynt ddweud:

  • pryd mae'n debygol o ddigwydd a pham
  • os yw'r perchennog newydd yn bwriadu gweithredu mewn ffordd a fydd yn effeithio ar y gweithwyr a beth fydd y gweithredu hwnnw

Pan gynigir newidiadau i bensiynau

O 6 Ebrill 2007, dylai cyflogwyr sydd ag o leiaf 100 o weithwyr ymgynghori pan fyddant yn cynnig gwneud newid sylweddol i gynllun pensiwn yn seiliedig ar waith. Bydd hyn yn berthnasol i gyflogwyr gyda 50 neu fwy o gyflogai yn Ebrill 2008. Rhaid i'r holl staff yr effeithir arnynt gael:

  • manylion ysgrifenedig am y newid a gynigir, a fydd yn rhaid ei roi cyn cychwyn yr ymgynghoriad
  • gwybodaeth gefndir berthnasol
  • yr amserlen pryd y bwriedir cyflwyno'r newid

Gallai eich cyflogwyr hefyd gysylltu â chynrychiolydd y gweithwyr. Gallai hwn fod yn gynrychiolydd eich undeb llafur neu gynrychiolydd gwybodaeth ac ymgynghori neu rywun a benodwyd yn benodol ar gyfer y pwrpas hwn. Mae'n rhaid i'ch cyflogwyr ganiatáu o leiaf 60 diwrnod am ymgynghoriad.

Peidio ag ymgynghori

Os nad yw eich cyflogwr wedi ymgynghori â staff pan ddylai fod wedi gwneud hynny, bydd y camau y gall y gweithwyr eu cymryd yn dibynnu ar yr amgylchiadau.

Rheoliadau Hysbysu ac Ymgynghori â Gweithwyr

Os na fydd eich cyflogwr yn ymgynghori'n briodol â'r gweithwyr dan y Rheoliadau Hysbysu ac Ymgynghori â Gweithwyr, gall eich cynrychiolydd (neu chi) gwyno wrth y Pwyllgor Cyflafareddu Canolog (neu Llys Cyflogaeth). Os bydd y Pwyllgor yn cytuno â'ch cwyn, caiff eich cynrychiolwyr (neu chi) wneud cais i'r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth, a all roi gorchymyn i'ch cyflogwr dalu cosb o hyd at £75,000

Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau a Dileu Swyddi

Pan na cheir ymgynghori ar y cyd gyda gweithwyr mewn sefyllfa o ddileu swyddi neu drosglwyddo busnes, gall y gweithwyr y mae hynny'n effeithio arnynt (neu eu cynrychiolwyr) wneud cais i Dribiwnlys Cyflogaeth am iawndal a elwir yn 'ddyfarniad gwarchodol'. Nid yw hyn yn berthnasol os mai heb ymgynghori â chi'n unigol y mae'r cyflogwr.

Os nad yw eich cyflogwr wedi ymgynghori â chi'n unigol cyn dileu eich swydd, gall hyn olygu bod dileu eich swydd gyfystyr â diswyddo annheg.

Newidiadau i bensiynau

Pan nad yw'n bosib ymgynghori gyda'r gweithwyr a effeithwyd arnynt ynghylch y newidiadau i bensiynau perthnasol, gallwch chi neu'ch cyflogai gwyno wrth y Rheolydd Pensiynau.

Lle i gael cymorth

Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am faterion sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 474 747 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch gysylltu â'r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gall y Gwasanaeth Cyngor Ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU