Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 23 Mai 2012

Cyfraddau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yw'r isafswm y mae gan y rhan fwyaf o weithwyr yn y DU yr hawl iddo fesul awr. Cael gwybod beth yw’r cyfraddau cyfredol a ble i gael cymorth os ydych yn credu eich bod yn cael eich talu’n is na’r gyfradd isafswm cyflog.

Yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol – y cyfraddau cyfredol

Mae gwahanol lefelau’n perthyn i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, gan ddibynnu ar eich oedran ac ai prentis ydych chi. Dyma’r cyfraddau cyfredol (o 1 Hydref 2011):

  • £6.08 – y brif gyfradd ar gyfer gweithwyr 21 oed a hŷn
  • £4.98 – y gyfradd ar gyfer gweithwyr 18-20 oed
  • £3.68 – y gyfradd ar gyfer gweithwyr 16-17 oed sydd dros oedran gadael ysgol ond dan 18 oed
  • £2.60 – y gyfradd i brentisiaid, ar gyfer prentisiaid sydd dan 19 oed neu’n 19 oed a hŷn ac ym mlwyddyn gyntaf eu prentisiaeth

Os ydych chi mewn oedran ysgol gorfodol nid oes gennych hawl i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Mae rhai o’ch hawliau cyflogaeth yn wahanol hefyd.

Gellir gweld cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer blynyddoedd a fu ar wefan y Comisiwn Cyflogau Isel.

Cyfraddau o 1 Hydref 2012 ymlaen

  • £6.19 - y brif gyfradd ar gyfer gweithwyr 21 oed a hŷn
  • £4.98 - y gyfradd ar gyfer gweithwyr 18-20 oed
  • £3.68 - y gyfradd ar gyfer gweithwyr 16-17 oed sydd dros oedran gadael ysgol ond dan 18 oed
  • £2.65 – y gyfradd i brentisiaid, ar gyfer prentisiaid sydd dan 19 oed neu’n 19 oed a hŷn ac ym mlwyddyn gyntaf eu prentisiaeth

Eich hawl i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Llinell Gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio

I gael cymorth a chyngor cyfrinachol ynghylch yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, ffoniwch 0800 917 2368

Mae gan y rhan fwyaf o weithwyr yn y DU sydd dros oedran gadael ysgol hawl gyfreithiol i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol o leiaf, ac mae’n rhaid i bob cyflogwr ei dalu i chi os oes gennych hawl iddo. Nid yw’n gwneud gwahaniaeth:

  • p’un ai a ydych yn cael eich talu'n wythnosol neu'n fisol, gyda siec, gydag arian parod neu mewn unrhyw ffordd arall
  • p’un ai a ydych yn gweithio'n llawn amser, yn rhan-amser neu’n dilyn unrhyw batrwm gweithio arall
  • p’un ai a ydych yn gweithio yn eiddo eich cyflogwr neu yn rhywle arall
  • beth yw maint eich cyflogwr
  • ble rydych chi'n gweithio yn y DU

Mae gennych chi hawl i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol hyd yn oed os byddwch chi’n llofnodi contract yn cytuno i gael cyfradd is. Mae hyn yn wir os ydych chi’n llofnodi o’ch gwirfodd neu am fod eich cyflogwr yn eich perswadio neu’n gwneud i chi lofnodi. Ni fydd y contract yn cael dim effaith gyfreithiol ac mae dal yn rhaid i chi gael y gyfradd briodol.

Os nad ydych yn siŵr a ddylech chi gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, darllenwch ‘Gweithwyr sydd â hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol’ a ‘Pwy sydd wedi'u heithrio rhag cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol’.

Ble i gael cymorth

Mae’r Llinell Gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio yn rhoi cymorth a chyngor cyfrinachol ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a gall ddelio â galwadau mewn dros 100 o ieithoedd. Os nad ydych yn cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol gallwch gysylltu â llinell gymorth Hawliau Cyflog a Gweithio neu ddefnyddio’r ffurflen i wneud ymholiad neu gŵyn ar-lein.

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Additional links

Cyfraddau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Cael gwybod beth yw’r cyfraddau newydd

Allweddumynediad llywodraeth y DU