Mae gan bron bawb sy'n gweithio yr hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (ICC) o leiaf. Er mwyn gweld a ydych yn cael eich talu ar gyfradd yr ICC bydd angen i chi wybod eich cyfnod cyfeirnod cyflog a pha elfennau o'r cyflog sy'n cyfrif at yr ICC.
Mae'n rhaid i'ch cyflog cyfartalog fesul awr fod yr ICC o leiaf, wedi'i gyfrifo dros gyfnod a elwir yn 'gyfnod cyfeirnod cyflog'.
I gael gwybod a ydych yn cael yr ICC mae angen i chi wybod beth sy'n cyfrif tuag ato a beth nad yw'n cyfrif. Mae angen i chi hefyd wybod pa oriau y mae gennych yr hawl i gael tâl amdanynt - mae hyn yn dibynnu ar y pedwar math o waith yr ydych yn ei wneud dan reolau'r ICC:
Hwn fel arfer yw'r cyfnod y cewch eich talu amdano. Felly os cewch eich talu'n wythnosol bydd eich cyfnod cyfeirnod cyflog yn wythnos, ac os cewch eich talu bob mis bydd yn fis. Mae'n rhaid i chi gael eich talu, ar gyfartaledd, yr ICC o leiaf yn ystod bob cyfnod cyfeirnod cyflog.
Dan reolau'r ICC, ni chaiff y cyfnod cyfeirnod cyflog fod yn hwy na mis calendr. Hyd yn oed os bydd eich cyflogwr yn eich talu dros gyfnodau hwy, er enghraifft unwaith bob chwarter, mae'n rhaid i chi gael yr ICC ar gyfartaledd ar gyfer bob mis calendr yn ystod y chwarter hwnnw.
Wrth gyfrifo p'un ai a ydych yn cael yr ICC ai peidio, nid dim ond y cyflog a gewch fydd yn cyfrif yn ystod y cyfnod cyfeirnod cyflog. Mae hefyd yn cynnwys y cyflog yr ydych yn ei ennill yn ystod y cyfnod hwnnw, ond nad ydych yn ei gael tan y cyfnod nesaf. Er enghraifft, os cewch eich talu bob mis a'ch bod yn gwneud rhywfaint o waith goramser ddiwedd mis Gorffennaf, ond na chewch eich talu tan fis Awst, mae'n cyfrif at eich cyflog ym mis Gorffennaf.
Caiff y cyflog a gewch ei ddefnyddio i gyfrifo'r ICC, a elwir yn ICC.
Caiff yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ei gyfrifo ar sail cyflog gros (cyn tynnu taliadau treth ac Yswiriant Gwladol). Yn ogystal â'r cyflog sylfaenol a gewch am y gwaith rydych wedi'i wneud, gall eich cyflog gros gynnwys mathau eraill o daliadau sy'n cyfrif at yr ICC:
Mae llawer o daliadau nad ydynt yn cyfrif at ICC a dylech eu tynnu o gyfanswm eich cyflog cyn cyfrifo p'un ai a ydych yn cael yr ICC ai peidio. Mae'r taliadau nad ydynt yn cyfrif fel a ganlyn:
Didyniadau a thaliadau nad ydynt yn lleihau eich ICC
Caiff rhai didyniadau o gyflog, neu daliadau a wnewch i'ch cyflogwr, eu hanwybyddu wrth gyfrifo ICC. Felly os cewch gyflog o £5.73 yr awr (er enghraifft) ac y bydd didyniadau neu daliadau am unrhyw un o'r rhesymau a restrir isod yn lleihau hyn i £4, dylech weld p'un ai a yw £5.73 yr awr, nid £4, yn bodloni'r ICC ai peidio yn eich achos chi.
Mae'r didyniadau a'r taliadau nad ydynt yn lleihau'r ICC fel a ganlyn:
Caiff rhai didyniadau o gyflog, neu daliadau a wnewch i'ch cyflogwr, eu hystyried wrth gyfrifo ICC. Felly os cewch gyflog o £7 yr awr (er enghraifft) a bod didyniadau neu daliadau yn lleihau hyn i £5 yr awr am unrhyw un o'r rhesymau a restrir isod, dylech weld p'un ai a yw £5 yr awr, nid £7, yn bodloni'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ai peidio yn eich achos chi.
Mae'r didyniadau a'r taliadau sy'n lleihau'r ICC fel a ganlyn:
Ystyr buddiannau ymarferol yw unrhyw beth y mae eich cyflogwr yn ei ddarparu ar gyfer eich lles chi ar wahân i'ch cyflog. Does dim yn rhwystro cyflogwyr rhag cynnig buddiannau ymarferol i chi, ond ar wahân i swm ar gyfer llety, ni ellir cyfrif gwerth cyfatebol hyn mewn arian at gyflog ICC.
Mae enghreifftiau o fuddiannau ymarferol nad ydynt yn cyfrif at gyflog ICC fel a ganlyn:
Llety
Os yw'ch cyflogwr yn darparu llety i chi, gall rhywfaint o gost y llety hwnnw gyfrannu at eich ICC.
Mae’r Hawliau Cyflog a Gwaith yn rhoi cefnogaeth a chyngor cyfrinachol ar yr isafswm cyflog a gall ymdrin â galwadau mewn dros 100 o ieithoedd. Os nad ydych yn cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol gallwch wneud cwyn i’r llinell gymorth.