Dylai bron bob gweithiwr yn y DU gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Mae eich cyflogwr yn torri'r gyfraith os nad yw'n ei dalu i chi. Nid oes ots sut yr ydych yn cael eich talu, beth mae eich contract yn ei ddweud na pha drefniadau yr ydych wedi'u gwneud gyda'ch cyflogwr.
I gael cymorth a chyngor cyfrinachol am yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ffoniwch 0800 917 2368
Os oes gennych gontract cyflogaeth rydych yn gyflogai ac felly'n weithiwr at ddibenion rheolau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Hyd yn oed os nad oes gennych gontract cyflogaeth, mae'n dal yn bosib eich bod yn weithiwr a bod gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol os ydych yn gweithio'n bersonol i rywun arall (dan gontract gweithiwr, megis contract i ddarparu gwasanaethau'n bersonol). Os ydych chi'n hunangyflogedig yng ngwir ystyr y gair nid oes gennych hawl i gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Weithiau ceir dryswch ynghylch a oes gan fathau penodol o weithwyr hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Os ydych chi'n un o'r mathau canlynol o weithwyr dylech gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol:
Os ydych yn weithiwr asiantaeth mae gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Ystyrir mai pwy bynnag sy'n eich talu - yr asiantaeth fel arfer, yn hytrach na phwy bynnag yr ydych yn gweithio iddo - yw eich cyflogwr at ddibenion yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Os ydych yn 19 oed neu'n hŷn ac wedi cwblhau blwyddyn gyntaf eich prentisiaeth mae gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. At ddibenion yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol, mae prentisiaid naill ai'n weithwyr â chontractau prentisiaeth neu'n weithwyr sy'n cymryd rhan mewn cynlluniau hyfforddi ac sy'n cael eu trin fel petai ganddynt gontract prentisiaeth. Dyma'r cynlluniau:
Os ydych chi'n weithiwr o'r tu allan i'r DU a'ch bod yn gweithio'n gyfreithlon yn y DU mae gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Nid oes ots am faint y byddwch yn aros yma, p'un ai am gyfnod hir neu gyfnod byr, nac yn lle mae eich cyflogwr - yn y DU neu yn rhywle arall.
Os ydych yn cael eich talu yn ôl nifer yr eitemau yr ydych yn eu cynhyrchu neu'r tasgau yr ydych yn eu gwneud, rhaid i chi naill ai gael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol am bob awr a weithiwch neu'r hyn a elwir yn gyfradd 'deg' fesul tasg am bob darn a gynhyrchir neu am bob tasg a gyflawnir. Ceir rheolau arbennig ar gyfer cyfrifo hyn.
Ceir cyfreithiau'n ymwneud â chyflogau amaethyddol ar gyfer gweithwyr amaethyddol, felly mae ganddyn nhw hawl i'r Isafswm Cyflog Amaethyddol yn hytrach na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Ni ellir talu llai na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol i'r un gweithiwr amaethyddol. Rhaid talu mwy na'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol i rai gweithwyr amaethyddol oherwydd y ceir Isafswm Cyflog Amaethyddol ar gyfradd uwch.
Os cewch eich talu'n rhannol, neu'n llawn, yn ôl canlyniadau, er enghraifft faint yr ydych wedi'i werthu, mae gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Os ydych yn gweithio gartref mae gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, oni bai eich bod yn rhedeg eich busnes eich hun.
Os ydych chi'n anabl mae gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol, oni bai eich bod yn ymgymryd â gweithgareddau sy'n gysylltiedig â gwaith am resymau therapiwtig yn unig, heb ddim contract sy'n eich rhwymo i'r gwaith na hawl i unrhyw dâl neu wobr arall.
Os ydych yn forwr a'ch bod, dan eich contract, yn gweithio neu fel arfer yn gweithio yn y DU (gan gynnwys dyfroedd mewnol y DU, sy'n golygu morydau a'r môr rhwng tir mawr y DU a'r ynysoedd) mae gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Mae hyn yn berthnasol ni waeth ble mae eich llong wedi'i chofrestru.
Ceir rheolau arbennig ar gyfer morwyr sy'n gweithio ar longau sydd wedi'u cofrestru yn y DU - mae hyn yn golygu bod gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ni waeth lle yn y byd y mae eich llong, oni bai eich bod yn gweithio'n gyfan gwbl allan o'r DU neu nad ydych yn byw fel arfer yn y DU.
Os ydych yn gweithio neu fel arfer yn gweithio yn nyfroedd tiriogaethol y DU neu yn sector y DU neu sector tramor y silff gyfandirol (er enghraifft ar rig olew) mae gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Nid yw hyn yn berthnasol i weithwyr ar longau sydd ar y môr neu sy'n treillio neu'n pysgota.
Os ydych yn cymryd rhan mewn rhaglen sy'n cael cefnogaeth ariannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a bod gennych gontract cyflogaeth gyda'ch cyflogwr, mae gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (oni bai eich bod ar dreial gwaith gyda darpar gyflogwr posib sy'n para dim mwy na chwe wythnos).
Os ydych chi'n hyfforddi ar gyfer swydd neu ar gyfnod prawf mae gennych dal hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Ceir eithriadau ar gyfer rhai prentisiaid a gweithwyr ar gyrsiau hyfforddi.
Os ydych yn gweithio yn y DU fel arfer ond yn gweithio oddi allan i'r DU dros dro, mae gennych hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol.
Mae'n bosib y bydd gan bobl sy'n cymryd rhan yn ambell un o gynlluniau cyflogaeth y llywodraeth, megis y Fargen Newydd, hawl i'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Os ydych yn cymryd rhan yn un o gynlluniau eraill y llywodraeth efallai y cewch fuddion yn hytrach na'r isafswm cyflog. Holwch y trefnwyr a fyddwch yn cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol os ydych yn mynd i gymryd rhan yn un o gynlluniau'r Fargen Newydd neu un o gynlluniau eraill y llywodraeth.