Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Amser o'r gwaith ar gyfer dyletswyddau cyhoeddus

Mae gennych yr hawl i gael amser o'r gwaith ar gyfer rhai dyletswyddau a gwasanaethau cyhoeddus. Mae eich hawliau'n amrywio, gan ddibynnu ar beth yr ydych yn ei wneud a beth yw'r ddyletswydd neu'r gwasanaeth.

Ydych chi'n gymwys?

Dan y gyfraith, mae gennych yr hawl i gael amser o'r gwaith ar gyfer dyletswyddau cyhoeddus os ydych chi'n 'gyflogai' (gweithiwr) ac yn un o'r canlynol (mae dyletswyddau cyhoeddus eraill sy'n gymwys; mae gan yr Adran Masnach a Diwydiant restr gyflawn):

  • ynad, a elwir weithiau'n ynad heddwch
  • aelod o awdurdod lleol, awdurdod yr heddlu, awdurdod addysg lleol, corff llywodraethu ym maes addysg, awdurdod iechyd neu ymddiriedolaeth gofal sylfaenol
  • aelod o unrhyw dribiwnlys statudol, asiantaeth amgylcheddol, neu fwrdd ymwelwyr â charchardai

Ni fyddwch yn gallu cael amser o'r gwaith ar gyfer dyletswyddau cyhoeddus os ydych chi'n un o'r canlynol:

  • yn weithiwr/wraig asiantaeth
  • yn aelod o wasanaeth yr heddlu neu'n aelod o'r lluoedd arfog
  • wedi'ch cyflogi ar lwyfan nwy neu olew ar y môr
  • yn forwr masnachol
  • yn gyflogedig ar gwch pysgota
  • yn was sifil a'ch dyletswyddau cyhoeddus yn gysylltiedig â gweithgareddau gwleidyddol sy'n gyfyngedig dan delerau eich cyflogaeth

Faint o amser gewch chi?

Os ydych chi'n gymwys, fe gewch amser rhesymol o'r gwaith i fynd i gyfarfodydd neu i gyflawni eich dyletswyddau. Rhaid i chi a'ch cyflogwr gytuno ar yr amser ymlaen llaw a gall eich cyflogwr wrthod eich cais os yw'n afresymol. Nid yw'r gyfraith yn pennu maint penodol o amser o'r gwaith.

Penderfynir a yw eich cais am amser o'r gwaith yn 'rhesymol' ar sail:

  • beth yw'r dyletswyddau
  • faint o amser sydd ei angen i'w cyflawni
  • yr effaith ar fusnes eich cyflogwr
  • faint o amser rydych chi eisoes wedi'i gael ar gyfer dyletswyddau cyhoeddus neu ddyletswyddau undeb llafur

A ddylid talu i chi am amser o'r gwaith?

Does dim rhaid i'ch cyflogwyr dalu i chi am amser o'r gwaith ar gyfer dyletswyddau cyhoeddus, er bod llawer yn gwneud hynny. Fel arfer, bydd eich contract cyflogaeth yn dweud a gewch chi'ch talu am yr amser hwn ai peidio. Dylech gael dogfen yn nodi beth yw prif delerau eich cyflogaeth o fewn dau fis i chi ddechrau gweithio.

Mathau eraill o ddyletswyddau cyhoeddus

Mae llawer o gyflogwyr yn awyddus i ddangos ymrwymiad i'w cyfrifoldeb cymdeithasol ac yn rhoi amser o'r gwaith i'w gweithwyr sy'n aelodau o gyrff megis yr heddlu arbennig neu'r Fyddin Diriogaethol. Fodd bynnag, does dim rhaid i'ch cyflogwyr roi'r amser hwn i chi. Os gelwir ar aelodau'r Fyddin Diriogaethol i wasanaethu, bydd eu swyddi wedi'u gwarchod.

Gwasanaeth rheithgor

Rhaid i'ch cyflogwyr roi amser o'r gwaith i chi wasanaethu ar reithgor.

Beth i'w wneud nesaf

Os oes gennych ddyletswyddau cyhoeddus, dylech roi gwybod i'ch cyflogwyr am faint y byddwch chi'n absennol o'r gwaith a pha drefniadau y mae angen eu gwneud yn ystod eich absenoldeb.

Os bydd eich cyflogwyr yn eich atal rhag cael amser o'r gwaith ar gyfer dyletswyddau cyhoeddus, dylech yn y lle cyntaf ddilyn y drefn gwyno a nodir yn eich contract cyflogaeth.

Lle i gael cymorth

Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 47 47 47 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Mae’r Asiantaeth Cysylltiadau Llafur (LRA) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy’n ymwneud â hawliau cyflogaeth i bobl sy’n byw yng Ngogledd Iwerddon. Gallwch gysylltu â’r LRA ar 028 9032 1442 rhwng 9.00 am a 5.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU