Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Hawl gwyliau: rhagarweiniad

Gan ddechrau ar 1 Hydref 2007, bydd gan bob gweithiwr hawl statudol i o leiaf 4.8 wythnos o wyliau blynyddol â thâl (hynny ydy, 24 diwrnod o wyliau â thâl os byddwch yn gweithio pum niwrnod yr wythnos).

Hanfodion yr hawl i wyliau

Mae gennych hawl sylfaenol i wyliau â thâl, ond mae'n bosib y bydd eich cyflogwyr yn cynnig mwy na hyn i chi. Dyma'r prif bethau y dylech wybod am yr hawl i wyliau:

  • gan ddechrau ar 1 Hydref eleni bydd gennych hawl i isafswm o 4.8 wythnos
  • bydd yr hawl yn cynyddu eto i 5.6 wythnos o 1 Ebrill 2009 ymlaen
  • Mae gan y rhai hynny sy'n gweithio'n rhan-amser hawl i gael yr un faint o wyliau pro rata (felly 4.8 ac yna 5.6 wedi'i luosi â'ch wythnos waith arferol)
  • byddwch yn cychwyn cronni eich gwyliau cyn gynted ag y byddwch yn cychwyn gweithio
  • gall eich cyflogwr reoli pryd y byddwch yn cymryd eich gwyliau
  • byddwch yn cael eich cyflog arferol am eich gwyliau
  • pan fyddwch chi'n gorffen mewn swydd, cewch eich talu am unrhyw wyliau nad ydych wedi'u cymryd
  • gallai gwyliau banc a gwyliau cyhoeddus ym Mhrydain gael eu cynnwys yn y gwyliau sylfaenol y mae gennych hawl iddynt

Er mwyn bod yn gymwys i hawlio gwyliau blynyddol bydd angen i chi fod yn weithiwr. Os ydych yn hunangyflogedig, ni fydd gennych unrhyw hawl statudol i gael gwyliau blynyddol â thâl.

Gwyliau cyhoeddus a Gwyliau Banc

Nid oes gennych hawl statudol i gael gwyliau â thâl ar wyliau banc a gwyliau cyhoeddus. Os rhoddir gwyliau â thâl ar wyliau banc neu wyliau cyhoeddus, gall hyn gyfri tuag at eich hawliau gwyliau sylfaenol. Ceir wyth o wyliau banc a gwyliau cyhoeddus penodol ym Mhrydain Fawr.

Os byddwch yn gweithio ar ŵyl banc neu ar ŵyl gyhoeddus, nid oes hawl awtomatig i gael mwy o gyflog. Bydd faint a delir i chi'n dibynnu ar eich contract cyflogaeth.

Beth i'w wneud os byddwch chi'n wynebu problemau

Os nad ydych chi'n cael eich hawl gwyliau llawn, siaradwch â'ch cyflogwr. Os oes gennych gynrychiolydd yn y gwaith (er enghraifft, swyddog Undeb Llafur) fe allwch ofyn iddyn nhw am gymorth. Dilynwch y drefn a ddangosir yn yr erthygl am ddatrys problemau yn y gwaith. Os nad yw hynny'n help, gallwch wneud cwyn i Dribiwnlys Cyflogaeth.

Lle i gael cymorth

Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn cynnig cyngor cyfrinachol a diduedd am ddim am bob mater sy'n ymwneud â hawliau cyflogaeth. Fe allwch chi ffonio llinell gymorth Acas ar 08457 47 47 47 rhwng 8.00 am a 6.00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gall y Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth (CAB) hefyd gynnig cyngor diduedd am ddim. Gallwch ddod o hyd i'ch swyddfa CAB leol yn y llyfr ffôn neu ar-lein.

Os ydych chi'n aelod o undeb llafur, fe allwch chi gael help, cyngor a chefnogaeth ganddyn nhw hefyd.

Allweddumynediad llywodraeth y DU